Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Pencadlys Gwasanaeth
Heol Llwyn Pisgwydd,
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA31 1SP
Ewch i'n Ffurflen Cyswllt
Ffôniwch ar 0370 6060699
Mae ysgeintwyr yn bethau y mae pawb yn eu cymryd yn ganiataol, maent yn bethau yn y cefndir pe digwydd i dân amlygu. Gosodwyd un o’r systemau ysgeintio cynharaf yn y Theatre Royal yn Drury Lane ym 1812, ond roedd hi’n 1885 pan wnaeth John Wormald o’r Mutual Fire Insurance Corporation ffurfioli’r rheolau ar gyfer dylunio a gosod systemau ysgeintio.
Mae systemau ysgeintio yn cynnwys cyfres o bibellau, sydd wedi eu cysylltu i gyflenwad dŵr. Mae pennau ysgeintio wedi eu gosod ar allfeydd y pibellau, ac mae pob un yn cynnwys bwlb gwydr yn llawn hylif, sy’n selio allfa’r bibell, gan atal dŵr rhag dod allan. Pan ei fod yn cael ei amlygu i wres, mae’r hylif yn y bwlb yn ehangu gan achosi i’r gwydr i dorri ac mae dŵr yn dod allan o ben yr ysgeintiwr, gan lethu’r tân a’i atal rhag lledu neu ei ddiffodd yn llwyr. Gellir amrywio’r tymheredd y mae gwydr y bwlb yn torri, a chaiff ei ddynodi gan liw'r bwlb gwydr a osodir yn y pen.
Yn gyffredinol, derbynnir bod ysgeintwyr yn:
Anghywir.
Ffilmiau a rhaglenni teledu sydd wedi rhoi bod i'r myth hwn. Mae systemau ysgeintio'n cynnwys cyfres o bibellau sy’n gorffen â phennau ysgeintio. Pan fydd tân yn dechrau, bydd gwres y fflamau yn achosi i'r hylif mewn bwlb cwartsoid, sydd wedi'i osod ar y pen ysgeintio, ehangu nes bod y bwlb yn torri ac yn gollwng dŵr ar ben y tân. Bydd y gwres wedi'i gyfyngu i'r pen ysgeintio yn ardal y tân yn unig. Ni fydd yn effeithio ar y pennau eraill ac felly bydd y rhain yn aros yn gyfan, heb ollwng dŵr ar rannau eraill o'r eiddo lle nad oes tân. Fodd bynnag, os digwydd i'r tân ymledu, bydd y fflamau’n effeithio ar fwy o bennau gan achosi iddynt dorri a rhyddhau rhagor o ddŵr mewn ymgais i gyfyngu ar ymlediad y fflamau.
Anghywir eto.
Mae'n bosibl cuddio'r pennau ysgeintio uwchben nenfydau crog a gosod gorchuddion i'w gwneud yn llai gweladwy. Bydd angen i chi siarad â'ch contractwr gosod i weld beth y gellir ei wneud.
Anghywir.
Mae system ysgeintio'n ymosod yn uniongyrchol ar y tân fel bod llai o ddŵr yn cael ei ddefnyddio. Mae rhai systemau'n seinio'r larwm tân unwaith y cânt eu cychwyn, fel y gellir diffodd y system ysgeintio unwaith y bydd y tân wedi'i ddiffodd.
Mae wedi'i ddweud nad yw gosod ysgeintwyr yn ddrutach na gosod carped da, fodd bynnag, mae hynny'n dibynnu ar y mannau gosod ac amodau arbennig eraill y bydd eu hangen yn y mannau gosod hynny, e.e. mannau oer, ac ati Gall gosod system ysgeintio arwain at ystyriaeth ffafriol gan yswirwyr, sy'n gallu cynnig pris gostyngol fel bod y gwaith gosod yn talu amdano'i hun gydag amser. Holwch eich cwmni yswiriant i weld beth fydd ei ymateb.
Mae synwyryddion mwg yn gwneud gwaith ardderchog o ran achub bywydau trwy roi mwy o amser i bobl adael yr adeilad. Fodd bynnag, nid ydynt yn gwneud dim i ddiffodd tân na'i reoli.
Rydych chi'n fwy tebygol o ennill y wobr gyntaf mewn loteri na dioddef diffyg ar eich ysgeintwyr.
Pencadlys Gwasanaeth
Heol Llwyn Pisgwydd,
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA31 1SP
Ewch i'n Ffurflen Cyswllt
Ffôniwch ar 0370 6060699