Llusernau awyr/Llusernau Tsieina

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi gwahardd yr arfer o ryddhau llusernau awyr, neu lusernau Tsieina. Nid yn unig y mae'r llusernau'n achosi perygl tân, ond maent hefyd yn creu sbwriel yng nghefn gwlad ac yn peryglu bywyd gwyllt.

Am mwy o wybodaeth ewch i safle we Keep Wales Tidy (agor yn ffenest/tab newyydd)

 

Rhyddhau Balwnau

Mae hanner yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gwahardd yr arfer o ryddhau balwnau'n fwriadol, arfer sydd, yn eu barn nhw, yn fath o daflu sbwriel. Nid yn unig y mae'r balwnau, ar ôl iddynt ddisgyn i'r ddaear, yn creu gwastraff diangen sy'n cael ei wasgaru ledled cefn gwlad, ond mae yna hefyd berygl y gall da byw a bywyd gwyllt dagu arnynt.