Mae Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru yn hynod ymwybodol o effaith pandemig y coronafeirws ar fusnesau, ac am allu helpu busnesau i ddychwelyd i'r gwaith yn llwyddiannus ac yn ddiogel.

Lawrlwythwch y ddogfen Dychwelyd i'r Gwaith ar ôl Cyfnod Cloi (PDF, 565Kb)

Rhagwelir y bydd y cynnwys canlynol yn darparu peth cyngor syml wrth i staff ddychwelyd i'r gweithle ac i fusnesau wahodd y cyhoedd ac eraill i'w hadeiladau. Rydym yma i'ch helpu. 

Mae'n bwysig eich bod yn ystyried meysydd megis arferion gwaith newydd, niferoedd staff ac unrhyw newidiadau y gallech fod wedi'u gwneud i'r adeilad. Mae cadw drysau tân yn agored trwy ddefnyddio dyfeisiau anaddas megis lletemau yn arfer peryglus, ac ni chaniateir hynny.

Os nad oes gennych yr arbenigedd i gyflawni'r rhwymedigaeth hon, dylech benodi unigolyn cymwys, er enghraifft asesydd risgiau proffesiynol, i helpu.

Mae'n bwysig eich bod yn adolygu ac yn diweddaru eich Asesiad Risgiau Tân (FRA) i sicrhau ei fod yn dal yn addas ac yn ddigonol; trwy wneud hynny, byddwch yn gallu nodi a yw eich rhagofalon tân cyffredinol presennol yn dal i fod yn ddigonol, a rhoi mesurau rheoli ychwanegol ar waith, lle y bernir bod hynny'n angenrheidiol, er mwyn sicrhau bod unigolion perthnasol yn cael eu cadw'n ddiogel os bydd tân yn eich adeilad.

Sicrhewch fod yr holl hyfforddiant staff yn gyfredol ar ôl dychwelyd yn dilyn y cyfyngiadau symud

A yw eich staff yn gwybod beth i'w wneud os bydd tân? Os nad ydych wedi hyfforddi eich staff ers cryn amser, sicrhewch fod yr holl staff yn dal i wybod beth i'w wneud os bydd tân.

Os oes gennych staff nad ydynt wedi dychwelyd eto, sicrhewch fod staff eraill sydd wedi cael hyfforddiant addas ar gael

Os yw niferoedd eich staff wedi newid, neu os oes staff newydd wedi cael eu cyflogi, rhaid i chi sicrhau eich bod yn parhau i ddarparu hyfforddiant staff priodol.

Cofiwch ystyried anghenion diogelwch tân eich gweithwyr unigol.

Bydd amserlen cynnal a chadw reolaidd ar gyfer eich holl ddarpariaethau diogelwch rhag tân, a nodir yn rhan o'ch asesiad risgiau tân, yn sicrhau bod y darpariaethau yn parhau i fod yn addas i amddiffyn eich gweithlu a'ch ymwelwyr.

Efallai y bydd angen adolygu eich asesiad risgiau tân i gyfrif am unrhyw ganllawiau “Dychwelyd i'r Gwaith” newydd sy'n berthnasol i Covid 19.  Rhaid darparu gwybodaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant priodol i'ch staff mewn perthynas ag unrhyw ragofalon tân newydd a rhagofalon tân sydd eisoes yn bodoli ac a nodir yn eich canfyddiadau arwyddocaol ar gyfer eich gweithle.

  • A yw eich staff wedi cael yr hyfforddiant priodol?
  • Sicrhewch fod gwybodaeth am ddiogelwch yn cael ei darparu
  • Mae darpariaethau diogelwch rhag tân sy'n cael eu cynnal yn briodol yn arbed bywydau.

Mae'n hanfodol eich bod yn profi ac yn cynnal a chadw'r holl fesurau diogelwch rhag tân yn rheolaidd er mwyn cadw pobl yn ddiogel, a hynny trwy sicrhau bod y mesurau yn gweithredu ac yn perfformio yn ôl yr angen os bydd tân.

