Yn sgil trychineb Tŵr Grenfell ym mis Gorffennaf 2017, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, trwy ei Adran Diogelwch Tân Busnesau, wedi bod yn gweithio i sicrhau diogelwch parhaus preswylwyr mewn Blociau Preswyl Aml-lawr yn ardal y Gwasanaeth, boed y rheiny o dan reolaeth y sector preifat neu'r sector cyhoeddus.
Aed i'r afael â hyn trwy ymgynghori a chydweithredu'n agos â Chyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân, Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Gwasanaethau Tân ac Achub eraill a Pherchnogion/Asiantau Rheoli.
Paratowyd y dudalen hon i ddarparu storfa o wybodaeth a chanllawiau, sy'n deillio o amrywiaeth o ffynonellau, mewn perthynas ag Adeiladau Preswyl Aml-lawr. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei hychwanegu wrth iddi ddod i law.

Mae'r dogfennau isod yn Saesneg yn unig.
Asesiad Risg Tân
Cyngor ac Arweiniad
Cyngor i Berchnogion Adeiladau Adeiladau Preswyl Aml-ddeiliad (PDF, 266Kb)
Cyngor i Berchnogion Adeiladau Adeiladau Preswyl Aml-ddeiliad (PDF, 266Kb)
Systemau Ynysu Waliau Allanol (EWI) sydd wedi'u rendro neu sydd â gorffeniad teils brics (PDF, 98Kb)
Systemau waliau allanol nad ydynt yn cynnwys Deunydd Cyfansawdd Alwminiwm (PDF, 150Kb)
Adeiladau sydd wedi'u gorchuddio'n rhannol â chladin o Ddeunydd Cyfansawdd Alwminiwm (ACM) (PDF, 150Kb)
Adeiladau sy'n cynnwys paneli spandrel/paneli ffenestri/paneli mewnlenwi (PDF, 138Kb)
Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2015 – Drysau tân mewn blociau o fflatiau ac adeiladau tebyg: Canllawiau ar gyfer unigolion cyfrifol (PDF, 52Kb)
Llythyr gan Lywodraeth Cymru i Berchnogion ac asiantau rheoli eiddo preswyl aml-lawr yng Nghymru: Diweddariad ar Ddiogelwch Rhag Tân mewn adeiladau aml-lawr (PDF, 138Kb)