Daeth Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (yn agor mewn ffenest / tab newydd) i rym ym mis Hydref 2006, ac fe ddisodlodd dros 70 darn o gyfraith diogelwch tân. Mae’r Gorchymyn yn gymwys i’r holl deiladau annomestig yng Nghymru a Lloegr, yn cynnwys ardaloedd cyffredin mewn blociau o fflatiau a thai amlfeddiannaeth (HMO)..
Mae’r gyfraith yn gymwys i chi os ydych:
- yn gyfrifol am safle busnes;
- yn gyflogwr neu’n hunangyflogedig gyda safle busnes;
- yn gyfrifol am ran o annedd, ble bod y rhan honno’n cael ei defnyddio at ddibenion busnes yn unig;
- yn elusen neu’n fudiad gwirfoddol;
- yn gontractwr gyda rhywfaint o reolaeth dros unrhyw safle;
- yn darparu llety ar gyfer gwesteion sy’n talu.
O dan y Gorchymyn, rhaid i'r person cyfrifol gynnal asesiad risg diogelwch tân a gweithredu a chynnal cynllun rheoli tân. Mae mwy o wybodaeth am yr hyn sydd angen i chi ei wneud wrth gynnal asesiad risg ar gael yn y rhestr wirio asesiad risg tân 5 cam isod.
Yn ogystal, gellir dod o hyd i gyngor ac arweiniad manylach ar weithredu cynllun rheoli risg tân yn y gyfres o ddogfennau canllaw sydd ar gael isod. Cynhyrchwyd y dogfennau canllaw mwy technegol gyda mathau penodol o adeiladau busnes mewn golwg.
Ar ôl cwblhau asesiad risg tân, mae angen cyngor neu wybodaeth fwy ymarferol arnoch chi; efallai y byddwch chi'n teimlo'n fwy cyfforddus yn cyflogi arbenigwr diogelwch tân i'ch helpu chi. Rhestrir cwmnïau sy'n darparu gwasanaethau diogelwch tân mewn cyfeirlyfrau lleol. Fel arall, efallai y gallwch ofyn i'ch yswiriwr am argymhelliad.
Canllaw Asesu Risg o Dân (PDF, 219Kb) (PDF Saesneg yn unig)
Ffurflen Asesu Risg o Dân (docx, 685Kb) (Dogfen Saesneg yn unig)
I gael mwy o wybodaeth am ddiogelwch ac arweiniad tân busnes, ewch i wefan gov.uk trwy ddefnyddio'r dolenni isod:
Diogelwch Tân yn y Gweithle (PDF, 1Mb) (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (yn agor mewn ffenest / tab newydd) (Saesneg yn unig)
Ffyrdd o Ddianc ar gyfer Pobl Anabl (yn agor mewn ffenest / tab newydd) (Saesneg yn unig)
Canllaw 1 - Swyddfeydd a Siopau (yn agor mewn ffenest / tab newydd) (Saesneg yn unig)
Canllaw 2 - Ffatrïoedd a Warysau (yn agor mewn ffenest / tab newydd) (Saesneg yn unig)
Canllaw 3 - Llety Cysgu (yn agor mewn ffenest / tab newydd) (Saesneg yn unig)
Canllaw 4 - Safleoedd Gofal Preswyl (yn agor mewn ffenest / tab newydd) (Saesneg yn unig)
Canllaw 5 - Safleoedd Addysgol (yn agor mewn ffenest / tab newydd) (Saesneg yn unig)
Canllaw 6 - Lleoedd Ymgynnull Mawr (yn agor mewn ffenest / tab newydd) (Saesneg yn unig)
Canllaw 7 - Lleoedd Ymgynnull Bach a Chanolig (yn agor mewn ffenest / tab newydd) (Saesneg yn unig)
Canllaw 8 - Theatrau a Sinemâu (yn agor mewn ffenest / tab newydd) (Saesneg yn unig)
Canllaw 9 - Digwyddiadau a Lleoliadau Awyr Agored (yn agor mewn ffenest / tab newydd) (Saesneg yn unig)
Canllaw 10 - Safleoedd Gofal Iechyd (yn agor mewn ffenest / tab newydd) (Saesneg yn unig)
Canllaw 11 - Safleoedd a Chyfleusterau Chludiant (yn agor mewn ffenest / tab newydd) (Saesneg yn unig)
Canllaw 12 - Safleoedd Anifeiliaid a Stablau (yn agor mewn ffenest / tab newydd) (Saesneg yn unig)
A oes gennych westeion sy'n talu? (PDF, 674Kb)? (Saesneg yn unig)
Beth yw asesiad risg o dân?
