Mae yna 58 o leoliadau yn ardal y Gwasanaeth, sy'n cynnwys gorsafoedd tân, gweithdai peirianwyr ac adeiladau gweinyddol. Ar y cyd â chontractwr cynnal a chadw'r tir allanol, rydym yn rheoli ac yn cynnal a chadw ein tir mewn modd sy'n amddiffyn ac yn gwella ein cynefinoedd presennol.
Yn y Gwasanaeth, rydym yn gweithio tuag at annog bioamrywiaeth ar ein safleoedd lle bo hynny'n bosibl, fel yr amlygir yn Nyletswydd Adran 6, Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Rydym yn gwneud hyn fel a ganlyn:
Yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae'r Gwasanaeth wedi datblygu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth tair blynedd ar gyfer 2020-2023, a hynny er mwyn amlinellu amcanion i annog a gwella bioamrywiaeth ar safleoedd y Gwasanaeth.
Mae'r pum prif amcan a amlinellir yn y Cynllun fel a ganlyn:
- Ledled y Gwasanaeth, sefydlu diwylliant o ymwybyddiaeth a chadwraeth mewn perthynas â rhywogaethau a chynefinoedd ar ein safleoedd, ynghyd â Chynllun Gweithredu Bioamrywiaeth
- Sicrhau rheolaeth strwythuredig a threfniadau monitro ac adrodd rheolaidd mewn perthynas â'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth
- Gweithio gyda grwpiau bywyd gwyllt, grwpiau bioamrywiaeth a grwpiau gwarchod lleol i ddenu rhywogaethau i'r safleoedd a gwarchod a gwella ardaloedd o ddiddordeb arbennig
- Nodi a mapio cynefinoedd a rhywogaethau pwysig a leolir ar safleoedd y Gwasanaeth
- Sicrhau bod tir y Gwasanaeth Tân ac Achub yn cael ei reoli i annog a gwella bioamrywiaeth ar y safle.
Sefydlwyd Gweithgor ar gyfer y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth i helpu i gyflawni'r amcanion, a bydd hyn hefyd yn eitem sefydlog ar yr agenda yng nghyfarfodydd y Grŵp Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd.
Annog, gwella ac amddiffyn
Rheolir ein holl safleoedd i annog, gwella ac amddiffyn y fflora a'r ffawna ar y safle hwnnw a'r tir cyfagos. O ganlyniad, mae rhai o'r safleoedd hyn bellach yn denu mwy a mwy o adar a phryfed amrywiol.
Er mwyn annog a chynyddu bioamrywiaeth, mae'r gwaith o gynnal a chadw'r tir ar ein safleoedd yn cynnwys:
- Rheoli clymog Japan
- Cynnal a chadw coed
- Torri glaswellt
- Casglu dail
- Tocio gwrychoedd/llwyni
- Cynnal a chadw llwyni/gwelyau blodau
Mae’r Gwasanaeth yn gwasanaethu mewn nifer o safleoedd dynodedig. Rydym yn cynnal Cynlluniau Ymateb i Ddigwyddiadau ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), sy'n ystyried gwerth y safle mewn modd priodol a sensitif, ac rydym yn adolygu'r broses yn rheolaidd.
Mae gennym nifer o orsafoedd sydd ar ffiniau'r safleoedd dynodedig, ond mae'r gorsafoedd a gynhwysir yn uniongyrchol yn y safleoedd dynodedig wedi'u rhestru isod:
Gorsaf y Gwasanaeth |
Safle Dynodedig |
Gorsaf Dân Aberhonddu |
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog |
Gorsaf Dân Crughywel |
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog |
Gorsaf Dân Dinbych-y-pysgod |
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro |
Gorsaf Dân y Gelli Gandryll |
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog |
Gorsaf Dân Talgarth |
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog |
Gorsaf Dân Tyddewi |
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro |
Gorsaf Dân Ynys Bŷr |
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro |
Bu'r Gwasanaeth yn gweithio'n agos gyda Phartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru i weithredu haen bioamrywiaeth ar y Terfynellau Data Symudol sydd yn y peiriannau tân yn Ardal Reoli Sir Benfro. Mae hon yn amlygu tair thema benodol o ran rhywogaethau pwysig neu rywogaethau sydd mewn perygl, sy'n helpu i amddiffyn rhywogaethau mewn lleoliadau penodol ac yn helpu i atal lledaeniad rhywogaethau estron goresgynnol. Mae'r haen hon yn cael ei hystyried ar gyfer ei chyflwyno i Ardaloedd Rheoli eraill yn y Gwasanaeth.
Prosiectau Bioamrywiaeth a chydweithrediadau
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, er gwaethaf y cyfyngiadau symud cenedlaethol, cafwyd nifer o gyfleoedd i gydweithredu ar brosiectau amgylcheddol i amddiffyn neu wella bioamrywiaeth ar safleoedd y Gwasanaeth yn yr Ardal Reoli.
