Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Pencadlys Gwasanaeth
Heol Llwyn Pisgwydd,
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA31 1SP
Ewch i'n Ffurflen Cyswllt
Ffôniwch ar 0370 6060699
Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i leihau’r beichiau rheoleiddio a chefnogi twf busnesau sy’n cydymffurfio, trwy ddatblygu cydberthynas agored ac adeiladol rhwng y rheolyddion a’r rhai maent yn eu rheoleiddio.
Mae’r Côd Rheolyddion yn Gôd Ymarfer statudol, a fwriedir i annog rheolyddion i gyflawni eu hamcanion mewn modd sy’n lleihau’r beichiau ar fusnesau. Pwrpas y Côd yw mewnosod ymagwedd seiliedig ar risg, gyfatebol, targedig a hyblyg at archwilio a gorfodi rheoleiddio ymhlith y rheolyddion mae’n gymwys iddynt. Bydd yr ymagwedd hon yn sicrhau bod rheolyddion yn effeithlon ac yn effeithiol yn eu gwaith, heb osod beichiau diangen ar y rhai maent yn eu rheoleiddio. Mae’r Côd hwn yn seiliedig ar y saith egwyddor archwilio a gorfodi a nodwyd yn adroddiad Philip Hampton "Reducing administrative burdens: effective inspection and enforcement" (2005).
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i reoleiddio gwell a doethach, sy’n hybu twf busnesau ac eisoes mae gan y Gwasanaeth bolisïau, gweithdrefnau a mecanweithiau mewn lle i sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau rheoleiddio, yn cynnwys gorfodaeth gadarn ond teg, yn unol ag egwyddorion rheoleiddio da.
Rydym yn cydymffurfio â phum egwyddor rheoleiddio da h.y. cymesuredd, atebolrwydd, cysondeb, eglurder a thargedu, sydd wedi eu cynnwys yn ein Polisi Gorfodaeth cyfredol.
Polisi Gorfodi (PDF, Saesneg yn unig, 300Kb)
Mae'r Datganiad Polisi Gorfodi hwn yn seiliedig ar egwyddorion 'Gwell Rheoleiddio' sy'n rhan o God Rheoleiddwyr 2014 ac mae'n disgrifio'r dull gweithredu a ddefnyddir gan yr Awdurdodau i orfodi'r ddeddfwriaeth. Caiff ei ddefnyddio ar y cyd â'r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Senedd y Deyrnas Unedig; yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol; yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, y Swyddfa Cyflawni Gwell Rheoleiddio ac adrannau perthnasol eraill y llywodraeth.
Cod Rheoleiddwyr (PDF, Saesneg yn unig, 352Kb)
Ysgrifennwyd y ddogfen hon i gwmpasu'r blaenoriaethau gorfodi cenedlaethol ar gyfer Cymru ac i gydymffurfio ag adran 6.3 o God Rheoleiddwyr 2014. Mae'n egluro sut y bydd Adran Diogelwch Tân Busnesau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cyflawni'i rhwymedigaethau statudol i'r rhai rydym yn eu rheoleiddio er mwyn iddynt ddeall yn glir y gwasanaethau y gallant eu disgwyl a theimlo y gallant ein herio os na ddarperir y gwasanaethau hynny.
Pencadlys Gwasanaeth
Heol Llwyn Pisgwydd,
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA31 1SP
Ewch i'n Ffurflen Cyswllt
Ffôniwch ar 0370 6060699