Mae asesiad risg o dân yn cymryd golwg drefnedig a threfnus ar eich safle chi, y gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni yno a’r tebygrwydd y gallai tân amlygu ac achosi niwed i’r bobl ar y safle ac yn y cyffiniau.
Nodau’r asesiad risg o dân yw:
- Dod o hyd i beryglon tân.
- Lleihau’r risg y bydd y peryglon hynny’n achosi niwed, cyn belled ag sy’n rhesymol o ymarferol.
- Penderfynu pa ragofalon tân materol a threfniadau rheoli sydd eu hangen i sicrhau diogelwch pobl yn eich adeilad, pe byddai tân yn amlygu.
Os yw eich sefydliad yn cyflogi pump neu fwy o bobl, os yw eich adeilad yn un trwyddedig neu fod hysbysiad addasu yn galw am hynny, mewn grym, yna mae’n rhaid i ganfyddiadau arwyddocaol yr asesiad risg o dân, y camau sydd angen eu cymryd o ganlyniad i’r asesiad a manylion unrhyw un sydd mewn perygl yn arbennig, i gael eu cofnodi. Efallai byddai’n ddefnyddiol i chi gadw cofnod o ganfyddiadau arwyddocaol eich asesiad risg o dân, hyd yn oed os nad yw’n ofynnol i chi wneud hynny.
Canllaw i Ddewis Aseswr Risgiau Tân Cymwys
Mae’r Gyfraith yn dweud fod yn rhaid i’ch Asesiad Risgiau Tân chi i fod yn addas ac yn ddigonol ac mae’n rhaid iddo gael ei gynnal gan berson / bersonau cymwys. Diffinnir person cymwys fel rhywun sydd wedi derbyn digon o hyfforddiant a chanddo ddigon o brofiad neu ddealltwriaeth a rhinweddau eraill i fedru rhoi’r mesurau yma ar waith yn briodol. Gallwch chi gynnal yr asesiad eich hunan, fodd bynnag, os ydych chi, cyn neu wedi darllen y canllawiau, yn teimlo nad oes gennych wybodaeth neu ddealltwriaeth briodol o ddiogelwch tân a’r risg mae tân yn ei beri i bobl i gydymffurfio’n effeithiol â’ch dyletswyddau cyfreithiol, bydd angen i chi benodi arbenigwr i gynnal yr asesiad risgiau tân ar eich rhan chi.
I'ch cynorthwyo i ddewis Aseswr Rigiau Tân cymwys, fel medrwch gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol lawrlwythwch dogfen uniaith Saesneg y Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid Tân Canllaw i Ddewis Aseswr Risgiau Tân Cymwys (PDF, 409Kb)
Sut mae cynnal asesiad risg o dân?
Bydd asesiad risg o dân yn eich helpu i benderfynu ar y siawns y bydd tân yn amlygu, a’r peryglon tân mae eich safle’n eu cyflwyno i’r bobl sy’n ei ddefnyddio ac unrhyw un yn y cyffiniau.
