Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi llunio Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol am yr wyth mlynedd ddiwethaf. Mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu cyfnod ariannol 2020-21 ac yn crynhoi'r hyn a gyflawnwyd yn ystod un o'n blynyddoedd mwyaf heriol. Mae'n amlinellu ein perfformiad amgylcheddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ynghyd â'r cynnydd a wnaed tuag at ein Hamcanion Amgylcheddol.

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi meysydd perfformiad a monitro allweddol y Gwasanaeth mewn perthynas â'r meysydd lle rydym yn cael yr effaith fwyaf ar yr amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys ein cyfleustodau o ran y defnydd o ynni ac allyriadau carbon, yn ogystal â'n fflyd a'r gwastraff a gynhyrchir gan holl safleoedd y Gwasanaeth.

Yn ogystal ag amlygu ein cyflawniadau amgylcheddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Adroddiad hwn hefyd yn amlinellu ein prosiectau cynaliadwyedd a anelir at leihau ein hôl troed carbon, er enghraifft Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV).


Cyflawni ein hamcanion

Er mwyn ein helpu i gyflawni ein hamcanion amgylcheddol, rydym yn gweithio tuag at Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd (2016). Mae'r safon yn cynorthwyo ac yn ategu ein proses gwneud penderfyniadau, gan sicrhau gwelliant amgylcheddol parhaus flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'r Safon yn cyd-fynd ag ISO 14001:2015, sy'n sicrhau ein bod yn cynnwys ac yn ystyried partïon sydd â diddordeb yng nghyd-destun y sefydliad, a hynny o ran pwysau mewnol, allanol a chymdeithasol.

Rydym ni, y Gwasanaeth Tân ac Achub, yn ceisio sicrhau bod ein holl weithrediadau a gweithgareddau yn helpu i leihau'r effaith y mae tanau'n ei chael ar yr amgylchedd, yn ogystal â helpu'r effaith y gallai digwyddiadau ei chael ar yr economi a'r gymdeithas leol. Yn hynny o beth, mae gan yr holl staff gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn gweithio tuag at amcanion ac ymwybyddiaeth amgylcheddol, gan helpu i wella'r Gwasanaeth a chreu dyfodol cynaliadwy.