Mae mynediad at ddata amgylcheddol dibynadwy yn golygu y gall newidiadau o ran patrymau'r galw am adnoddau gael eu mapio, a hynny yn fodd o ddarparu tystiolaeth o'r gwaith o reoli'r galw (neu beidio), ac yna gellir defnyddio'r data i gadarnhau gwelliannau amgylcheddol a'r arbedion o ran costau sy'n deillio o hynny. Ystyrir bod y gweithgarwch monitro hwn yn hanfodol o ran cyfiawnhau gwelliannau amgylcheddol yr adroddir arnynt.
Mae yna raglenni ar waith i fesur yr agweddau canlynol, ac adrodd arnynt, a hynny naill ai bob mis neu bob chwarter.
- Nwy a Thrydan
- Y poteli dŵr plastig untro a ddefnyddir
- Olew tanwydd ar gyfer gwresogi a diesel ar gyfer cludiant
- Deunyddiau gwastraff (plastig, papur, cardbord, gwydr, caniau alwminiwm, tuniau, metelau eraill, pren a gwastraff bwyd)
- Ailddefnyddio deunyddiau ac ailgylchu
- Cyfraddau defnyddio rhai deunyddiau a brynir.
Mae'r data gwastraff sydd ar gael yn amrywiol ac yn dibynnu ar gyfleusterau'r contractwyr. Trwy wella amlder a dibynadwyedd y data amgylcheddol a ddarperir, bydd yna fwy o gyfle i ymyrryd yn gyflym pan na chyflawnir yr amcanion amgylcheddol. Mae gwaith wedi cael ei wneud i wella systemau swyddfa gefn er mwyn gallu cael data cywir yn ôl yr angen.
Hyfforddiant Amgylcheddol a Rhwymedigaethau Cydymffurfio
Darganfyddwch fwy ar ein tudalen Hyfforddiant Amgylcheddol a Rhwymedigaethau Cydymffurfio.


