Wedi ymrwymo i leihau ein heffaith amgylcheddol
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gweithio i daclu problemau’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd a llygredd. Rydym yn cydnabod bod ein gweithrediadau’n cael effaith ar yr amgylchedd, yn fyd-eang ac yn lleol, ac rydym yn ymrwymedig i leihau’r effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd oddi fewn i gyfyngiadau ariannol, gweithredol ac o ran adnoddau.

Tuag at Sero-Net

Mae Cymru'n defnyddio'r hyn sy'n cyfateb i werth tair planed o adnoddau. Mae'n rhaid i ni ddechrau byw o fewn ein gallu (Tuag at Ddyfodol Diwastraff llyw.cymru, PDF) Yna mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o drin y gwastraff sy'n weddill unwaith y byddwn wedi lleihau ac ailgylchu cymaint ag y gallwn.
Nid yw tirlenwi yn opsiwn bellach.
Yn gynnar yn 2020 fe symudon ni at un darparwr rheoli gwastraff ac ynghyd â mwy o gywirdeb data gwastraff, mae’r Gwasanaeth wedi bod yn ailgylchu, yn compostio ac yn adennill 99% o’n gwastraff gyda dim ond 1% yn mynd i safleoedd tirlenwi.

Statws carbon sero-net erbyn 2030
Yn ein ras i Statws Carbon Sero-Net erbyn 2030, mae'r Gwasanaeth wedi gosod targedau iddo'i hun sy'n cyd-fynd â map llwybr Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Ni allwn gyflawni Sero-Net ar ein pen ein hunain. Byddwn yn gweithio gyda'n cymunedau, partneriaid, staff a'n cadwyn gyflenwi i gyflawni ein nodau.
Mwy o wybodaeth

Adroddiad Blynyddol Amgylchedd a Chynaliadwyedd 2021 - 2022
Mae ein hadroddiad yn ymdrin â chyfnod ariannol 2021/22 ac yn crynhoi cyflawniadau a wnaed yn ystod un o’n blynyddoedd mwyaf heriol. Mae'n amlinellu ein perfformiad amgylcheddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a'r cynnydd tuag at ein Hamcanion Amgylcheddol.
Mwy o wybodaeth
Ewch i tudalennau'r Adroddiad Blynyddol Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Gwasanaeth yn derbyn achrediad am yr 8fed flwyddyn yn olynol
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi ennill achrediad Draig Werdd Lefel 5 (Yn agor PDF, ffenestr newydd) am yr 8fed flwyddyn yn olynol.
