Mae tymor y Nadolig ar ein gwarthaf … yn swyddogol!
Dweud eich Dweud!
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn eich gwahodd i rannu eich barn ar ein Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2040 Drafft.
Mae ein Cynllun Rheoli Risgiau Cymunedol yn dangos sut rydym yn bwriadu mynd i'r afael â'r risgiau, y bygythiadau a'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau a sut rydym yn bwriadu eu hwynebu a'u lleihau, gan sicrhau bod ein hasedau a'n hadnoddau yn cael eu defnyddio'n llwyddiannus, er mwyn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Newyddion Diweddaraf

Cadwch yn Ddiogel y Gaeaf hwn
Mae'r gaeaf ar ein gwarthaf gan ddod â nosweithiau tywyllach a thywydd garw yn ei sgil.

Cylchgrawn Calon Tân: Tachwedd 2023
Croeso i rifyn mis Tachwedd o Gylchgrawn y Gwasanaeth, Calon Tân!

Digwyddiad: Tân mewn Tŷ ym Melin y Parc
Ddydd Sul, Tachwedd 26ain, cafodd criwiau Gorllewin Abertawe, Tre Rheinallt, Treforys, y Tymbl a Gorseinon eu galw i ddigwyddiad ym Melin y Parc, Abertawe.

Digwyddiad: Groto Siôn Corn yng Ngorsaf Dân Aberystwyth
Ddydd Sadwrn, Rhagfyr 2ail, ymunwch â chriw Gorsaf Dân Aberystwyth am brynhawn o hwyl a sbri'r Nadolig!

Tair Cenhedlaeth o Ddiffoddwyr Tân: Dros 73 Mlynedd o Wasanaeth
Mae tair cenhedlaeth o’r teulu Jones – Gareth, Emyr a Cian – wedi gwasanaethu fel diffoddwyr tân yng Ngorsaf Dân Castellnewydd Emlyn, gyda chyfanswm rhyngddynt o dros 73 mlynedd o wasanaeth ac ymroddiad hyd yma – ac mae’r rhif hwnnw’n dal i godi!

Achrediad Rhuban Gwyn
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dangos eu hymroddiad i ddod â thrais gan ddynion yn erbyn menywod i ben trwy sicrhau Achrediad Rhuban Gwyn unwaith eto.

Gwobrau Mwy Na Dim Ond Tanau 2023: Dathlu Gwaith Caled ac Ymroddiad
Ddydd Gwener, Tachwedd 10, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ei Seremoni Wobrwyo flynyddol Mwy Na Dim Ond Tanau yng Ngwesty a Sba y Metropole yn Llandrindod.
O dan sylw

Mae Ymgyrch Dawns Glaw, sy'n dasglu amlasiantaethol o arbenigwyr o asiantaethau allweddol ledled Cymru, wedi ailffurfio i leihau, a lle bo hynny'n bosibl, dileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru.
Ewch i'n tudalennau Dawns Glaw am mwy o wybodaeth

Gyda’r nosweithiau tywyllach a’r tywydd yn gwaethygu dros fisoedd y gaeaf, bydd rhoi ychydig o amser i ystyried diogelwch dros y gaeaf ac unrhyw beryglon ychwanegol yn helpu i’ch diogelu chi a’ch eiddo rhag peryglon posibl. Mae tîm diogelwch cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi paratoi gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i gadw'n ddiogel.
Am fwy o wybodaeth ewch i'n tudalen ymgyrch Diogelwch y Gaeaf
Rydym eisiau eich barn
Dyma'ch Gwasanaeth Tân ac Achub!
Rydym yn cynnal ymgynghoriadau ffurfiol yn rheolaidd, gan roi'r cyfle i chi rannu eich barn ar ein gweledigaeth a'n hamcanion ar draws ein gwahanol gynlluniau.
Er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i'n cymunedau, mae herio a gwella'r ffordd yr ydym yn gweithio yn bwysig iawn felly rydym yn eich annog i siarad â ni ar unrhyw adeg.