Faint o alwadau diangen o Larymau Tân Awtomatig ydych chi'n ymateb iddyn nhw ar hyn o bryd?
Dros y pum mlynedd diwethaf, roedd 99% o'r digwyddiadau AFA Masnachol a fynychwyd gennym yn alwadau diangen. Roedd y rhain yn cyfrif am bron i un rhan o bump o’r holl ddigwyddiadau – hynny yw, chwe injan dân y dydd yn cael eu hanfon i alwadau diangen lle nad oes tân.
Beth sy'n achosi galwad diangen?
Mae systemau larwm tân a chanfod tân yn seinio naill ai o ganlyniad i gynnydd mewn gwres neu bresenoldeb mwg. Yn anffodus, gallan nhw hefyd adweithio i bethau fel stêm, mwg sigarét, fêps, chwistrellau aerosol neu fwg ysgafn o goginio. Gall y rhain gael eu hachosi gan arferion gwaith gwael, synwyryddion mewn lleoliad gwael neu system larwm tân nad yw'n cael ei chynnal a chadw’n iawn.
Ydy hyn yn berthnasol os ydw i'n byw mewn eiddo preswyl?
Nac ydy. Os ydych chi’n byw mewn eiddo preswyl sy'n cynnwys cartrefi preifat, tai gwarchod, fflatiau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol, tai amlfeddiannaeth (HMO), neuaddau preswyl myfyrwyr, llety GIG neu ysgolion preswyl er enghraifft - byddwch yn dal i dderbyn ymateb Gwasanaeth Tân o alwadau Larwm Tân Awtomatig ar yr amod y gall y Ganolfan Derbyn Larymau nodi bod eich eiddo wedi'i ddosbarthu fel eiddo preswyl.
Beth yw fy nghyfrifoldebau fel perchennog busnes?
Mae gan berchnogion a rheolwyr busnes gyfrifoldebau cyfreithiol ynghylch diogelwch tân.
Dylech ystyried sut i ddefnyddio Larymau Tân Awtomatig fel rhan o'ch strategaeth dân ac, os oes angen, diweddaru eich asesiad risg tân a’ch cynllun gadael mewn argyfwng. Efallai y bydd angen i chi drefnu hyfforddiant ar gyfer staff sydd wedi'u dynodi'n wardeniaid tân, yn stiwardiaid neu'n ddeiliaid allweddi.
Os yw'ch larwm tân wedi'i gysylltu â Chanolfan Derbyn Larymau, gwnewch yn siŵr bod eich gwybodaeth am y deiliad allwedd yn ddigon cywir a chadarn i sicrhau bod deiliad allwedd ar gael bob amser yn ystod cyfnodau o absenoldeb staff neu pan fo'r eiddo’n wag. Efallai yr hoffech ystyried cysylltu eich system larwm i deledu cylch cyfyng.
Beth sydd angen i mi ei wneud nesaf?
Fel deiliad dyletswydd, rhaid i chi sicrhau bod eich eiddo yn ddiogel i staff, ymwelwyr a phreswylwyr os bydd tân. Mae gennych gyfrifoldeb o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 i gynnal y cyfleusterau a'r offer a ddarperir. Gallai methu â gwneud hyn arwain at erlyniad. Dylai staff a phreswylwyr fod yn ymwybodol o sut i ymateb yn ddiogel i Larymau Tân Awtomatig ym mhob safle. Gallai eu hanwybyddu neu dybio bod y Gwasanaeth Tân ac Achub wedi cael eu hysbysu roi pobl mewn perygl.
Efallai y byddwch am gysylltu â'ch cwmni yswiriant i drafod y newidiadau mewn ymateb i seinio Larwm Tân Awtomatig, ond cofiwch y bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bob amser yn mynychu tân sydd wedi’i gadarnhau. Os oes tân, ffoniwch 999 ar unwaith.