Rydym yn croesawu ein dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (yn agor yn ffenest/tab newydd)

Mae'r Ddeddf yn sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Mae'n rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal trwy weithio i gyflawni'r nodau llesiant. Bydd yn gwneud hynny trwy asesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn ei ardal. Mae'n rhaid hefyd i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus bennu amcanion a fydd yn cynyddu hyd yr eithaf ar ei gyfraniad at y nodau llesiant a bennwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. A ninnau'n un o bartneriaid y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, rydym yn ystyried y nodau hirdymor, yn gweithio'n well gyda phobl, gyda chymunedau a chyda'n gilydd, yn ceisio atal problemau a gweithio'n fwy cydgysylltiedig

Yn rhan o'r Ddeddf, rydym yn bartner statudol i chwe Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae llawer o'r gweithgareddau a gynigir gennym â chydberthynas rhyngddynt a chânt eu darparu trwy bartneriaeth â'r aelodau o'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus hyn. Wrth fabwysiadu'r dyletswyddau a bennwyd yn y Ddeddf, rydym wedi'n herio'n hunain i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio, heb gyfaddawdu ar y gwasanaeth a ddarparwn.

Mae'n rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus baratoi a chyhoeddi cynllun sy'n disgrifio'i amcanion a'r camau y bydd yn eu cymryd i'w gwireddu

Abertawe

blank

Castellnedd Port Talbot

blank

Ceredigion

blank

Powys

blank

Sir Gâr

blank

Sir Penfro

blank