Dros y degawd diwethaf, trwy Gynllunio ar gyfer Gwella a Lleihau Risg, gwelsom ostyngiad sylweddol yn nifer y digwyddiadau y cawsom ein galw iddynt, a gwell canlyniadau i’r rheiny yr effeithiwyd arnynt a’r cymunedau lle maent yn digwydd. Rydym wedi cyflawni’r hyn oll yn ogystal â chyflawni arbedion sylweddol.
Gwerth yr arian
Rydym o'r farn ein bod yn cynnig gwerth aruthrol am arian ac, yn ôl arolwg a gynhaliwyd yn ddiweddar, mae'n ymddangos eich bod chithau o'r un farn. Ers 2006 rydym eisoes wedi lleihau ein cyllideb 20%, dyna £ 9 miliwn! ac fel gwasanaeth rydym yn costio £4 y mis i chi ar hyn o bryd, dim ond 14c y dydd yw hynny!
Fodd bynnag, ni allwn osgoi'r ffaith ein bod ni'n wynebu dyfodol ariannol sy'n fwy heriol eto ac y bydd angen i ni wneud arbedion effeithlonrwydd pellach.
Cadw ein cymunedau yn ddiogel
Mae'n 58 gorsaf dân yn mynychu oddeutu 13,313 o ddigwyddiadau bob blwyddyn, gan gwmpasu 4,500 milltir sgwâr sy'n cynnwys dros 910,000 o babl ac mwy na 430,000 o dai.
Y digwyddiadau ni’n mynychu
- Dros y 5 mlynedd diwethaf, wedi mynychu:
- 2811 o danau mewn tai,
- 882 o danau annomestig,
- 4863 o ddamweiniau traffig ar y ffyrdd,
- 4118 o danau glaswellt a choedwigaeth,
- 1719 o ddigwyddiadau llifogydd a
- 12496 o ymatebion meddygol.
Gweithio gyda'n cymunedau
Fel Gwasanaeth rydym wedi:
- Ddarparu 85,682 o wiriadau diogelwch cartref i'n cymunedau,
- Ymgysylltu â dros 184,401 o bobl ifanc trwy raglenni addysg ac atal a
- Chynnal 10,978 o archwiliadau diogelwch tân busnes.
Mae hyn i gyd yn costio dim ond 14c y dydd i chi, sef dim ond £52 y flwyddyn!


