Canllawiau ar fod yn ymgynghorai statudol yn y system gynllunio (PDF, yn agor yn ffenest/tab newydd)
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (y Gwasanaeth) yw'r awdurdod gorfodi ar gyfer Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 mewn perthynas ag adeiladau priodol yn ardal y Gwasanaeth.
Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 a Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 (y cyfeirir atynt gyda'i gilydd fel “y Gorchmynion Gweithdrefn”) yn gosod gofyniad statudol i ymgynghori â chyrff allweddol yn ystod cam ymgynghori cyn-ymgeisio y broses gydsynio ar gyfer ceisiadau cynllunio a cheisiadau ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, yn ogystal ag ar ôl i gais gael ei gyflwyno.
Ar 27 Hydref 2021, cafodd Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021 (“y Gorchymyn”) ei gyflwyno gerbron y Senedd. Mae'r Gorchymyn yn diwygio'r Gorchmynion Gweithdrefn er mwyn gwneud Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru yn 'ymgyngoreion statudol' ar gyfer mathau penodol o ddatblygiad yn ystod y cam cyn-ymgeisio a'r cam ar ôl i gais gael ei gyflwyno. Bydd hyn yn berthnasol i geisiadau cynllunio y bydd awdurdodau cynllunio lleol (ACLl) yn penderfynu yn eu cylch yn ogystal â cheisiadau ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol y bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu yn eu cylch.
O 24 Ionawr 2022, ar gyfer datblygwyr, ac o 25 Ebrill 2022, ar gyfer ACLl, daw'r Gwasanaeth yn ymgynghorai statudol ar gyfer mathau penodol o ddatblygiad yn ystod y cam cyn-ymgeisio a'r cam ar ôl i gais gael ei gyflwyno.
Gellir dod o hyd i'r dogfennau a'r canllawiau gweithdrefnol ymgynghori llawn sy'n ofynnol ar gyfer ymgynghoriad yn:
Byddem yn gofyn bod yr holl ddogfennau ymgynghori perthnasol mewn fformat PDF ac yn cael eu hanfon i'r cyfeiriad e-bost pwrpasol: bregs@mawwfire.gov.uk
Er mwyn hwyluso'r broses o adnabod y dogfennau, byddem yn gofyn, os byddwch yn anfon sawl neges e-bost gydag atodiadau, fod pob neges e-bost yn nodi eich cyfeirnod a rhif yr e-bost e.e., 1 o 3, 2 o 3, ac ati.
Os bydd y neges e-bost a'r atodiadau yn dod i law yn llwyddiannus, yna byddant yn cael eu prosesu a'u dyrannu i aelod o'r tîm Rheoliadau Adeiladu, a bydd y Datblygwr/yr ACLl yn cael ymateb e-bost yn cadarnhau eu bod wedi dod i law a'u bod wedi'u prosesu a'u dyrannu.
Mae'r negeseuon e-bost yn cael eu hagor bob dydd, ond os bydd y cais yn cyrraedd ar ôl pedwar o'r gloch, ystyrir ei fod wedi cyrraedd y diwrnod gweithio nesaf. Gwneir hyn er mwyn cydymffurfio â rheolau sy'n ymwneud â chyfathrebu electronig.
Bydd datblygwyr/ACLlau yn cael ein hymateb ymgynghori o fewn yr amserlen y cytunwyd arni sy'n berthnasol i'r math o ddatblygiad, a hynny trwy'r cyfeiriad e-bost uchod.