Gofynasom y canlynol.
Aethom ati i annog pobl i gymryd rhan a dweud eu dweud ynghylch ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-2026. Er mwyn parhau i ddarparu gwasanaeth effeithiol, effeithlon ac o'r radd flaenaf, bu i ni groesawu safbwyntiau gan yr holl randdeiliaid i'n helpu i lunio a gwella Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Roedd y cyfnod ymgynghori yn agored rhwng dydd Llun 28 Medi a dydd Gwener 04 Rhagfyr.
Dywedasoch y canlynol.
Roedd 219 o randdeiliaid wedi ymateb i'r ymgynghoriad, sef cynnydd o 53% oddi ar 2019-20 pan ddaeth 143 o ymatebion i law. Roeddem hefyd wedi cael 7 ymateb ysgrifenedig gan Gynghorwyr, Cynghorau Tref a Chymuned a sefydliadau partner.
O blith y 219 o ymatebion, roedd 163 o'r ymatebwyr yn gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, sef y nifer mwyaf erioed. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno bod y Nodau Strategol yn rhywbeth y dylem fod yn anelu at eu cyflawni.
Nod Strategol Un – Ein Pobl
Roedd yr ymateb i Nod Strategol Un yn gadarnhaol ar y cyfan, gyda mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno bod y Nod Strategol Drafft yn rhywbeth y dylai'r Gwasanaeth fod yn anelu at ei gyflawni, ac mai'r Amcanion Gwella a Llesiant oedd yr amcanion cywir i gyflawni'r Nod Strategol.
Iechyd a lles meddwl
Roedd nifer o'r sylwadau yn nodi pwysigrwydd canolbwyntio ar iechyd a lles meddwl, ac y dylai hyn fod yn flaenoriaeth er mwyn i'r Gwasanaeth gefnogi ei staff. Roedd yna gefnogaeth sylweddol hefyd i'r syniad o ddatblygu gweithlu mwy cynhwysol ac amrywiol.
Cydweithio
Roedd adborth pellach yn nodi nad oedd ystyr na chyd-destun y gair “cyd-gynhyrchu” bob amser yn gwbl ddealladwy, er bod yr ymatebwyr yn cytuno bod cyd-gynhyrchu a chydweithredu â sefydliadau partner yn bwysig.

Nod Strategol Dau – Ein Cymunedau
Cafwyd ymateb cadarnhaol i Nod Strategol Dau, gyda'r ymatebwyr yn cytuno ei fod yn rhywbeth y dylai'r Gwasanaeth fod yn anelu at ei gyflawni.
Datblygu partneriaethau
Roedd yna gefnogaeth glir i'r Gwasanaeth barhau i ddatblygu partneriaethau a sefydlwyd eisoes, a bod rhannu gwybodaeth allweddol yn hanfodol i gefnogi a deall y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Roedd canolbwyntio ar ddarparu'r gwasanaethau y mae ar ein cymunedau eu hangen hefyd wedi'i amlygu gan yr ymatebwyr, yn ogystal â budd rhannu adeiladau â'n partneriaid er mwyn gwella perthnasoedd, gwybodaeth a dulliau cyfathrebu.

Nod Strategol Tri – Ein Hamgylchedd
Cafwyd cefnogaeth sylweddol i'r Nod Strategol hwn a'i Amcanion Gwella a Llesiant. Roedd yn amlwg o'r adborth a ddaeth i law y dylai diogelu'r amgylchedd barhau'n flaenoriaeth i'r Gwasanaeth.
Lleihau allyriadau carbon
Roedd nifer o'r sylwadau yn nodi y dylai lleihau allyriadau carbon fod yn faes allweddol i ganolbwyntio arno o ganlyniad i'r ôl troed daearyddol mawr y mae'r Gwasanaeth yn ei gwmpasu. Fodd bynnag, mynegwyd pryderon ynghylch y cynnig i leihau maint y dŵr a ddefnyddir ledled y Gwasanaeth ac effaith bosibl hynny ar weithgarwch gweithredol.

