Mae ein Hadran Diogelwch Tân Busnesau a’n swyddogion arbenigol yn ymrwymedig i’ch helpu i ddeall risgiau tân ac i gydymffurfio â’r deddfwriaethau perthnasol.
Mae’r Adran yn gweithredu darpariaethau Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (yn agor yn tudalen / tab newydd), sef darn o ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i unrhyw le ac eithrio safle domestig. Mae’r Gorchymyn Diogelwch Tân yn gosod y ddyletswydd i sicrhau eiddo diogel ar y Person sy’n Gyfrifol am y safle. Mae gan yr Adran raglen ar gyfer archwilio pob safle annomestig yn yr ardal Wasanaeth, yn seiliedig ar lefel y risg o dân sydd gan bob eiddo. Mae’r adran hefyd yn gyfrifol am ymgymryd ag ymchwiliadau safleoedd tân i bennu tarddiad, achos a datblygiad categorïau penodol o danau yn unol ag adran 45 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (yn agor yn tudalen / tab newydd).
Yn y rhan hon o’r safle, gwelwch amrywiaeth o wybodaeth a dolenni i ganllawiau a gyhoeddwyd er mwyn cynorthwyo’r Bobl sy’n Gyfrifol i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth.
Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Pencadlys Gwasanaeth
Heol Llwyn Pisgwydd,
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA31 1SP
Ewch i'n Ffurflen Cyswllt
Ffôniwch ar 0370 6060699