Yn ystod haf 2020, cyhoeddodd y Gwasanaeth ein trydedd Strategaeth Cynaladwyedd a'r Amgylchedd pum mlynedd ar gyfer 2020-2025, sy'n nodi ein hymrwymiad i arferion cynaliadwy yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Gwasanaeth wedi cymryd camau breision ac wedi cyflawni nifer o'r nodau ac amcanion amgylcheddol a amlinellir yn y Strategaeth Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd ar gyfer 2020-2025, gan gynnwys:

  • Ymgysylltu â'r gymuned mewn perthynas â thanau bwriadol a thanau gwyllt
  • Caffael cynaliadwy
  • Mentrau ynni adnewyddadwy a monitro cyfleustodau
  • Sicrhau gwelliannau ledled y Gwasanaeth o ran gwastraff ac ailgylchu
  • Cyflwyno fflyd o Gerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV) a phwyntiau gwefru trydan
  • Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth cyntaf y Gwasanaeth ar gyfer 2020-2023.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, nid yw'r Gwasanaeth wedi cofnodi unrhyw achos o dorri deddfwriaeth amgylcheddol, nac unrhyw achos o fod yn gyfrifol am unrhyw ddigwyddiadau'n ymwneud â llygredd.

 

Beth rydyn ni'n ei wneud amdano

Mae'r Gwasanaeth yn defnyddio ‘fframweithiau busnes a gefnogir’, er enghraifft fframwaith Dodrefn Gwerth Cymru. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda'r Weinyddiaeth Ddodrefn i ddefnyddio dodrefn a ailgylchwyd, er enghraifft defnyddiwyd dodrefn wedi'u hailgylchu i ddodrefnu'r swyddfeydd ym Mhencadlys y Gwasanaeth yng Nghaerfyrddin, yn ogystal â'r prosiect i adnewyddu y tu mewn i Orsaf Dân Llanfair Caereinion.

Caffael Cynaliadwy

Yn ogystal â'r amodau caffael cynaliadwy, mae'n ofynnol i'n Cyflenwyr a'n Contractwr ddatgan eu cymwysterau amgylcheddol eu hunain, a chadarnhau eu bod yn deall disgwyliadau'r Gwasanaeth ac y byddant yn glynu wrthynt.

Mae gan y Gwasanaeth rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried yr hierarchaeth gwastraff wrth drin gwastraff. Mae'r hierarchaeth yn nodi, yn ôl trefn blaenoriaeth, yr opsiynau i'w hystyried o ran rheoli gwastraff. Mae'n rhestri'r opsiynau o ran rheoli gwastraff yn ôl yr hyn sydd orau ar gyfer yr amgylchedd, ac mae'n rhoi pwyslais ar atal gwastraff cyn ailddefnyddio ac ailgylchu. Dim ond ar ôl ystyried yr opsiynau hyn y dylai gwastraff gael ei waredu mewn safleoedd tirlenwi.

Mae'r Gwasanaeth yn ailddefnyddio deunyddiau sydd dros ben yn fewnol ac yn allanol, lle bo hynny'n bosibl, yn enwedig yn achos y sefydliadau isod:

  • Mae'r Gwasanaeth wedi rhoi llawer iawn o ddodrefn swyddfa ail-law i Sefydliad Enfys (sy'n uwchgylchu dodrefn ar gyfer pobl ddifreintiedig)
  • Mae holl deiars treuliedig y Cerbydau Nwyddau Mawr (LGV) yn cael eu dychwelyd i ATS, sy'n eu harchwilio ac yna'n eu hailgylchu i greu meysydd chwarae a gorchuddion ardaloedd ar gyfer caeau chwarae plant
  • Mae'r Weinyddiaeth Ddodrefn yn darparu dodrefn swyddfa i'r Gwasanaeth o blith stoc sydd wedi'i huwchgylchu neu ei difrodi.

Mae'r Gwasanaeth wedi bod yn gweithio gyda Busnes Cymru a'i ragflaenydd er tua 14 blynedd er mwyn chwalu'r rhwystrau i alluogi busnesau bach a chanolig (BBaChau) i dendro am waith yn y sector cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau ‘Cwrdd â'r Prynwr’ ar gyfer prosiectau mawr i alluogi BBaChau i gynnig am gyfleoedd is-gontractio.

Mae'r Gwasanaeth yn cynnwys cymalau yn ei gontractau sy'n annog cyflenwyr i ddatblygu ymagwedd ragweithiol at gydraddoldeb a materion moesegol ac amgylcheddol, ac mae'r personél caffael yn cael hyfforddiant ar gynaliadwyedd.

Mae'r Gwasanaeth yn mynnu cynhyrchion ecogyfeillgar mewn manylebau, lle bo hynny'n bosibl, e.e. fframweithiau cyflenwi deunydd ysgrifennu a deunydd porthorol.

Mae gan y Gwasanaeth nifer o agweddau ac effeithiau amgylcheddol sy'n ymwneud â'n gweithrediadau bob dydd.

Agweddau amgylcheddol yw'r elfennau o weithgareddau'r Gwasanaeth Tân ac Achub a allai effeithio ar yr amgylchedd.

 

Datblygwyd Cofrestr ar sail yr Adolygiad Amgylcheddol Cychwynnol ac ar sail ystyried gweithgareddau a gweithrediadau'r Gwasanaeth. Ymdrinnir â'r rheiny y mae iddynt effeithiau arwyddocaol yn nogfen y Gofrestr Agweddau Amgylcheddol.

Adolygir y trosolwg o'r agweddau arwyddocaol yn flynyddol i sicrhau eu bod yn parhau'n berthnasol ac i sicrhau nad oes angen cynnwys unrhyw agweddau nac effeithiau arwyddocaol newydd.

Mae yna gymysgedd o agweddau yn y Gofrestr yr ystyrir eu bod yn cael effaith ledled y Gwasanaeth, gan gynnwys meysydd tebyg i Lygredd Aer, Llygredd Dŵr, Rheoli Gwastraff ac Ynni. Mae’r Gwasanaeth yn nodi pum agwedd arwyddocaol yr ystyrir eu bod yn peri risg uchel ac a gwmpasir o dan y canlynol:

  • Llygredd Dŵr a Draenio Safleoedd
  • Y defnydd o ynni a chynhyrchu CO2
  • Cerbydau Fflyd a theithio ar gyfer busnes
  • Llygredd posibl mewn perthynas â Diffodd Tanau.

Disgrifir y meini prawf ar gyfer gwerthuso yn fanylach yn ein System Reoli Amgylcheddol. Mae'r meini prawf ar gyfer yr agweddau a'r effeithiau amgylcheddol arwyddocaol yn cael eu pennu trwy gyfrwng y canlynol:

  • asesu graddfa'r agwedd a'r effaith
  • penderfynu a yw'r agweddau'n cael eu rheoli gan unrhyw ddeddfwriaeth
  • penderfynu a yw'r agwedd yn fygythiad i enw da corfforaethol, a
  • phenderfynu a yw'r agwedd yn effeithio ar allyriadau carbon y sefydliad.

Mae'r Gofrestr Agweddau ac Effeithiau wedi'i chynnwys yng nghylch gwaith dilysu Allanol Blynyddol y Ddraig Werdd sy'n sicrhau cydymffurfedd.

Adran 2

Darganfyddwch am ein perfformiad amgylcheddol