Os bydd tân mewn gweithle, dylai unrhyw un y disgwylir iddo ddefnyddio diffoddydd tân i geisio diffodd y tân gael hyfforddiant addas i wneud hynny. Bydd unigolyn wedi'i hyfforddi:

  • Yn gyfarwydd â chyfarwyddiadau gweithredu'r diffoddydd tâ
  • Yn deall pa ddiffoddydd tân y gellir ei ddefnyddio ar ba fath o dâ
  • Yn ymwybodol o leoliadau'r diffoddyddion tâ
  • Yn cadw diffoddyddion tân yn lân i atal croeshalogi.
  • Yn nodi prosesau y mae'n ofynnol i ddiffoddyddion tân fod yn rhan o'u gweithdrefnau e.e. Ni ddylid gwneud gwaith poeth (oni bai ei fod yn cael ei wneud gan unigolion cwbl gymwys gyda phob agwedd ar y prosesau gan gynnwys ymateb i dân).
  • Yn gwybod y dylid cynnal a chadw diffoddyddion tân yn rheolaidd.
  • Yn deall na ddylid dal drysau tân ar agor, yn enwedig trwy ddefnyddio diffoddyddion tân

Cyn caniatáu i staff neu aelodau'r cyhoedd ddychwelyd i'ch adeilad, sicrhewch fod yr holl lwybrau dianc ar gael a bod yr holl ddrysau a gatiau yn gallu agor yn gyflym heb ddefnyddio allwedd.

Cofiwch, efallai na fydd rhai drysau wedi cael eu hagor yn ystod y cyfyngiadau symud – mae'n bosibl bod cloeon a cholfachau wedi mynd yn sownd a bod drysau wedi mynd yn stiff i'w hagor; efallai y bydd angen gwneud rhywfaint o waith cynnal a chadw.

Os ydych wedi cyflwyno rhwystrau dros dro neu systemau unffordd i gerddwyr, cofiwch fod yn rhaid i bawb allu dianc o'r adeilad trwy'r allanfa agosaf sydd ar gael. Sicrhewch nad yw unrhyw fesurau newydd sy'n cael eu gweithredu yn golygu pellter teithio gormodol (pobl yn gorfod mynd yn rhy bell i gyrraedd allanfa). Adolygwch eich arwyddion dianc. Sicrhewch fod yr arwyddion yn dal i fod yn weladwy ac yn pwyntio i'r cyfeiriad cywir. Lle bo angen, newidiwch yr arwyddion dianc a ddarperir gennych i ddangos llwybrau newydd neu ddiwygiedig.

Os ydych chi neu eich busnesau cyfagos wedi cyflwyno strwythurau neu rwystrau dros dro i gynorthwyo gyda system giwio, ni ddylent amharu ar unrhyw ddull dianc. Trafodwch â'ch cymdogion unrhyw effaith bosibl y gallai strwythurau neu rwystrau o'r fath ei chael ar lwybrau dianc ac ar hwylustod cyrraedd mannau ymgynnull tân, ac ewch ati i gydweithio i geisio datrys unrhyw broblemau.  

Os yw unrhyw fesurau o'r fath wedi cael effaith sylweddol ar eich llwybrau dianc, rhaid adolygu eich asesiad risgiau tân.

Sicrhewch fod llystyfiant yn cael ei glirio oddi ar oleuadau allanol a goleuadau argyfwng ar hyd y llwybr; mae'n hanfodol bod pobl yn gallu gweld i le y maent yn mynd er mwyn dianc yn ddiogel.

Cyn meddiannu eich adeilad, sicrhewch fod y system Goleuadau Brys yn cael ei harchwilio a'i phrofi er mwyn cadarnhau ei bod yn gwbl weithredol os bydd tân a/neu os bydd y gylched goleuadau leol yn methu.

  • Rhaid i fylbiau neu unedau golau cyfan sy'n ddiffygiol gael eu hadnewyddu er mwyn sicrhau bod y system yn parhau i fod yn gwbl weithredol.
  • Sicrhewch fod system y goleuadau argyfwng yn cael ei phrofi a'i chynnal a'i chadw, yn unol â BS5266; mae hyn yn cynnwys cynnal prawf gweithrediad misol ar y system, a chofnodi hynny, ynghyd â gwasanaeth blynyddol gan unigolyn cymwys.
  • Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Adran 5 o'r ddogfen ganllaw berthnasol ar gyfer Asesu Risgiau Diogelwch Tân ar gyfer eich adeilad. Fel arall, cysylltwch â'ch contractwr gwasanaethu neu eich Gwasanaeth Tân ac Achub i gael arweiniad.

