Ein gweledigaeth

Mae cynaliadwyedd yn ymwneud â gwella ansawdd bywyd mewn ffordd nad yw'n achosi difrod parhaol i'r amgylchedd nac yn atal cenedlaethau'r dyfodol rhag manteisio ar y pethau da yr ydym wedi dod yn gyfarwydd â nhw.

Ein gweledigaeth yw creu amgylchedd gwell i'n cymunedau. Rydym yn gwneud hyn trwy gofleidio cynaliadwyedd amgylcheddol ar draws y Gwasanaeth cyfan.

Rydym yn lleihau ein defnydd o ynni bob blwyddyn ac yn gweithio tuag at anfon dim gwastraff i safleoedd tirlenwi.

Mwy o wybodaeth

Darllenwch Datganiad Amgylcheddol y Prif Swyddog Tân

Crynodeb gweithredol

Mae'r Adroddiad hwn yn cwmpasu'r cyfnod ariannol 2020/21 ac yn crynhoi cyflawniadau a wnaed yn ystod un o'n blynyddoedd mwyaf heriol. Mae'n amlinellu ein perfformiad amgylcheddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a'r cynnydd tuag at ein hamcanion Amgylcheddol.

Yn ogystal ag amlygu ein cyflawniadau amgylcheddol dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r adroddiad hwn hefyd yn amlinellu ein prosiectau cynaliadwyedd gyda'r nod o leihau ein hôl troed carbon, fel ein Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV).

We're committed to reducing our environmental impact

Ein hymrwymiadau

Gwelodd 2020 bob agwedd ar ein cymdeithas yn wynebu blwyddyn anodd a heriol iawn sy'n dal i gael ei theimlo heddiw. Newidiodd y ffordd yr oedd pob sefydliad yn gweithio ac yn cyflawni eu swyddogaethau bob dydd.

Yn ystod yr amser hwn, gwnaethom barhau i ymrwymo i'n gweledigaeth o ragoriaeth ac i ddod yn sefydliad o safon fyd-eang.

Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cynyddol yr angen i ddiogelu'r amgylchedd a gwarchod ei adnoddau gwerthfawr.

Gwasanaeth sy'n amgylcheddol gyfrifol

 

 

Ein Perfformiad

Fel Gwasanaeth, rydym yn ceisio gwella ein heffaith amgylcheddol a'n perfformiad yn barhaus. Er mwyn ein helpu i gyflawni ein nodau amgylcheddol, rydym yn defnyddio monitro a hyfforddi gweithredol parhaus.

Mwy o wybodaeth

Ein hamcanion

Mae'r Gwasanaeth wedi ymrwymo i integreiddio arfer gorau amgylcheddol i'n holl weithgareddau. Rydym yn derbyn ein cyfrifoldebau amgylcheddol ac yn cydnabod ein rhwymedigaeth i leihau ein heffaith amgylcheddol ar ein cymunedau.