Cadwch yn Ddiogel y Gaeaf Hwn!
Gyda’r nosweithiau tywyllach a’r tywydd yn gwaethygu dros fisoedd y gaeaf, bydd rhoi ychydig o amser i ystyried diogelwch dros y gaeaf ac unrhyw beryglon ychwanegol yn helpu i’ch diogelu chi a’ch eiddo rhag peryglon posibl. Mae tîm diogelwch cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi paratoi gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i gadw'n ddiogel.

“Rydych chi'n llawer mwy tebygol o gael tân yn y cartref neu gael damwain yn eich cerbyd yn ystod tymor y gaeaf, a hynny’n syml oherwydd y peryglon ychwanegol sy'n bodoli, felly mae'n hanfodol bwysig eich bod yn sicrhau bod eich cerbyd yn addas ar gyfer y ffordd fawr, bod eich larymau mwg a’ch larymau Carbon Monocsid yn gweithio, bod eich simneiau'n cael eu glanhau, bod eich offer trydanol yn ddiogel a’ch bod chi'n cymryd gofal wrth ddefnyddio canhwyllau. Gall camau syml wneud gwahaniaeth enfawr a byddem yn eich annog i edrych ar y wybodaeth rydym wedi’i darparu, er mwyn eich helpu i gael gaeaf diogel a phleserus.”
Peter Greenslade - Pennaeth Corfforaethol Rheoli Risg Cymunedol

Diogelwch yn y Cartref
P’un ai eich bod yn gwresogi eich cartref, neu’n defnyddio mwy o oleuadau, mae’n debygol y byddwch yn treulio mwy o amser gartref ac yn defnyddio mwy o offer trydanol ac offer gwresogi fydd yn naturiol yn achosi peryglon ychwanegol, boed hynny oherwydd tân, llifogydd neu beryglon carbon monocsid. Rydym hefyd yn eich annog i gymryd camau syml i’ch amddiffyn eich hun rhag tanau damweiniol a gwenwyn carbon monocsid wrth i chi geisio cadw'n gynnes a lleihau'r defnydd o ynni y gaeaf hwn. Dylai profi eich larymau mwg a'ch synwyryddion Carbon Monocsid fod yn un o'ch prif flaenoriaethau.
“Gyda misoedd y gaeaf ar ein gwarthaf, mae’r syniad o noson glyd o flaen y tân yn apelio at bob un ohonom; mae cynhesrwydd tân agored neu olau tyner cannwyll yn baratoad da ar gyfer noson ymlaciol. Er hynny, mae angen i ni fod yn ymwybodol o'r peryglon all fod yn bresennol wrth ddefnyddio fflamau agored.
Pan gynhyrchir gwres neu olau, mae'n golygu bod risg bosibl o dân, boed hynny trwy ddefnyddio canhwyllau, stôfs llosgi coed, gwresogyddion cludadwy neu flancedi trydan. Mae’n bwysig ystyried risg carbon monocsid a sicrhau bod synwyryddion yn eu lle ac yn gweithio - a hynny drwy eu profi’n rheolaidd. I gael cyngor ac arweiniad pellach ar beth y gallwch chi ei wneud i leihau’r peryglon yn eich cartref y gaeaf hwn, ewch i mawwfire.gov.uk.
Gallwch hefyd drefnu ‘Gwiriad Diogel ac Iach’, lle bydd y Gwasanaeth Tân yn ymweld â’ch cartref ac yn rhoi cyngor penodol i chi ar sut i gadw’n ddiogel.”
Wayne Thomas - Rheolwr Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref
Rhagor o wybodaeth

Diogelwch ar y Ffyrdd
Bydd gwneud paratoadau syml i’ch cerbyd gan ystyried y tywydd a chyflwr y ffyrdd, cynllunio llwybrau teithio cyn cychwyn ac addasu eich dull gyrru er mwyn gweddu i'r amodau, i gyd yn helpu i leihau'r risgiau y gaeaf hwn.
“Gall amodau gyrrufod yn heriol i bob gyrrwr yn y gaeaf. Bydd dilyn rhai o’r camau syml hyn i gael eich cerbyd yn barod ar gyfer y gaeaf a pharatoi ar gyfer eich taith yn sicrhau eich bod yn cyrraedd pen eich taith yn ddiogel, ond yn bwysicaf oll, gofynnwch hyn i chi’ch hun – A yw’r daith yn hanfodol? Oes gwir angen i chi ei gwneud? Ac os ydyw - a yw eich car yn barod ar gyfer y daith honno?”
Greham Jenkins – Cydlynydd Tîm Ieuenctid y Gwasanaeth
Rhagor o wybodaeth

Diogelwch Cymunedol
Fel Gwasanaeth, rydym yn gweithio’n agos gyda’n cymuned a’n partneriaid er mwyn gwneud canolbarth a gorllewin Cymru yn lle mwy diogel i fyw, i weithio ac i ymweld ag ef. Ar y cyd â'r gwaith rydym yn ei wneud gyda phobl ifanc, yn ymweld ag ysgolion a chynnal ymweliadau Diogel ac Iach, rydym hefyd yn gyfrifol am orfodi deddfwriaeth diogelwch tân.
Rydym am sicrhau bod gan bawb gefnogaeth ardderchog y gaeaf hwn ac rydym yn rhoi cymorth ychwanegol i'r rhai sydd ei angen trwy wiriad Diogel ac Iach. Rydym yn deall y gall rhai deimlo’n fwy ynysig yn ystod misoedd y gaeaf ac efallai ei bod hi’n anodd gwybod pa ffordd i droi o safbwynt cadw’n ddiogel. Os oes gyda chi ffrindiau, teulu neu gymdogion allai elwa o gyngor diogelwch tân, dywedwch wrthyn nhw am ein hymweliadau Diogel ac Iach.
Rhagor o wybodaeth

Cyngor ar Lifogydd
Mae glaw trwm yn broblem gyffredin yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, yn enwedig yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf ac mae’n hawdd anghofio pa mor beryglus y gall gyrru dan amodau gwlyb fod. Er mwyn sicrhau eich bod yn cadw’n ddiogel, mae’n bwysig paratoi ar gyfer yr heriau a ddaw yn sgil tywydd gwlyb.
Rhagor o wybodaeth

Defnyddio pyllau tân, chimineas a llosgyddion mewn modd diogel
Does dim angen i chi roi’r gorau i dreulio amser yn yr awyr agored yn ystod misoedd y gaeaf. Dros y misoedd oer hynny, gall pwll tân neu ‘chiminea’ ymestyn eich mwynhad o'ch gardd a dyma’r union beth i ddod â phobl rydych chi'n eu caru at ei gilydd i rostio malws melys neu greu'r amgylchedd iawn ar gyfer parti. Dilynwch ein hawgrymiadau diogelwch syml er mwyn cadw’n ddiogel y gaeaf hwn.
Rhagor o wybodaeth

Tân gwyllt, llusernau awyr a rhyddhau balwnau
Mae dathlu gwyliau crefyddol neu flwyddyn newydd gan ddefnyddio tân gwyllt, Llusernau Awyr, neu Lanternau Tsieineaidd a rhyddhau balŵns yn fwriadol, nid yn unig yn beryglus o ran tân, ond maen nhw hefyd yn creu sbwriel yng nghefnwlad ac yn creu peryglon difrifol i dda byw a bywyd gwyllt. Ewch i’r canllawiau isod am fwy o wybodaeth.
Rhagor o wybodaeth
