Wrth i'r tywydd gynhesu ac wrth i'n tymor gwyliau nodweddiadol agosáu, rydym yn deall bod llawer yn cael eu temtio i fentro nofio mewn dyfroedd agored.  Er bod y rhan fwyaf o nofwyr dyfroedd agored yn mwynhau eu hunain mewn modd hollol ddiogel, rydym am bwysleisio pwysigrwydd bod yn ymwybodol o'r peryglon posibl wrth nofio yn y môr yr adeg hon o'r flwyddyn, ac annog pobl i fynd i mewn i'r dŵr mewn safleoedd lle mae yna achubwyr bywyd yn unig ac osgoi nofio mewn llynnoedd neu afonydd.

Mae sioc dŵr oer yn berygl arall sy'n gysylltiedig â nofio yn yr awyr agored gan y gall tymheredd dyfroedd agored, er enghraifft afonydd a llynnoedd, fod yn llawer is na'r disgwyl, yn enwedig yn y rhannu hynny sy'n llifo'n gyflym.  Mae dŵr oer yn tynnu gwres o'r corff 32 gwaith yn gynt nag aer oer gan achosi sioc dŵr oer – mynd yn fyr o anadl, cramp, anadlu dŵr i mewn, trawiad ar y galon, strôc a boddi'n gyflym.

Parchwch y dŵr tra byddwch yn mwynhau eich haf. 

  • Byddwch yn effro i'r peryglon.
  • Byddwch yn ymwybodol o'ch terfynau a pheidiwch â chymryd risgiau.
  • Peidiwch â mynd i'r dŵr, na bod yn agos ato, ar eich pen eich hun.
  • Sicrhewch fod ffôn wedi'i wefru'n llawn wrth law rhag ofn y bydd angen i chi alw am gymorth.