Adroddiad Blynyddol Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Mae ein hadroddiad yn ymdrin â chyfnod ariannol 2021/22 ac yn crynhoi cyflawniadau a wnaed yn ystod un o’n blynyddoedd mwyaf heriol.
Mae'n amlinellu ein perfformiad amgylcheddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a'r cynnydd tuag at ein Hamcanion Amgylcheddol.
Ewch i dudalennau'r Adroddiad Blynyddol Amgylchedd a Chynaliadwyedd am fwy o wybodaeth.

Statws carbon sero-net erbyn 2030
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gweithio i daclu problemau’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd a llygredd.
Rydym yn cydnabod bod ein gweithrediadau’n cael effaith ar yr amgylchedd, yn fyd-eang ac yn lleol, ac rydym yn ymrwymedig i leihau’r effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd oddi fewn i gyfyngiadau ariannol, gweithredol ac o ran adnoddau.
Yn ein ras i Statws Carbon Sero-Net erbyn 2030, mae'r Gwasanaeth wedi gosod targedau iddo'i hun sy'n cyd-fynd â map llwybr Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Tuag at Sero-Net

Mae Cymru'n defnyddio'r hyn sy'n cyfateb i werth tair planed o adnoddau. Mae'n rhaid i ni ddechrau byw o fewn ein gallu, yna mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o drin y gwastraff sy'n weddill unwaith y byddwn wedi lleihau ac ailgylchu cymaint ag y gallwn.
Nid yw tirlenwi yn opsiwn bellach.
Yn gynnar yn 2020 fe symudon ni at un darparwr rheoli gwastraff ac ynghyd â mwy o gywirdeb data gwastraff, mae’r Gwasanaeth wedi bod yn ailgylchu, yn compostio ac yn adennill 99% o’n gwastraff gyda dim ond 1% yn mynd i safleoedd tirlenwi.

Gwella bioamrywiaeth o fewn ein dyletswyddau
Mae tanau gwyllt yn gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o gefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt bob blwyddyn.
Mae’r Gwasanaeth am weithio gyda’n cymunedau i adeiladu tirwedd iachach a mwy gwydn, drwy ddatblygu cefn gwlad mwy bioamrywiol ar gyfer ein dyfodol.
Darllenwch ein Hadroddiad Monitro Bioamrywiaeth a Chynllun Gweithredu Adfer Natur am fwy o wybodaeth.

Gwasanaeth yn derbyn achrediad am yr wythfed flwyddyn yn olynol
Dyfernir Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd i sefydliadau sy’n gallu profi rheolaeth amgylcheddol effeithiol ac sy’n cymryd camau i ddeall, monitro a rheoli eu heffeithiau ar yr amgylchedd.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi ennill achrediad Draig Werdd Lefel 5 am yr wythfed flwyddyn yn olynol.
