Ymgyrch Dawns Glaw, tasglu amlasiantaethol o arbenigwyr o asiantaethau allweddol ledled Cymru, sy'n ymrwymedig i leihau, a lle bo hynny'n bosibl, i ddileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru.

Sefydlwyd y tasglu yn 2016 i fynd i'r afael ag achosion o gynnau tanau glaswellt yn fwriadol ledled Cymru. Er bod y ffocws gwreiddiol ar leihau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynnau tanau bwriadol, mae gwaith mwy diweddar wedi canolbwyntio ar gynorthwyo ffermwyr a thirfeddianwyr i sicrhau bod eu cynlluniau rheoli tir yn cael eu cynnal mewn ffordd ddiogel. Yn yr un modd, o ganlyniad i'r cynnydd mewn twristiaeth i ardaloedd gwledig Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r gweithlu wedi bod yn meithrin ymwybyddiaeth o ganlyniadau tanau damweiniol i'n cefn gwlad.

 

Kilvey Hill Wildfire

Gadewch i ni amddiffyn ein cefn gwlad a'n gwlad

Yn 2022, ymatebodd y gwasanaethau tân ledled Cymru i 3,269 o danau glaswellt – roedd hyn yn gynnydd o 62% ar y flwyddyn flaenorol, gyda nifer y tanau glaswellt bwriadol yn cynyddu 1542 (47%) i 2263. Roedd y cynnydd yn bennaf oherwydd y tywydd sych a phoeth ym mis Gorffennaf a mis Awst, a arweiniodd at ail gynnydd yn nifer y digwyddiadau, yn ogystal â gweithgarwch Mawrth/Ebrill.

Bob blwyddyn, mae tanau yn gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o ardaloedd cefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt. Rydym am weithio gyda'n cymunedau i adeiladu tirwedd iachach a mwy gwydn, a hynny trwy ddatblygu cefn gwlad mwy bioamrywiol ar gyfer ein dyfodol.

Trwy gydweithio â'n cymunedau i rannu ein gwybodaeth, gobeithiwn ddarparu gwell dealltwriaeth o'r hyn y gall pob un ohonom ei wneud i atal tanau damweiniol rhag cynnau, ac, yn ei dro, i atal y difrod y gall tanau damweiniol ei achosi i'n hamgylchedd.

Gallwch weld awgrymiadau diogelwch syml trwy lawrlwytho'r negeseuon diogelwch yn ein Llyfrgell Adnoddau. Fel arall, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn adran Diogelwch Cymunedol ein gwefan, trwy glicio yma 

Cofiwch
Os ydych allan yn mwynhau yng nghefn gwlad ac yn dod ar draws unrhyw weithgarwch amheus, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Cofiwch, ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.

Burn plan deadline date

Y Rheolau Llosgi Grug a Glaswellt

Mae'r Tasglu'n parhau â'i waith gyda ffermwyr a thirfeddianwyr ledled Cymru, a gyda'n gilydd gallwn geisio gwrthdroi'r broses o golli bioamrywiaeth yng Nghymru. Rydym yn deall buddion tanau rheoledig i'n tirwedd a'r rôl y maent yn eu chwarae o ran hyrwyddo amrywiaeth fiolegol a chreu ecosystemau iachach.

Gall ffermwyr a thirfeddianwyr barhau i losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin hyd at 15 Mawrth (hyd at 31 Mawrth mewn ardaloedd tir uchel); fodd bynnag, rhaid bod ganddynt Gynllun Llosgi ar waith i sicrhau eu bod yn llosgi'n ddiogel. Mae'n anghyfreithlon llosgi rhwng machlud a chodiad haul ac mae'n rhaid bod yna nifer ddigonol o bobl wrth law a chyfarpar digonol ar gael bob amser i reoli'r llosgi. Gall torri'r rheolau hyn arwain at gosbau o hyd at £1000. Rydym am weithio gyda'n tirfeddianwyr lleol i sicrhau na fydd hyn yn digwydd. Gallwch gysylltu â ni i gael cyngor am ddim ar losgi diogel, ac mae gennym ragor o wybodaeth am Ddiogelwch Ffermydd yma.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Rheolau Llosgi Grug a Glaswellt – a lawrlwytho Cynllun Rheoli Llosgi, o wefan Llywodraeth Cymru (yn agor yn ffenest/tab newydd) 

Os ydych yn gweld tân sy'n edrych fel y gallai fod allan o reolaeth, neu'n cael ei losgi'n anghyfreithlon, cofiwch gysylltu â Crimestoppers (yn agor yn ffenest/tab newydd) yn ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Cofiwch, ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng. 

Mae Cynnau Tân Glaswellt yn Fwriadol yn Drosedd

Er y gall damweiniau ddigwydd, mae yna bobl eraill yn ein cymunedau sy'n rhoi ein hardaloedd cefn gwlad ar dân yn fwriadol. Mae cynnau tân yn fwriadol yn drosedd ac mae'r Tasglu yn apelio am wybodaeth am unrhyw un sy'n cynnau tanau yn fwriadol trwy ffonio 101, neu trwy gysylltu â Crimestoppers (yn agor yn ffenest/tab newydd) yn ddienw ar 0800 555 111. Mae dienw yn golygu nad yw rhifau ffonau symudol, cyfeiriadau na lleoliadau galwadau yn cael eu holrhain. Bydd y rheiny sy'n cael eu dal yn cael eu herlyn.  

Cefnogir y gwaith hwn gan ein tîm Lleihau Tanau Bwriadol, sef ein tîm datrys problemau sydd wedi ymroi i leihau a dileu'r weithred o gynnau tanau bwriadol. Mae'r tîm yn cynnwys Swyddog Heddlu ar secondiad, Swyddog Tân a thri chynghorydd arbenigol llosgi bwriadol, sy'n sicrhau yr ymchwilir i bob digwyddiad, a'i fod yn cael ei ddadansoddi, er mwyn gwneud ein cymunedau'n fwy diogel. Mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda'i bartneriaid i dargedu ardaloedd problemus, ac i ddatblygu ffyrdd yn gyson o leihau llosgi bwriadol, yn ogystal â nodi ar bwy neu beth y gallai hyn effeithio. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am waith ein Tîm Lleihau Tanau Bwriadol. 

 

Mwy o wybodaeh am #Dawnsglaw
 

Galeri