Ein gweledigaeth:
Bod yn arweinydd byd ym maes ymateb i argyfwng a diogelwch cymunedol.
Ein cenhadaeth:
Ymgysyllu, cysylltu, datblygu ac ysbrydoli pobl iddarparu gwasanaeth rhagorol.

Ein Cynllun Corfforaethol
Mae'n bleser gennym gyflwyno ein Cynllun Corfforaethol, sy'n datgan ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol...
Rydym yn hyderus bod yr Amcanion Gwella sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Corfforaethol hwn yn gosod rhaglen gadarn o weithgareddau am y flwyddyn nesaf, a fydd yn fodd i ni gyflawni ein Blaenoriaethau Strategol ac yn cydnabod anghenion y cymunedau a wasanaethwn a hynny yn y tymor byr, y tymor canol a'r tymor hwy. Fodd bynnag, mae cynllunio ar gyfer y tymor hir yn heriol dros ben oherwydd yr holl ansicrwydd presennol ac felly, byddwn yn adolygu ein Cynllun Corfforaethol bob blwyddyn er mwyn caniatáu i ni lunio Amcanion Gwella ystyrlon yng nghyswllt ein Blaenoriaethau Strategol o flwyddyn i flwyddyn.
Darganfod mwy o wybodaeth
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i ddarllen ein Cynllun Corfforaethol 2020-2025
Darllenwch yr hyn rydym yn mynd i'w gyflawni yn ein dogfen Nodau Strategol 2021 -2026
Darllenwch ein Hawdd ei Ddeall fersiwn o'n Cynllun Corfforaethol





Ein pobl
Nod Strategol 1:
Byddwn yn sicrhau bod gan ein staff yr wybodaeth a’r sgiliau y mae arnynt eu hangen i ddarparu a datblygu ein gwasanaethau mewn modd diogel. Byddwn yn sicrhau bod ein staff yn gynrychiadol o'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, a'u bod yn cael eu cefnogi gan y Gwasanaeth o ran eu hiechyd a'u llesiant.
Yn ystod 2021/22 byddwn yn:
Ysbrydoli cydgynhyrchu – datblygiad pawb;
Cefnogi iechyd a llesiant ein pobl i'w helpu i deimlo'n hapus yn y gwaith ac i feithrin cydnerthedd personol.
Darganfod mwy
Ein cymunedau
Nod Strategol 2:
Byddwn yn parhau i ymgysylltu â, addysgu a chefnogi ein cymunedau er mwyn helpu i sicrhau eu bod yn cadw'n ddiogel, yn iach ac yn ffyniannus.
Yn ystod 2021/22 byddwn yn:
Canolbwyntio ar ein partneriaethau â rhanddeiliaid;
Gwella ein negeseuon allweddol a'n dulliau o gyfathrebu â'n cymunedau.
Darganfod mwy
Ein hamgylchedd
Nod Strategol 3:
Byddwn yn gwella ein perfformiad amgylcheddol yn barhaus, yn ogystal â'r effaith y mae'r Gwasanaeth yn ei chael ar yr amgylchedd, a hynny trwy ein gweithgareddau gweithredol a'n dyletswyddau o ddydd i ddydd, fel ei gilydd.
Yn ystod 2021/22 byddwn yn:
Lleihau allyriadau carbon y Gwasanaeth;
Lleihau faint o ddŵr sy'n cael ei ddefnyddio ledled Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, gan ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer arbed dŵr.
Darganfod mwy
Ein dysgu
Nod Strategol 4:
Byddwn yn archwilio ffyrdd newydd o weithio er mwyn gwella'r Gwasanaeth Tân trwy ddysgu gan ein hunain a chan bobl eraill.
Yn ystod 2021/22 byddwn yn:
Datblygu ac ymgorffori seilwaith TG sy'n cefnogi ffyrdd newydd o weithio ac sy'n defnyddio technoleg i leihau'r perygl i ddiffoddwyr tân trwy'r ffordd yr ydym yn cyflwyno gwybodaeth
iddynt;
Parhau i ymgorffori fforwm syniadau sy'n archwilio syniadau ac awgrymiadau gan y staff; gan roi iddynt lais i siapio'r Gwasanaeth.
Darganfod mwy
Darganfod mwy o wybodaeth
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i ddarllen ein Cynllun Corfforaethol 2020-2025
Darllenwch yr hyn rydym yn mynd i'w gyflawni yn ein dogfen Nodau Strategol 2021 -2026
Darllenwch ein Hawdd ei Ddeall fersiwn o'n Cynllun Corfforaethol
Lawrlwythwch copi o'n Poster Nodau Strategol
Darllenwch ein Asesiad Risg Cydraddoldeb

Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, a'r modd y cyflawnir y weledigaeth honno trwy ein Nodau Strategol a'n Hamcanion Gwella a Llesiant.
Mewn blynyddoedd blaenorol, rydym wedi llunio Cynllun Strategol pum mlynedd, ynghyd â Chynllun Gwella Blynyddol cysylltiedig. Yn dilyn cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, manteisiwyd ar y cyfle i adolygu ein prosesau cynllunio, ac, o ganlyniad, lluniwyd un Cynllun Corfforaethol integredig.
Archif dogfennau
Cynllun Corfforaethol 2020 - 2025
Cynllun Corfforaethol 2019 - 2024
Cynllun Corfforaethol 2018 - 2023
Cynllun Corfforaethol 2017 - 2022
Cynllun Strategol 2016 - 2021
Cynllun Strategol 2015 - 2020
Cynllun Gwella Blynyddol 2016 - 2017
Cynllun Gwella Blynyddol 2014 - 2015
Erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi ein Hasesiad Perfformiad Blynyddol. Mae ein Hasesiad Perfformiad Blynyddol yn dweud wrth ein staff, ein cymunedau a'n rhanddeiliaid pa ganlyniadau a buddion a gyflawnwyd o gymharu ag Amcanion Gwella a Llesiant y flwyddyn flaenorol. Mae ein Hasesiad Perfformiad Blynyddol hefyd yn nodi sut yr ydym wedi cyfrannu at y nodau Llesiant a bennir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Archif dogfennau
Asesiad Perfformiad Blynyddol 2019 - 2020
Asesiad Perfformiad Blynyddol 2018 - 2019
Asesiad Perfformiad Blynyddol 2017 - 2018
Asesiad Perfformiad Blynyddol 2016 - 2017