Rydym wedi ymrwymo i leihau ein prif effeithiau ar yr amgylchedd: defnyddio ynni, teithio busnes a rheoli gwastraff.

Amcanion Amgylcheddol (AA), Targedau a Chanlyniadau ar gyfer 2020-21

 

Amcan

Targed

 

Canlyniad 2020/2021

AA 1

Meithrin ymwybyddiaeth ledled y Gwasanaeth, a hyrwyddo ac adrodd ar bob agwedd a pherfformiad amgylcheddol, er enghraifft Strategaeth Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd 2020-25, Polisïau a Gweithdrefnau Amgylcheddol

a) Cyhoeddi Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol yn fewnol ac yn allanol

b) Cyhoeddi'r drydedd Strategaeth Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd pum mlynedd erbyn haf 2020

c) Sicrhau bod adroddiadau, perfformiad a diweddariadau amgylcheddol yn cael eu cyfathrebu i'r holl staff

Cyhoeddwyd yr Adroddiad ddiwedd 2020

Cyhoeddwyd y Strategaeth yn haf 2020


Dosbarthwyd gohebiaeth trwy'r newyddlen Risg Gorfforaethol newydd, cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ym mis Gorffennaf 2020, Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol a Phosteri'r Ardaloedd Rheoli

AA 2

Meithrin ymwybyddiaeth o'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth newydd ar gyfer 2020-2023 ac annog pob cyflogai i gynorthwyo gyda mentrau amgylcheddol mewn gorsafoedd

a)  Cyhoeddi a chyfathrebu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth 2020-2023

b) Monitro ac adrodd am unrhyw brosiectau bioamrywiaeth

c) Cynnwys y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth yn eitem sefydlog ar yr agenda mewn cyfarfodydd Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd er mwyn meithrin ymwybyddiaeth

Cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth 2020-2023 yn haf 2020

Cafodd y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth ei gynnwys yn eitem sefydlog ar yr agenda yng nghyfarfodydd y Grŵp Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd

AA 3

Ystyried technegau arbed dŵr mewn gorsafoedd

a) Ystyried casglu dŵr glaw mewn gorsafoedd

b) Annog yr arfer o ailddefnyddio dŵr ar gyfer hyfforddiant, lle bo hynny'n bosibl

Wedi'i gynnwys yn Amcan Gweithredol y Gwasanaeth o dan y Nod Strategol Ein Hamgylchedd

AA 4

Lleihau allyriadau Cwmpas 1 a 2 (o gymharu â gwaelodlin 2019-20), a gweithio tuag at adrodd ar allyriadau Cwmpas 3 y Gwasanaeth ar gyfer y fflyd lwyd

a) Gwella'r broses o gasglu data ar fonitro ynni ledled y Gwasanaeth

b) Gwella'r broses o gywain data ar ffigurau allyriadau Cwmpas 3 ar gyfer y fflyd lwyd

Blwyddyn ddigynsail lle na chafodd ceir y gronfa eu defnyddio gymaint

Gostyngiad yn allyriadau Cwmpas 1 a 2

AA 5

Symleiddio trefniadau'r Gwasanaeth ar gyfer casglu gwastraff, a gwella'r broses o fonitro gwastraff trwy gontract newydd. Meithrin ymwybyddiaeth yn y gorsafoedd ac annog yr arfer o leihau ac ailddefnyddio gwastraff yn y lle cyntaf

a) Casglu data cywir o holl safleoedd y Gwasanaeth mewn perthynas â gwastraff cyffredinol a deunydd ailgylchu cymysg sych

b) Cyhoeddi posteri ar gyfer pob Ardal Reoli i dynnu sylw at swm y gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu

Dechreuodd un contractwr gwastraff newydd ar 1 Ebrill 2020 i gwmpasu holl leoliadau'r Gwasanaeth

Bydd yr ystadegau yn cynnwys dadansoddiad o'r gwastraff o bob Ardal Reoli, i'w ddefnyddio ar Bosteri Gwastraff yr Ardaloedd Rheoli

