Mae'r Gwasanaeth wedi ymrwymo i leihau ein hallbwn gwastraff a helpu i ddargyfeirio cymaint o wastraff â phosibl o safleoedd tirlenwi.

Isod mae mwy o wybodaeth ar sut rydyn ni'n targedu gwastraff.

Mae gan y Gwasanaeth dri gweithdy penodedig lle caiff gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio ei wneud ar y cerbydau. Mae gan bob un o'r gweithdai hyn gyfleusterau ailgylchu ar gyfer gwahanu gwastraff, gan gynnwys papur, plastig, alwminiwm, gwydr, gwastraff halogedig, batris cerbydau a metel sgrap. Mae hyn yn sicrhau bod gwastraff halogedig a pheryglus, er enghraifft olew injan, hen hidlenni olew a gwastraff amsugnol yn cael eu trosglwyddo a'u gwaredu mewn modd diogel.

Mae'r holl fetel sgrap a gynhyrchir yn ein gweithdai yn cael ei ailgylchu trwy drefniant contract ffurfiol. Mae prif weithdy'r Gwasanaeth yng Nghoed-yr-iarll yn cael ei gynnwys yn Archwiliad Ailasesu allanol y Ddraig Werdd, a gynhelir yn flynyddol.

Mae'r ystadegau sy'n ymwneud â gwastraff y gweithdai yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn o ganlyniad i amlder y casgliadau a'r amserlen gwasanaethu.

 

2019/2020

2020/2021

Metel Sgrap (tunelli metrig)

5.3

6.83

Gwastraff Amsugnol (kg)

321

200

Hidlenni Olew (kg)

1,335

384

Olew Injan (litrau)

5390

2041

Cydrannau peryglus, e.e. Darnau Cerbydau (kg)

1,500

957

 

Byddai trefniadau gwasanaethu amrywiol dros y ddwy flynedd ariannol yn arwain at swm uwch o wastraff yn cael ei gynhyrchu gan y gweithdai.

Rheolir y gwastraff o'r gweithdai yn ganolog, ac mae'r trefniadau wedi cael eu symleiddio lle bo hynny'n bosibl. Sefydlwyd Contractwr unigol i reoli'r gwaith o gasglu a gwaredu mwyafswm y gwastraff peryglus, sy'n golygu ei bod yn haws monitro'r broses.

Mae'r trefniadau sydd 'nawr ar waith yn y gweithdai fel a ganlyn:

  • Ramco – i waredu tecstilau a chyfarpar gweithredol ac amrywiol diangen
  • Ocsiwn Geir Merthyr – i waredu cerbydau ar ddiwedd eu hoes
  • Cwmni ailgylchu LAS – i waredu'r holl fetel sgrap

Gan fod y Gwasanaeth yn sefydliad mawr, rydym yn cynhyrchu llawer o wastraff cyffredinol a gwastraff ailgylchadwy cymysg sych. Oherwydd hyn, mae monitro'r gwastraff yn hanfodol er mwyn i ni allu gwella ein cyfleusterau a helpu i atal cymaint o wastraff â phosibl rhag cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.

Ar 1 Ebrill 2020, symudodd y Gwasanaeth i un Contractwr gwastraff i wasanaethu pob un o'n gorsafoedd, gan ddisodli contractau gyda chwe Awdurdod Lleol, ynghyd â chontract gyda Biffa ar gyfer safle Coed-yr-iarll. Mae hyn yn ein galluogi i fonitro gwastraff a chydymffuredd yn haws, ac i gael data mwy cywir ar y gwastraff a gynhyrchir ar ein safleoedd. Bydd y ffigurau gwastraff chwarterol yn cael eu monitro, ac ystyrir ffigurau 2020-21 yn waelodlin newydd.