Nod Strategol Pedwar – Ein Dysgu
Roedd mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno bod Ein Dysgu yn faes ffocws allweddol ar gyfer y Gwasanaeth. Daeth nifer o sylwadau i law ynghylch yr angen i barhau â'r gwaith o ddatblygu ein systemau meddalwedd TG, yn ogystal â gwella gwybodaeth a sgiliau ein staff.
Fforwm Syniadau
Roedd yna gefnogaeth sylweddol i barhau i ymgorffori'r “Fforwm Syniadau” ledled y Gwasanaeth, a chydnabuwyd bod rhai o'r syniadau gorau wedi cael eu cynnig gan staff a'r rheiny sy'n gweithio ar lawr gwlad.
TG a cysylltedd
Roedd peth o'r adborth a gafwyd yn cyfeirio at y gofyniad i'r holl staff gael yr hyfforddiant angenrheidiol i ddefnyddio systemau TG newydd. Amlygwyd hefyd gysylltedd TG yn faes posibl i'w wella mewn rhai gorsafoedd.
Nododd rhai ymatebwyr hefyd fod y Gwasanaeth yn dibynnu'n ormodol ar brosesau papur, sy'n cymryd llawer o amser ac nad ydynt mor effeithlon â systemau meddalwedd cyfrifiadurol.

Sylwadau eraill
Amlygwyd pryderon ynghylch cyfyngiadau cyllidebol yn effeithio ar ein gallu i gyflawni ein Nodau Strategol a'n Hamcanion Gwella a Llesiant, gyda phwyslais arbennig ar yr effaith ar gyllideb ac adnoddau'r Gwasanaeth o ganlyniad i bandemig COVID-19.
Daeth sylwadau i law hefyd mewn perthynas â pheidio â gwrando ar staff, yn ogystal â'r canfyddiad o ddiffyg cyfathrebu ynghylch y rhesymeg dros wneud penderfyniadau allweddol yn y sefydliad.

Gwnaethom y canlynol... Ein Hymateb
Cafodd pob Nod Strategol a'i Amcanion Gwella a Llesiant cysylltiedig eu hadolygu a'u diwygio yn unol â'r ymatebion hyn er mwyn adlewyrchu'r adborth a ddaeth i law. Aethom ati hefyd i adolygu'r ddogfen i sicrhau bod yr wybodaeth yn y Cynllun Corfforaethol yn glir, yn hawdd ei deall, wedi'i hysgrifennu mewn “Cymraeg clir” a heb fod yn cynnwys jargon.
Arloesi
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd parhau i wella ein dulliau cyfathrebu a'n negeseuon allweddo yn fewnol ac yn allanol. Byddwn yn datblygu ffyrdd arloesol o addysgu a hysbysu ein cymunedau er mwyn helpu i sicrhau eu bod yn parhau'n ddiogel, yn iach ac yn ffyniannus, yn ogystal â meithrin ymwybyddiaeth bod ein sefydliad “yn fwy na dim ond Gwasanaeth Tân”.
Cydweithredu
Bydd cydweithredu â sefydliadau partner a rhanddeiliaid hefyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth, a hynny er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer ein cymunedau.
Gwrando ar ein staff
Bydd parhau i ddatblygu'r deialog â'n staff er mwyn sicrhau eu bod yn cymryd rhan yn y broses o lunio dyfodol y Gwasanaeth, lle bo hynny'n bosibl, hefyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Ar ben hynny, byddwn yn gofalu ein bod yn cyfathrebu'r manylion a'r rhesymeg dros wneud penderfyniadau ledled y Gwasanaeth er mwyn sicrhau bod y staff yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Agored a thryloyw
Yn olaf, byddwn yn parhau i weithredu mewn modd agored a thryloyw.
Yr ymatebion
Gallwch weld yr holl ymatebion lle roedd yr ymatebwyr wedi rhoi caniatâd i gyhoeddi eu hadborth yn yr adroddiad ymgynghori.
