Bob dydd, mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn delio â chanlyniadau Gwrthdrawiadau Traffig Ffyrdd, a'r effaith a gânt ar fywyd pobl a'n cymunedau. Yn wir, rydym bellach yn cael ein galw i achub nifer sylweddol fwy o bobl sydd wedi'u hanafu mewn gwrthdrawiadau traffig ffyrdd nag mewn tanau.

Yn ychwanegol at y canlyniadau trawmatig sy'n deillio o wrthdrawiadau traffig ffyrdd, mae yna hefyd oblygiadau cymdeithasol ehangach. Mae gwerth economaidd gwrthdrawiadau traffig ffyrdd bellach yn £1.9 miliwn fesul pob digwyddiad Lladd ac Anafu Difrifol (KSI).

Anafiadau Ffyrdd yng Nghymru

Blwyddyn

Lladdwyd

Anafwyd yn Ddifrifol

Anafwyd Ychydig

Pawb a Anafwyd

2018

103

1,028

4,627

5,758

2017

103

961

5,134

6,198

2016

103

1,005

5,745

6,853

2015

105

1,081

6,496

7,682

2014

103

1,160

6,945

8,108

2013 111 1,033 7,191 8,335
Yr hyn yr ydym am ei gyflawni
  • Darparu gweithgareddau i wella diogelwch beicwyr modur ar y ffyrdd trwy annog pobl i ddilyn cyrsiau diogelwch beiciau modur.
  • Datblygu cwrs ymyrraeth ieuenctid diogelwch ar y ffyrdd a fydd yn targedu'r bobl hynny y nodwyd eu bod yn peri risg uchel oherwydd eu hymddygiad.
  • Targedu gweithgareddau ac ymyrraeth diogelwch ar y ffyrdd at yrwyr hŷn.

 

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol ac asiantaethau eraill i gyflawni'r Strategaeth Diogelwch ar y Ffyrdd i Gymru, ynghyd â'r targedau canlynol a amlinellir yn y Fframwaith.

  • Erbyn 2020, sicrhau gostyngiad o 40% yn nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru. Bydd hyn yn golygu y caiff 505 yn llai o bobl eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol.
  • Erbyn 2020, sicrhau gostyngiad o 25% yn nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru. Bydd hyn yn golygu y caiff 64 yn llai o bobl eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol.
  • Erbyn 2020, sicrhau gostyngiad o 40% yn nifer y bobl ifanc (16-24 oed) sy'n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru. Bydd hyn yn golygu y caiff 139 yn llai o bobl eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol.