Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Pencadlys Gwasanaeth
Heol Llwyn Pisgwydd,
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA31 1SP
Ewch i'n Ffurflen Cyswllt
Ffôniwch ar 0370 6060699
Bydd yr Awdurdod Tân yn defnyddio’i ddoethineb wrth benderfynu p'un ai i erlyn rhywun, a bydd yr argymhelliad i erlyn yn cael ei wneud wedi ymgynghori â’r Swyddogion Diogelwch Rhag Tân priodol.
Caiff y gofyniad am awdurdodiad i erlyn ei ddatgan yng Nghyfansoddiad Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru. Nid yw’r penderfyniad i erlyn yn cael ei wneud ar chwarae bach, a bydd yn dwyn i ystyriaeth y prawf tystiolaethol a’r ffactorau lles y cyhoedd perthynol a draethir gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yn y Côd ar gyfer Erlynyddion y Goron (yn agor yn ffenest/tab newydd). Ni fydd unrhyw erlyniad yn cael mynd yn ei flaen nes bod yr Awdurdod Tân o’r farn bod digon o dystiolaeth i roi gobaith realistig o euogfarn a’i fod yn penderfynu y byddai erlyniad er lles y cyhoedd.
Yma fe welwch enghreifftiau o bobl a gafodd eu herlyn am fethu â chydymffurfio â’u dyletswyddau yn unol â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (yn agor yn ffenest/tab newydd).
Pencadlys Gwasanaeth
Heol Llwyn Pisgwydd,
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA31 1SP
Ewch i'n Ffurflen Cyswllt
Ffôniwch ar 0370 6060699