AA 6

Gweithredu a monitro rhaglen i leihau'r defnydd o boteli dŵr plastig untro ledled y Gwasanaeth

a) Cyflwyno poteli dŵr amlddefnydd personol i'r holl bersonél yn lle'r poteli plastig untro

b) Monitro ffigurau'r gwastraff plastig yn y gorsafoedd

c) Monitro'r gostyngiad yn nifer y poteli dŵr a brynir trwy'r Storfeydd

Dosbarthwyd poteli dŵr amlddefnydd unigol i holl aelodau'r staff yn wythnos gyntaf mis Ionawr 2021

Nid oes unrhyw ystadegau ar gael hyd yma

Caiff yr ystadegau eu monitro a'u trafod yn y cyfarfod Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd

AA 7

Cynyddu'r rhaglen ULEV ledled y Gwasanaeth, ac ymchwilio i gerbydau newydd a thechnolegau gwefru i'w defnyddio yn ardaloedd mwy gwledig y Gwasanaeth

a) Cynyddu nifer y cerbydau trydan sy'n gweithredu yn fflyd y gronfa

b) Cynyddu nifer y pwyntiau gwefru sy'n cael eu gosod yn lleoliadau'r Gwasanaeth

c) Cyfleoedd i gydweithredu â phartneriaid allanol i wella'r seilwaith gwefru

22 o gerbydau trydan yn gweithredu yn y fflyd ar hyn o bryd

Pwyntiau gwefru ym mhump o leoliadau'r Gwasanaeth


Cyfarfod ULEV De-orllewin Cymru

Cydweithredu â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn rhan o'i Gynllun ULEV.

Cred Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru mai'r ffordd orau o nodi tystiolaeth o gyfrifoldeb corfforaethol dros reoli'r amgylchedd yw trwy bennu amcanion amgylcheddol ansoddol a meintiol, fel ei gilydd.

Mae'r amcanion hyn yn cyd-fynd â Chynllun Corfforaethol y Gwasanaeth ar gyfer 2020-2024 a'r Strategaeth Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd ar gyfer 2020-2025, fel ei gilydd. Mae'r Gwasanaeth yn defnyddio'r amcanion hyn i fesur ei berfformiad amgylcheddol.

Mae themâu cyffredinol ein hamcanion o ran perfformiad amgylcheddol ar gyfer 2021-22, sy'n wahanol i'r flwyddyn flaenorol, fel a ganlyn:

Mae'r amcanion ar gyfer y flwyddyn fel a ganlyn:

Amcan 1
Meithrin ymwybyddiaeth o'r milltiroedd a'r amser a arbedwyd trwy gynnal cyfarfodydd rhithwir yn ystod y cyfyngiadau symud, ac annog hyn i barhau.

Amcan 2
Cynyddu nifer y Prosiectau Bioamrywiaeth yr ymgymerir â nhw ledled y Gwasanaeth mewn perthynas â Chynllun Gweithredu Bioamrywiaeth 2020-2023, a hynny'n fewnol ac yn allanol.

Amcan 3
Monitro'r defnydd o ddŵr ar safleoedd y Gwasanaeth, a gosod dyfeisiau arbed dŵr lle bo hynny'n bosibl.

 

Amcan 4
Meithrin ymwybyddiaeth o allyriadau carbon trwy ddefnyddio technoleg glyfar i annog unigolion i newid eu hymddygiad. Lleihau'r defnydd o drydan 2% o gymharu â 2019-20.

 

Amcan 5
Annog a meithrin ymwybyddiaeth yn y gorsafoedd er mwyn lleihau ac ailddefnyddio gwastraff yn y lle cyntaf, a thynnu sylw at y gwastraff a gynhyrchir ym mhob Ardal Reoli. Lleihau'r deunydd Ailgylchu Cymysg Sych 2% o gymharu â 2019-20.

 

Amcan 6
Cynyddu nifer y cerbydau trydan a'r pwyntiau gwefru yn ardaloedd mwy gwledig y Gwasanaeth o gymharu â gwaelodlin 2019-20.

Bydd adroddiad ar berfformiad mewn perthynas â'r targedau hyn yn cael ei gynnwys yn Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol 2021-22.

Bydd yr Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol hwn ar gyfer 2020/21 yn cael ei ddilysu'n allanol gan asesydd cofrestredig yn rhan o Archwiliad o Safon Rheoli Amgylcheddol y Ddraig Werdd, a hynny yn ystod y broses o ailasesu'r Safon Amgylcheddol.