Ein hamcanion corfforaethol amgylcheddol

Yn rhan o Gynllun Corfforaethol y Gwasanaeth ar gyfer 2020-2025, datblygwyd pedwar Nod Strategol, sy'n nodi cyfeiriad y Gwasanaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae'r nodau hyn, sef Ein Pobl, Ein Cymunedau, Ein Hamgylchedd ac Ein Dyfodol, yn helpu i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cymunedau.

O dan ein Hamcan Strategol, ‘Ein Hamgylchedd’, anelwn at wella ein harferion gweithio a'n gweithgareddau yn barhaus, gan roi ystyriaeth i'n heffaith amgylcheddol byrdymor a hirdymor.

Lleihau ein hôl troed carbon

Byddwn yn parhau i geisio lleihau ein hôl troed carbon ac yn parhau â’n hymchwil i dechnoleg adnewyddadwy, gynaliadwy, werdd ar gyfer ein fflyd a'n hadeiladau, gan chwilio am gyfleoedd i gydweithredu er mwyn gwella ein heffaith ar yr amgylchedd.

Dyma un o nodau'r Gwasanaeth i helpu i gyflawni'r nodau Llesiant.

Beth rydyn ni'n ei wneud i gyflawni ein nodau

Mae'r Gwasanaeth wedi sicrhau ei fod yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n gosod cyfrifoldeb cyfreithiol ar Sefydliadau Statudol i fynd ati i ystyried effaith eu gweithgareddau, ynghyd â'r modd y gallai'r gweithgareddau hynny effeithio ar breswylwyr y blaned yn y dyfodol.

Mae'r Gwasanaeth yn adrodd yn flynyddol ar ei bedwar Nod Strategol: Ein Pobl, Ein Cymunedau, Ein Hamgylchedd ac Ein Dyfodol. Mae Asesiad Blynyddol Amcanion Gwella a Lles y Gwasanaeth yn nodi sut yr ydym wedi cyfrannu at y nodau Llesiant ar gyfer y flwyddyn flaenorol, fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Ewch i'n tudalen Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i gael mwy o wybodaeth neu ewch i wefan Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (yn agor mewn ffenestr / tab newydd)

Yn ystod gwanwyn 2020, cyhoeddodd Y Gwasanaethyr Adroddiad Dyletswydd Adran 6 cyntaf a oedd yn ofynnol o dan Ran 1, Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Roedd yr Adroddiad yn amlinellu'r hyn yr ydym ni, y Gwasanaeth, yn ei wneud i warchod a gwella bioamrywiaeth ar ein tir a thrwy ein gweithgareddau. Mae'r Adroddiad llawn i'w weld yn yr Adran ar Gynaliadwyedd a'r Amgylchedd ar wefan allanol y Gwasanaeth.

Mae'n ofynnol i Adroddiad wedi'i ddiweddaru gael ei gyhoeddi bob tair blynedd i amlygu unrhyw gynnydd. I helpu'r Gwasanaeth i weithio tuag at yr amcanion yn yr Adroddiad Adran 6 hwn, cafodd Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth 2020-2023 hefyd ei gyhoeddi, gyda phum prif amcan wedi'u hanelu at arwain y Gwasanaeth i wella ac annog bioamrywiaeth ledled ein hystad.

Darllenwch ein Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth cyntaf (PDF, 3.56Mb)

Mae Safon Rheoli Amgylcheddol y Ddraig Werdd yn rhwymedigaeth wirfoddol sy'n dyfarnu achrediad i Sefydliadau sy'n cymryd camau gweithredu i ddeall, monitro a rheoli eu heffeithiau ar yr amgylchedd. Yn 2014, cyflawnodd y Gwasanaeth Lefel 5, sef y lefel uchaf posibl, sy'n gymaradwy ag ISO 14001:2015.

Ym mis Mawrth 2020, llwyddodd y Gwasanaeth i gynnal achrediad Lefel 5 y Ddraig Werdd am y seithfed flwyddyn yn olynol.

Mae'rr Safon yn dangos bod y Gwasanaeth wedi ymrwymo i reoli'r effaith y mae ein gweithgareddau yn ei chael ar yr amgylchedd, ac mae'n dangos ein bod yn ymwybodol o'r effaith hon ac wrthi'n gweithio i'w lleihau. Rydym yn deall ein cyfrifoldebau amgylcheddol ac yn gweithio'n unol â nhw, ac rydym wedi ymrwymo i wella ein hôl troed amgylcheddol yn barhaus.

Mae'n rhoi sicrwydd sydd wedi'i ddilysu'n allanol i'n Rhanddeiliaid a phartïon sydd â diddordeb fod ein harferion, ein prosesau a'n gweithdrefnau amgylcheddol yn effeithiol ac yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol.

I gael rhagor o wybodaeth am ardystiad y Ddraig Werdd, ewch i Wefan y Ddraig Werdd ewch i Wefan y Ddraig Werdd (yn agor mewn ffenestr / tab newydd)