Caiff deunydd ailgylchu cymysg sych a gwastraff cyffredinol eu casglu o bob gorsaf bellach, ac mae trefniadau i gasglu gwastraff bwyd wedi'u sefydlu lle bo hynny'n briodol. Ar hyn o bryd, mae'r amrywiaeth o ddeunyddiau sy'n cael eu hailgylchu yn dibynnu ar ffrydiau gwastraff yr orsaf dân dan sylw, ond, yn gyffredinol, mae hyn yn cynnwys:

  • Papur Gwyn
  • Cardbord
  • Plastig
  • Alwminiwm
  • Batris
  • Gwastraff cyfrinachol
  • Metelau
  • Bwyd
  • Llyfrau, cyfnodolion a phamffledi
  • Offer trydanol ac electronig gwastraff
  • Olewau a deunyddiau amsugnol budr
  • Powdr inc a chetris

Mae ein gwastraff cyfrinachol yn eistedd y tu allan i ddarparwr y gwasanaeth casglu gwastraff. Cesglir y gwastraff cyfrinachol gan sefydliad trydydd sector o'r enw Elite, sy'n darparu cyflogaeth i unigolion dan anfantais.

Yn y Gwasanaeth, rydym yn ceisio lleihau swm y plastig untro a brynir ac a waredir.

Mae nifer o leoliadau, megis Pencadlys y Gwasanaeth, Caerfyrddin, wedi lleihau eu defnydd o blastig yn sylweddol trwy fabwysiadu deunyddiau amgen yn lle pecynnau bwyd plastig, er enghraifft pecynnau bwyd a chwpanau diod bioddiraddadwy yn lle'r cynnyrch plastig untro. Gan fod Cynghorau a Fforymau Amgylcheddol lleol yn annog lleihau'r defnydd o blastig untro, dyma'r cam cyntaf i leihau ein heffaith.

Yn hanesyddol, mae'r Gwasanaeth wedi defnyddio nifer mawr iawn o boteli plastig untro, a hynny er lles yn ystod digwyddiadau ac mewn gweithgareddau o ddydd i ddydd, ac mae nifer y poteli a brynwyd wedi cynyddu bob blwyddyn am y pum mlynedd ddiwethaf. Gallai hyn fod yn ganlyniad i nifer o ffactorau, er enghraifft diwylliant y staff, diffyg monitro, a rhwyddineb cyrchu poteli dŵr yn lleoliadau'r Gwasanaeth.

Poteli Dŵr y gellir eu hailddefnyddio

Ddechrau 2021, rhoddwyd ei botel amlddefnydd ei hun i bob aelod o staff. Roedd hyn yn cynnwys staff gweithredol ac anweithredol, fel ei gilydd, a'r nod oedd disodli poteli dŵr plastig untro. Roedd yr adborth yn gadarnhaol, a chafodd y newid ei groesawu gan bawb.

Dros y pum mlynedd diwethaf, bu cynnydd o bron 25,000 yn nifer y poteli dŵr a brynwyd. Rhagwelir y bydd y fenter hon yn lleihau yn aruthrol nifer y poteli a ddefnyddir ac a waredir ledled y Gwasanaeth.

Mabwysiadwyd y fenter hon yn llwyddiannus ac â brwdfrydedd yn Adran Hyfforddi Coed-yr-iarll, a hynny ar gyfer pob cwrs recriwtiaid newydd a chwrs hyfforddi yr ymgymerir ag ef. Mae hwn yn gam enfawr i'r Gwasanaeth o ran lleihau gwastraff plastig, a bydd, o bosibl, yn haneru nifer y poteli plastig untro a brynir yn y dyfodol. Roedd y fenter mor llwyddiannus ar safle Hyfforddi Coed-yr-iarll fel ei bod yn cael ei chyflwyno ym mhob un o'r cyfleusterau hyfforddi ledled y Gwasanaeth.

Yn yr hirdymor, ein nod yw dileu cynhyrchion a deunydd pacio plastig a lleihau swm y poteli plastig untro a brynir yn sylweddol. Wrth brynu eitemau i ddod i mewn i'r Gwasanaeth, rhoddir ystyriaeth i'r deunydd pacio ar gyfer dosbarthu a deunyddiau amgen.

We have a contract in place with Battery Back for the collection and recycling of portable dry cell batteries. There are currently 13 locations across the Service where batteries can be stored and collected by Battery Back. There were six collections for the period 1st April 2019 to 31st March 2020, compared with four for the year before, with the breakdown of recycled batteries shown below:

Period

Batteries

Carbon Savings

Number of collections

2020/2021

Not available

 Not available

Not available

2019/2020

299kg

167kg

6

2018/2019

150kg

84kg

4


Bioamrywiaeth a Chadwraeth

Darganfyddwch fwy ar ein tudalen Bioamrywiaeth a Chadwraeth.