Trwy is-grŵp BGC Abertawe, daeth cyfle i wneud cais am gyllid ddiwedd 2020. Cyflwynwyd cais i greu rhwystrau tân ar dir comin yn ardal Abertawe.
O ganlyniad i gynllun Llywodraeth Cymru, Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ddechrau 2021 sefydlwyd cydweithrediad rhwng Partneriaeth Natur Leol Sir Benfro a'r Gwasanaeth i osod blychau adar ar gyfer gwenoliaid ar y gorsafoedd tân yn Ardal Reoli Sir Benfro. Darparwyd cyllid i wella bioamrywiaeth mewn ardaloedd lle mae pobl yn byw ac yn gweithio.
Prynwyd nifer o flychau a dyfeisiau sain gan Bartneriaeth Natur Leol Sir Benfro, a fu'n cydweithredu ag aelodau'r BGC lleol i'w gosod ar eu hadeiladau. Defnyddir y ddyfais sain i alw'r adar at y blychau, gan arwain at well canlyniadau o ran defnyddio'r nythod. Bydd y blychau hyn yn cael eu gosod yn holl leoliadau'r Gwasanaeth yn Sir Benfro erbyn mis Mai 2021 er mwyn sicrhau eu bod yn eu lle cyn i'r adar gyrraedd.
Datblygwyd cynllun newydd i adeiladu cymhwyster draenio cynaliadwy ar un ochr i orsaf Llandrindod. Mae'r cynlluniau wedi cael eu cymeradwyo, ac mae gwaith y prosiect wedi dechrau gyda'r nod o'i gwblhau ym mis Ionawr 2022. Mae'r cynllun yn cynnwys gardd dŵr glaw gyda llwyni a choed brodorol.
Yn dilyn llwyddiant gweithredu haen bioamrywiaeth ar y derfynell data symudol yn Ardal Reoli Sir Benfro, roedd Cyngor Abertawe yn awyddus i weithio gyda’r Gwasanaeth i roi prosiect tebyg ar waith yn ardal Abertawe a'r cyffiniau.
Bydd ymarfer pen desg yn ffurfio sail hyn, ac enwyd Reynoldston a Phontarddulais fel y ddau leoliad ar gyfer yr ymarfer. Ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn, nid yw Cyngor Abertawe wedi cysylltu â ni i ymgymryd â'r ymarfer.
Ar hyn o bryd, mae pentref Llanandras yn gweithio i fod yn un o gymunedau'r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol. O ganlyniad, cysylltodd preswylydd lleol â'n gorsaf dân i ofyn i ni helpu gyda nod y Gymdeithas a chydweithio i leihau'r golau a allyrrir o'n gorsaf ar nosweithiau pan nad oes driliau yn cael eu cynnal. Byddai newidiadau bach, megis gosod canfodydd PIR wedi'i gysylltu â golau LED, ynghyd â golau LED bach wedi'i ongli am i lawr, yn lleihau llygredd golau ond hefyd yn darparu lefelau diogel o olau i'r personél yn yr orsaf.
Roedd Dyletswydd Adran 6 yn nodi nid yn unig gyfrifoldeb i annog bioamrywiaeth ar safleoedd ein Gwasanaeth, ond hefyd gyfrifoldeb i'w hamddiffyn ar y tir yr ydym yn gweithio arno yn rhan o Wasanaeth Tân ac Achub. Yn ystod 2020, deliodd y Gwasanaethau Tân ac Achub ledled Cymru â 2,253 o danau glaswellt. Bob blwyddyn, mae tanau yn gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o ardaloedd cefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt. Gellir atal y rhan fwyaf o'r tanau hyn, a achosir trwy ein hymddygiad esgeulus ni. Mae Ymgyrch Dawns Glaw yn dasglu amlasiantaethol o arbenigwyr o asiantaethau allweddol ledled Cymru, sy'n gweithio gyda'i gilydd i leihau a, lle bo hynny'n bosibl, ddileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru.
Mae'r personél sy'n ymateb i danau yn cyfathrebu â'i gilydd yn gyson, a gall yr wybodaeth a rennir yn ystod digwyddiadau arwain at newid cynllun tactegol a all leihau'n sylweddol swm y dŵr a ddefnyddir a swm y dŵr ffo yn ystod digwyddiadau, gan amddiffyn yn amgylchedd yn dilyn tân.
Mae ein holl beiriannau tân yn cynnwys ‘Pecynnau Cydio’ i atal llygredd amgylcheddol, sy'n cynnwys padiau amsugnol, pwti selio wedi'i wneud o glai, a matiau i selio draeniau. Mae'r rhain yn cael eu defnyddio i gadw'r llygredd yn y ffynonellau cyn iddynt gael eu symud oddi yno gan gontractwyr arbenigol.