Bydd llawer o’r wybodaeth ar gyfer eich asesiad risg o dân yn dod o’r wybodaeth sydd gan eich gweithwyr, cydweithwyr a chynrychiolwyr am y safle, yn ogystal â gwybodaeth a roddwyd i chi gan bobl sydd â chyfrifoldeb am rannau eraill o’r adeilad. Mae’n debygol iawn y bydd angen mynd o gwmpas eich safle i gadarnhau, diwygio neu ychwanegu manylion at eich barnau cychwynnol.
Mae’n bwysig eich bod yn cynnal eich asesiad risg o dân mewn modd ymarferol a threfnus, a’ch bod yn neilltuo digon o amser i’w wneud yn iawn. Mae’n rhaid i’r asesiad roi ystyriaeth i’r safle cyfan, yn cynnwys lleoliadau yn yr awyr agored ac unrhyw ystafelloedd ac ardaloedd nad sy’n cael eu defnyddio’n aml iawn. Os mai safle bach ydyw, mae’n bosib byddwch yn medru ei asesu’n gyffredinol. Ar safle mwy o faint, mae’n bosib bydd yn ddefnyddiol i chi ei rannu i ystafelloedd neu gyfres o ardaloedd i’w hasesu, gan ddefnyddio ffiniau naturiol, e.e. ardaloedd megis ceginau a londrïau, ystafelloedd gwely, swyddfeydd, storfeydd, yn ogystal â choridorau, grisffyrdd a llwybrau allanol.
Yn unol â chyfraith iechyd a diogelwch (sy’n cael ei orfodi gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu’r awdurdod lleol), mae gofyn i chi gynnal asesiad risg mewn perthynas ag unrhyw weithgareddau ar eich safle ac i gymryd, neu lynu wrth, fesurau arbennig, technegol neu sefydliadol priodol. Os yw eich asesiad risg iechyd a diogelwch yn canfod bod y gweithgareddau yma’n debygol o olygu risg o dân, neu risg y bydd tân yn lledu (yn y gegin neu mewn gweithdy er enghraifft), yna bydd angen i chi ystyried hyn yn ystod eich asesiad risg o dân a blaenoriaethu eich camau gweithredu yn seiliedig ar y lefel o risg.
Mae angen i chi benodi un neu fwy o ‘bersonau cymwys’ (gall fod yn chi’ch hunan), i gyflawni unrhyw fesurau ataliol ac amddiffynnol sy’n ofynnol. Gall y person hwn fod yn weithiwr sydd wedi’i hyfforddi’n briodol neu’n drydydd parti, ble bod hynny’n briodol.
Asesiad risg o dân
Dylai eich asesiad risg o dân ddangos, cyn belled ag sy’n rhesymol, eich bod wedi ystyried anghenion yr holl bobl berthnasol, yn cynnwys pobl anabl.
Cam 1 -Canfod y peryglon ar eich safle
Mae angen i chi ganfod:
- ffynonellau tanio megis fflamau noeth, gwresogyddion neu rai prosesau masnachol;
- ffynonellau o danwydd megis gwastraff wedi cronni, deunydd arddangos, tecstilau neu ormodedd o gynnyrch; a
- Ffynonellau o ocsigen megis systemau tymheru aer neu gyflenwadau ocsigen meddyginiaethol neu fasnachol.
Cam 2 – Canfod pobl sydd mewn perygl
Bydd angen i chi ganfod y bobl hynny a all fod mewn perygl yn arbennig, megis:
- pobl sy’n gweithio’n agos i beryglon tân;
- pobl sy’n gweithio ar eu pennau hunain neu mewn ardaloedd arunig (megis gwagle’r to neu stordai);
- plant neu rieni gyda babanod; a phobl oedrannus neu fethedig neu bobl sy’n anabl.
Cam 3 – Gwerthuswch, dilëwch, lleihewch a diogelwch rhag y risg
Gwerthuswch y lefel o risg ar eich safle. Dylech chi ddileu neu leihau unrhyw beryglon tân, ble bod hynny’n bosib, a lleihau unrhyw risgiau yr ydych wedi eu canfod. Er enghraifft, dylech chi:
- newid defnyddiau fflamadwy iawn am rai llai fflamadwy;
- sicrhau eich bod yn gwahanu defnyddiau fflamadwy oddi wrth ffynonellau tanio; a
- bod â pholisi ysmygu’n ddiogel.