Sicrhewch fod arwyddion dianc a hysbysiadau sy'n cyfeirio pobl at allanfeydd yn weladwy o bob lleoliad a, lle bo angen, eu bod wedi'u goleuo'n addas. Dylid gosod Hysbysiadau Gweithredu yn achos Tân (cyfarwyddiadau ar yr hyn y dylid ei wneud yn achos tân) mewn lleoliadau amlwg, er enghraifft wrth ymyl pwyntiau galw lle mae angen torri'r gwydr, ac wrth yr allanfeydd terfynol.

Sicrhewch nad oes unrhyw beth yn rhwystro unrhyw rai o'r arwyddion a hysbysiadau diogelwch, a'u bod yn weladwy. Dylai arwyddion a hysbysiadau o'r fath gynnwys y canlynol (ond nid yn gyfyngedig i hynny):

  • Drws Tân Cadwch Ynghau
  • Drws Tân Cadwch ar Glo
  • Allanfa Dân
  • Allanfa Dân Cadwch yn Glir
  • Man Ymgynnull Tân
  • Arwyddion sy'n rhoi gwybodaeth am gyfarpar diffodd tanau.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Adran 6 o'r ddogfen ganllaw berthnasol ar gyfer Asesu Risgiau Diogelwch Tân ar gyfer eich adeilad.

Sicrhewch fod y trefniadau sydd gennych ar waith ar gyfer canfod tân a seinio rhybudd yn cael eu profi a'u harchwilio er mwyn cadarnhau eu bod yn gweithio'n iawn. Dylai eich asesiad risgiau tân helpu i nodi a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i'r trefniadau presennol gan ystyried unrhyw newidiadau i'r adeilad o ganlyniad i fesurau rheoli Covid-19.

Os oes gennych system larwm tân wedi'i gosod, sicrhewch ei bod yn cael ei phrofi a'i chynnal a'i chadw yn unol â BS5839. Mae hyn yn cynnwys cynnal profion wythnosol ar y system, a chofnodi hynny, trwy'r pwyntiau galw â llaw (pwynt galw gwahanol bob wythnos), ynghyd a gwasanaeth bob chwe mis gan unigolyn cymwys. Fel arfer, sicrheir cymhwysedd unigolion – er enghraifft peirianwyr larymau tân – trwy achrediad trydydd parti. Sicrhewch fod y contractwr larymau tân a benodir i ymgymryd â gwaith gwasanaethu/unrhyw waith adfer angenrheidiol ar y system yn meddu ar achrediad addas.

Dylai unrhyw ddyfeisiau diogelwch sy'n gysylltiedig â'r larwm tân, er enghraifft systemau agor drysau'n awtomatig a systemau awyru, hefyd gael eu profi a'u harchwilio i sicrhau eu bod yn gweithredu'n gywir.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth neu os oes gennych bryderon ynghylch unrhyw un o weithrediadau eich larwm, yna trefnwch fod eich Cwmni Gwasanaethu Larymau yn ei archwilio.

Mae drysau tân yn hanfodol wrth helpu i atal mwg a thân rhag lledaenu ledled yr adeilad; maent yn amddiffyn llwybrau dianc er mwyn helpu i sicrhau y gall y rheiny sydd yn yr adeilad ddianc yn gyflym ac yn ddiogel os bydd tân. Bydd llawer o bobl yn poeni ynghylch dychwelyd i'r gwaith ac yn chwilio am ffyrdd i leihau nifer yr arwynebau – gan gynnwys drysau – y maent yn eu cyffwrdd er mwyn helpu i leihau'r tebygolrwydd o ddal a/neu drosglwyddo'r feirws.

Mae gwybodaeth newydd yn awgrymu bod rhai busnesau yn dal drysau tân sy'n hunan-gau yn agored fel mesur i reoli Covid-19 (gyda'r bwriad o leihau'r angen i gyffwrdd â chloeon a dolenni drysau, ac ati). Er bod hyn yn ddealladwy yng nghyd-destun yr achosion o'r coronafirws, gallai arferion o'r fath gael effaith niweidiol ar ddiogelwch eich adeilad a'r rhai sydd ynddo; rhaid osgoi hyn. Os nodir bod angen i ddrysau penodol gael eu dal yn agored, bydd angen adolygu eich asesiad risgiau tân a rhoi mesurau rheoli addas ar waith.

Mae Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru yn cynghori’n gryf yn erbyn yr arfer o ddal drysau tân yn agored, ac yn gofyn i unigolion cyfrifol ystyried mesurau rheoli eraill.