Ein hadolygiad o'r Broses Reoli Amgylcheddol

Cynhelir adolygiad o System Reoli Amgylcheddol y Gwasanaeth yn flynyddol er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i fod yn addas, yn ddigonol ac yn effeithiol.
Ein perfformiad
Yn ystod yr adolygiad, trafodir perfformiad mewn perthynas â'r nodau a'r targedau, ynghyd ag unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r System Reoli Amgylcheddol. Trafodir hefyd y materion canlynol:
- Camau gweithredu y mae angen rhoi sylw iddynt oddi ar y cyfarfodydd blaenorol
- Adolygiad o berfformiad
- Adroddiadau ar anghydffurfedd ac adroddiadau ar ganlyniadau Archwiliadau
- Adolygiad o'r cyflawniadau yn unol â'r amcanion a'r targedau cyfredol
- Gosod amcanion a thargedau
- Adolygiad o'r Polisi, y Gweithdrefnau a'r Canllawiau Amgylcheddol
- Adolygiad o'r anghenion o ran hyfforddiant amgylcheddol
- Adolygiad o effeithiolrwydd y prosiectau amgylcheddol yr ymgymerodd y Gwasanaeth â nhw.
Mae'r Adolygiad o'r Broses Reoli yn mynd i'r afael â'r angen posibl i newid y dogfennau amgylcheddol, ac yn sicrhau bod yna ymrwymiad parhaus a chynnydd o ran gwelliant amgylcheddol.
Cynaliadwyedd yn y Gwasanaeth
Darganfyddwch sut mae'r Gwasanaeth yn agosáu at gynaliadwyedd