Pan fyddwch wedi lleihau’r risg gymaint ag sy’n bosib, mae’n rhaid i chi asesu unrhyw risg sy’n weddill a phenderfynu p’un ai bod unrhyw fesurau pellach y mae angen i chi eu cymryd, i sicrhau eich bod yn darparu lefel resymol o ddiogelwch rhag tân.
Cam 4 – Cofnodwch, cynlluniwch, cyfarwyddwch, hysbyswch a hyfforddwch
Yn y cam hwn, dylech chi gofnodi, cynllunio, cyfarwyddo, hysbysu a hyfforddi. Bydd angen i chi gofnodi’r peryglon a’r bobl yr ydych wedi canfod sydd mewn perygl yn arbennig yng ngham 1 a cham 2. Dylech chi gofnodi hefyd beth wnaethoch chi ynglŷn â’r peth yng ngham 3. Gall cynllun syml eich helpu i gyflawni hyn.
Yn ogystal, bydd angen i chi baratoi cynllun at argyfwng, wedi’i deilwrio ar gyfer eich safle chi. Dylai gynnwys y camau sydd angen i chi eu cymryd os oes tân yn amlygu ar eich safle chi neu unrhyw safle gerllaw.
Bydd angen i chi roi cyfarwyddiadau i staff a phobl eraill, o bryd i’w gilydd, megis gwesteion mewn gwesty neu stiwardiaid gwirfoddol. Dylai pob gweithiwr dderbyn digon o wybodaeth a hyfforddiant am y risgiau sy’n bodoli ar y safle. Bydd angen hyfforddiant mwy trylwyr ar rai, megis marsialiaid tân.
Cam 5 – Adolygwch
Dylech chi ofalu bod eich asesiad risg o dân yn gyfoes. Bydd angen i chi ail-archwilio eich asesiad risg o dân os ydych yn amau nad yw’n ddilys bellach, megis os bu damwain bron a digwydd a phob tro y ceir newid sylweddol i lefel y risg ar eich safle. Gallai hyn gynnwys:
- os ydych yn storio mwy o ddefnyddiau a allai fynd ar dân yn hawdd;
- bod sifft nos newydd yn dechrau; neu
- newid yn y math neu’r nifer o bobl sy’n defnyddio eich safle.
Cliciwch yma i lawrlwytho dogfen Templed Asesu Risg Tân Enghreifftiol (docx, 685Kb) (Dogfen Saesneg yn unig)
Cliciwch yma i lawrlwytho Canllaw Templed Asesu Risg Tân (PDF, 219Kb) (Dogfen Saesneg yn unig)
Cynlluniwyd i gynorthwyo'r ‘Person Cyfrifol’ i gyd-drefnu a chadw cofnod diogelwch tân, er mwyn cydymffurfio â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.
Mae'n cynnwys cyngor yn ogystal â lle i gofnodi pob agwedd o’ch Cyfundrefn Diogelwch Tân. Pan fydd unrhyw adran o’ch cofnod yn llawn, yn syml, ailargraffwch y dudalen ac ychwanegwch hi at eich llyfr log. Argymhellir bod y llyfr log yn cael ei gadw mewn fformat dalennau rhydd, er mwyn ei gwneud hi’n hawdd i ychwanegu tudalennau newydd.
Dylid cadw’r llyfr log yn gyfoes a dylai fod ar gael yn barod i’r Gwasanaeth Tân ac Achub i'w arolygu neu ei archwilio, yn ôl yr angen.
Dylid nodi ei bod hi’n drosedd i berson i wneud cofnod ffug yn fwriadol.
Lawrlwythwch Llyfr Log Diogelwch Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (PDF, 1.6Mb)