Smygu – cyngor ar ddiogelwch tân i smygwyr
Os ydych chi neu rywun yn eich cartref yn smygu gallwch gymryd y camau syml canlynol i atal tân rhag digwydd yn eich cartref.
- Peidiwch byth â smygu yn y gwely – os oes angen i chi orwedd, peidiwch â smygu. Gallech bendwmpian a rhoi eich gwely ar dân
- Byddwch yn arbennig o ofalus pan fyddwch wedi blino, yn cymryd unrhyw fath o gyffuriau, neu wedi bod yn yfed alcohol. Mae'n hawdd iawn cwympo i gysgu pan fydd eich sigarét yn dal i losgi
- Gofalwch fod eich sigarét wedi'i diffodd yn llwyr. Diffoddwch hi yn llwyr!
- Peidiwch byth â gadael sigaréts, sigârs, na phibau sydd ynghynn heb neb i gadw llygad arnynt – gallant ddisgyn yn hawdd wrth iddynt losgi
- Defnyddiwch flwch llwch priodol, trwm nad yw'n troi drosodd yn hawdd ac sydd wedi'i wneud o ddeunydd na fydd yn llosgi. Gwnewch yn siŵr nad yw eich sigarét yn dal i losgi pan fyddwch wedi gorffen – diffoddwch hi yn llwyr
- Peidiwch â gwagio eich blwch llwch i mewn i fin oherwydd gall hyn achosi i'r bin fynd ar dân. Bydd diferyn o ddŵr yn y blwch llwch yn helpu i'w wneud yn ddiogel, yna gadewch iddo oeri'n llwyr.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich deunyddiau smygu (sigaréts, tanwyr, ac ati) allan o olwg a chyrraedd plant.
- Gosodwch larwm mwg a'i gynnal a chadw – gall larwm mwg sy’n gweithio brynu amser gwerthfawr i chi fynd allan, aros allan a ffonio 999. Gallwch gael larwm mwg deng mlynedd am tua’r un pris â dau becyn o sigaréts
Rhoi'r gorau i smygu yw'r ffordd orau o atal tân yn eich cartref oherwydd deunyddiau smygu.
A oeddech yn gwybod eich bod 4 gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau iddi’n barhaol gyda chymorth y GIG na phe baech yn ceisio rhoi’r gorau iddi ar eich pen eich hun?
Dilynwch y ddolen hon i gael gwybod rhagor am roi'r gorau i smygu
https://www.helpafiistopio.cymru/
E-sigaréts – cyngor ar ddiogelwch tân
- Peidiwch byth â gadael e-sigaréts yn gwefru heb neb i gadw llygad arnynt am gyfnodau hir
- Peidiwch â chymysgu cydrannau o e-sigaréts gwahanol
- Defnyddiwch y gwefrydd a gyflenwir yn unig
- Sicrhewch eich bod yn prynu eich e-sigarét gan ffynhonnell safonol
- Gwiriwch fod gan yr e-sigarét ardystiad CE
- Profwch eich larwm mwg yn rheolaidd
- Cysylltwch â Safonau Masnach ynghylch unrhyw bryderon o ran diogelwch e-sigaréts
Sut i wefru e-sigaréts yn ddiogel
- Defnyddiwch y gwefrydd cywir bob amser a dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- Peidiwch byth â gwefru batri sydd wedi'i ddifrodi, ei ollwng neu ei daro
- Peidiwch byth â phlygio gwefrydd i mewn i newidydd y prif gyflenwad pŵer sydd heb ei gymeradwyo
- Gwiriwch fod gan eich batri amddiffyniad rhag gorlwytho neu orboethi
- Peidiwch â gorlwytho'r batri. Tynnwch y batri o'r gwefrydd pan fydd wedi gorffen
- Peidiwch byth â gadael batri sy'n gwefru heb neb i gadw llygad arno
- Peidiwch â gwefru os yw'n wlyb
- Peidiwch â gordynhau'r atomeiddiwr wrth ei gysylltu â'r gwefrydd