Fel Gwasanaeth, rydym yn ceisio gwella ein heffaith amgylcheddol a'n perfformiad yn barhaus mewn perthynas ag ymgysylltu â'r gymuned er mwyn lleihau llosgi bwriadol, lleihau allyriadau carbon o'n fflyd a sicrhau bod ein hadeiladau mor effeithlon â phosibl, tra hefyd yn lleihau'r defnydd o ynni.



Isod mae trosolwg o rai o'n prosiectau.

Trwy gydol 2020, bu'r Gwasanaeth yn datblygu ei fflyd werdd allyriadau-sero ochr yn ochr â'r cerbydau diesel. Sefydlwyd Grŵp Prosiect Corfforaethol ULEV i reoli hyn ac i ganoli'r broses o adrodd am y cerbydau allyriadau-sero yn fflyd y Gwasanaeth. Cytunodd y Grŵp ar yr holl benderfyniadau ynghylch y dewis o gerbydau trydan a lleoliadau'r pwyntiau gwefru.

Mae ULEV bellach yn chwarae rhan fawr yn amcanion ein Cynllun Teithio Gwyrdd, gan leihau ein hallyriadau uniongyrchol i'r aer ac amlygu ein hymrwymiad i wella'r amgylchedd yn barhaus. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd cerbydau tanwydd ffosil ar ddiwedd eu hoes yn parhau i gael eu disodli'n raddol gan gerbydau trydan sydd ag allyriadau-sero.

Cerbydau heb allyriadau

I gefnogi hyn, wrth gynyddu maint y fflyd o gerbydau trydan trwy sefydliadau'r sectorau cyhoeddus a phreifat, fel ei gilydd, mae cyfleoedd i gydweithredu trwy nifer o Grwpiau ULEV allanol wedi cynyddu, a'r gobaith yw y bydd y posibilrwydd o leddfu'r pryder ynghylch pellter teithio cerbydau trydan yn cael ei wireddu cyn hir.

Cynllun Gwasanaeth Ynni

Yn ystod Haf 2020, gwnaethom ymuno â Chynllun Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i adrodd ar welliannau i'n fflyd a'n seilwaith. 

Yn rhan o'r Prosiect Corfforaethol ULEV, derbyniodd y Gwasanaeth gyfanswm o 21 o gerbydau cwbl drydanol yn ystod 2020, i'w defnyddio yn fflyd y gronfa o gerbydau nad ydynt yn gerbydau ymateb, ac aethom ati i'w cynnwys yn y fflyd ar gyfer yr holl staff. Roedd y rhain yn cynnwys cerbydau VW e-Golf a Nissan Leaf, a faniau Nissan eNV200; daeth 15 ohonynt yn rhan o'r fflyd yn 2020, a chafodd pump arall eu darparu yn ddiweddar.

Yr adborth a geir gan y staff sy'n arwain y penderfyniad ynghylch y mathau o gerbydau trydan a brynir.

 

Ionawr 2020-Mawrth 2020

Ebrill 2020-Mawrth 2021

Milltiredd

802

25,868

Gwrthbwyso CO2e

1.9

6,193

Yn ogystal â nifer o gerbydau trydan, mae gan y Gwasanaeth ddau gerbyd trydan cell danwydd (FECV) Hyundai ix35 sy'n llosgi hydrogen yn ein fflyd, i'w defnyddio yn yr Adrannau Lleihau Risgiau Cymunedol a Diogelwch Tân Busnesau.

Mae'r cerbydau hyn yn rhan o broses o dreialu Cerbydau Allyriadau Isel yn y Gwasanaeth, ac maent wedi helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer fflyd fwy gwyrdd yn y dyfodol, gan gynnwys Cerbydau Trydan a Cherbydau Hybrid.

Nid yw ein cerbydau hydrogen yn rhyddhau unrhyw allyriadau, ac maent wedi'u lleoli mewn ardal sy'n adnabyddus am lygredd aer uchel, ac, er mai rhan fach yn unig y maent yn ei chwarae, mae pob ymdrech yn helpu i leihau llygredd aer o ffynonellau traffig ffyrdd. Bydd y cerbydau hyn yn helpu i leihau ein hallyriadau carbon yn y Gwasanaeth. Caiff yr hydrogen ei hun ei gynhyrchu ar y safle yng Nghanolfan Ynni Baglan, a hynny trwy ynni adnewyddadwy sy'n cynnwys paneli solar ffotofoltäig.

Ers cyflwyno'r cerbydau i'n fflyd, at ei gilydd maent wedi cyflawni'r canlynol:

 

Hyd at fis Mawrth 2021

Milltiredd 38
Gwrthbwyso CO2e 5.79

Yn ôl gwefan carbonfootprint.com (yn agor yn ffenest / tab newydd), mae'r Gwasanaeth wedi gwrthbwyso 5.79 tunnell fertig o CO2e trwy yrru ein dau gerbyd hydrogen am 22,979 o filltiroedd.