Unedau Amddiffyn yr Amgylchedd Arbenigol
Mae gan y Gwasanaeth dair Uned Diogelu'r Amgylchedd (EPU) arbenigol wedi'u lleoli'n strategol yng Ngorsafoedd Tân y Drenewydd, Llanelli a Doc Penfro. Defnyddir y cerbydau hyn i storio a chludo cyfarpar yn benodol ar gyfer atal llygredd amgylcheddol. Mae'r cyfarpar sy'n cael ei gadw yn yr Unedau yn helpu i leihau neu i liniaru effeithiau'r digwyddiadau y mae'r Gwasanaeth yn ymateb iddynt. Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n cynnal a chadw'r cyfarpar. Gellir hefyd ddefnyddio'r Unedau Amgylcheddol i ddibenion dihalogi diffoddwyr tân, gan eu bod yn cynnwys cyfleuster ar gyfer cyfyngu dŵr ffo halogedig er mwyn lleihau'r niwed i'r amgylchedd.
Mae'r Uned yn cynnwys cyfryngau amsugno cemegion ac olew, a ddefnyddir i atal y sylwedd rhag mynd i mewn i'r cyrsiau dŵr, gan leihau'r effaith ar yr amgylchedd. Mae yna hefyd amrywiaeth o ddarnau eraill o gyfarpar a ddefnyddir i ddelio â digwyddiadau gweithredol sy'n ymwneud â chemegion: bagiau vetter i selio gollyngiadau, peiriant niwmatig ar gyfer llwch peryglus, drymiau gorfaint, matiau draeniau, ac ati.
Prif ddiben yr uned yw ymateb i argyfyngau amgylcheddol ledled ardal y Gwasanaeth. Mae'r Gwasanaeth hefyd yn gweithio'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Nod y cydweithio hwn yw lleihau'r peryglon i'r amgylchedd, cyhyd ag y bo hynny'n ymarferol bosibl, o ganlyniad i drydydd partïon, llifogydd, a gweithgareddau'r Gwasanaeth Tân ac Achub wrth iddo ddelio â digwyddiadau, ac mae'n annog mwy o gysylltu, cynllunio a hyfforddiant.
Dyma'r ystadegau o ran galwadau am yr Uned Diogelu'r Amgylchedd (EPU) yn ystod y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf:
|
2019/2020 |
2020/2021 |
Galwadau am yr Uned |
46 |
36 |
Rydym yn gweithio'n agos gyda CNC i gael arweiniad yn ystod digwyddiadau sy'n peri risg uchel i'r amgylchedd. Yn ogystal â chydweithio yn ystod digwyddiadau argyfwng, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflenwi eitemau traul i’ Gwasanaeth i'w defnyddio yn ystod digwyddiadau, ac mae'r holl gostau'n cael eu hadennill gan yr ‘unigolyn cyfrifol’ yn dilyn digwyddiad lle y defnyddiwyd y cyfarpar.
Yn un o orsafoedd tân Abertawe, mae gennym gytundeb rhannu safle gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i storio cyfarpar monitro aer ar un o'i gerbydau.
Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd, yn genedlaethol ac yn lleol, er mwyn parhau â'r gwaith cadarnhaol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi'r Gwasanaeth o ran ein hyfforddiant a'n hymarferion, gan adeiladu ar y berthynas sydd eisoes yn bodoli.
Mae atal tanau yn un o nodau allweddol yr Adrannau Diogelwch Cymunedol a Diogelwch Tân Busnesau. Er ei bod yn amhosibl pennu'n fanwl gywir y buddion uniongyrchol i'r gymuned, po fwyaf o danau y gellir eu hatal, mwyaf y bydd yr halogiad a'r llygredd dilynol i'r amgylchedd hefyd yn cael eu hatal. Mae timau Diogelwch Cymunedol a Diogelwch Tân Busnesau pwrpasol y Gwasanaeth yn sicrhau bod ein cymunedau, ein heiddo a'u hamgylcheddau yn cael eu hamddiffyn yn well rhag risgiau diarwybod a/neu effeithiau tanau bwriadol.
Mae'r Gwasanaeth yn gwneud hyn trwy ddarparu nifer o fentrau i leihau'r risg o danau mewn busnesau ac yn y gymuned, mentrau sy'n darparu negeseuon allweddol am y difrod y mae achosion o dân a thanau bwriadol yn ei achosi i fusnesau, i'r gymuned yn gyffredinol, ac i'r amgylchedd.
|
2018/2019 |
2019/2020 |
2020/2021 |
Tanau Eiddo/Cerbydau/Addysg (Prif Danau) |
1429 |
1300 |
1153 |
Tanau Glaswellt/Sbwriel (Tanau Eilaidd) |
2301 |
1851 |
1912 |
Mae tanau glaswellt, coetir a chnydau a gynnwyd yn fwriadol wedi'u cynnwys yn yr ystadegau hyn, gan y byddai'r tanau hyn yn cael effaith uniongyrchol a dinistriol ar yr amgylchedd a'r fioamrywiaeth a allai fod yn nythu yno.
Mesur a monitro: data amgylcheddol
Darganfyddwch fwy ar ein tudalen Mesur a Monitro: Data Amgylcheddol.