Mae'r Gwasanaeth yn berchen ar nifer bach o feiciau trydan a ddefnyddir yn Ardaloedd Rheoli Abertawe a Chaerfyrddin ar gyfer dyletswyddau Lleihau Risgiau Cymunedol. Mae'r adborth a ddaeth i law ynghylch y defnydd o'r e-feiciau wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac maent yn dod yn ddewis poblogaidd o ran teithio i gyflawni dyletswyddau Lleihau Risgiau Cymunedol. Mae'r beiciau wedi'u lleoli ar hyn o bryd yng ngorsafoedd tân Llanelli, Caerfyrddin ac Abertawe.

Mae'r beiciau hyn yn helpu'r Gwasanaeth i weithio tuag at ein Cynllun Teithio Gwyrdd a'n Hamcanion Amgylcheddol ynghylch lleihau carbon, gan annog dewisiadau mwy cynaliadwy o ran dulliau teithio a gwella iechyd a llesiant aelodau o staff. Mae yna arbediad o ran costau mewn perthynas â thraul cerbydau, diesel a chostau parcio.

Mae'r ymateb gan aelodau o'r cyhoedd wedi bod yn gadarnhaol hefyd wrth i bersonél gyrraedd ar feic yn hytrach na mewn cerbyd i gynnal archwiliad.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, defnyddiwyd y beiciau ar 20 o adegau gwahanol gan gwmpasu cyfanswm o tua 300 o filltiroedd.

Ers 2010, mae GTACGC wedi bod yn cynorthwyo Elusen Genedlaethol y Diffoddwyr Tân i godi arian trwy fanciau ailgylchu tecstilau a leolir yn 32 o'n gorsafoedd tân.

£15,000 wedi'i godi ar gyfer ein helusen, a dros 125 tunnell fetrig o ddillad wedi cael eu dargyfeirio o safleoedd tirlenwi i'w hailwerthu, eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu!

 

Blwyddyn

Kg o ddillad

Yr Incwm a Gynhyrchwyd

2020/2021

125,038

£14,945.89

2019/2020

100,762

£22,168

2018/2019

87,388

£19,225.36

2017/2018

75,091

£16,502.02

Mae swm y tecstilau sy'n cael ei roi gan aelodau'r cyhoedd wedi bod yn cynyddu bob blwyddyn. Fodd bynnag, yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, mae'r incwm a gynhyrchir gan roddion y Gwasanaeth wedi gostwng.

Mae Elusen y Diffoddwyr Tân yn cael taliad yn seiliedig ar y pwysau a gesglir gan bob gorsaf dân, bob mis. Mae'r taliad hwn yn bris a negodir ac sy'n amrywio. Felly, yn ystod y pandemig a'r anawsterau a brofodd y partneriaid ailgylchu, gostyngodd Elusen y Diffoddwyr Tân y taliad ar gyfer y dillad a gasglwyd, ac felly arweiniodd hyn at gynhyrchu incwm is.

Mae'r Gwasanaeth yn cynnig nifer o Gynlluniau Aberthu Cyflog i'w staff er mwyn helpu i leihau effaith cerbydau a thechnoleg, fel ei gilydd, ar yr amgylchedd. Mae hyn yn helpu'r gweithwyr i gael gafael ar gerbydau modern, sy'n fwy diogel ac sy'n arbed tanwydd, a hynny ar gost sy'n is na'r prisiau arferol mewn garej. Mae'r cynllun yn helpu i leihau ôl troed carbon y Gwasanaeth trwy annog y gweithwyr i brynu ceir newydd sy'n cynhyrchu llai o allyriadau carbon, neu i brynu beiciau.

Hyd yma, mae 37 o gerbydau wedi ymuno â'r Cynllun Aberthu Cyflog am Gar, ac mae gan y cynllun beiciau 98 o gontractau beiciau newydd. Gellir gweld ffigurau'r tair blynedd ddiwethaf yn y tabl isod.

 

2018/2019

2019/2020

2020/2021

Y Cynllun Aberthu Cyflog am Gerbyd

6

1

2

Y Cynllun Aberthu Cyflog am Feic

28

29

41 

Anogir y gweithwyr i feicio i'r gwaith, lle bo hynny'n bosibl, ac mae nifer o siediau beiciau wedi cael eu codi ar safleoedd amryw o orsafoedd. Mae hyn hefyd yn gweithio tuag at ein hamcanion Teithio Gwyrdd a'n hamcanion Iechyd Corfforaethol, sy'n hyrwyddo iechyd a llesiant yn y gweithle.


Gwastraff ac Ailgylchu yn y Gwasanaeth

Darganfyddwch fwy am yr hyn rydyn ni'n ei wneud i wella pethau ar ein tudalen Gwastraff ac Ailgylchu yn y Gwasanaeth.