Cadwch yn Ddiogel y Gwanwyn hwn!
Mae'r gwanwyn wedi cyrraedd! Gyda mwy o oriau o olau dydd a nosweithiau goleuach ar y ffordd, dyma'r cyfle perffaith i ddechrau ar y tasgau hynny o amgylch y tŷ a'r ardd a oedd wedi cael eu gohirio yn ystod misoedd y gaeaf.
Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, dyma hefyd atgoffa ffermwyr a thirfeddianwyr y bydd y ffenestr ar gyfer llosgi glaswellt dan reolaeth yn cau cyn hir, a bod yna ofyniad cyfreithiol arnynt i wneud hyn yn ddiogel a llenwi cynllun rheoli, sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, cyn llosgi.

“Rydym am weithio gyda'n cymunedau, ein ffermwyr a'n tirfeddianwyr i rannu ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o'r effaith y mae tanau bwriadol a thanau damweiniol yn ei chael ar ein cymunedau. Rydym yn deall y gall llosgi dan reolaeth gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, gan greu bioamrywiaeth ac ecosystem gynaliadwy, ac rydym ar gael i roi cyngor am ddim ar sut i fynd ati i wneud hyn yn ddiogel."
Dywedodd Peter Greenslade, Pennaeth Corfforaethol Rheoli Risg Gymunedol:

Ymgyrch Dawnsglaw
Dylai pawb fod yn ymwybodol o'r risg uwch o danau gwyllt a thanau glaswellt ar yr adeg hon o'r flwyddyn, a dylai pobl ymddwyn mewn modd diogel a chyfrifol a dilyn y cod cefn gwlad. Y dull gorau o amddiffyn rhag colled, difrod neu anaf oherwydd tanau gwyllt a thanau glaswellt yw trwy eu hatal.
Dywedodd Richie Vaughan-Williams, y Rheolwr Lleihau Tanau Bwriadol:
“Mae cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn eithriadol o effeithiol, a gwelwyd canlyniadau cadarnhaol a gostyngiad sylweddol yn nifer y tanau mwy ar hyd a lled Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni gadw'r gwaith o atal tanau gwyllt ar yr agenda o hyd.”
Mwy o wybodaeth

Defnyddio pwlltân, chimineas a diogelwch llosgyddion gardd
Yn ystod y Gwanwyn, mae'n naturiol bod eisiau aros y tu allan yn hwyrach yn y nos, gan eistedd o amgylch pwlltân neu simnea gyda theulu neu ffrindiau. Dilynwch ein cynghorion diogelwch syml i gadw'n ddiogel y Gwanwyn hwn.
Mwy o wybodaeth
Diogelwch defnyddio pwlltân (Firepit)
Cyngor Diogelwch defnyddio Chiminea

Diogelwch dŵr
Gyda’r addewid o dywydd cynhesach a’n tymor gwyliau arferol, deallwn fod llawer ohonom yn cael ein temtio i fentro i nofio mewn dyfroedd agored neu i roi cynnig ar chwaraeon dŵr am y tro cyntaf. Dilynwch ein hawgrymiadau diogelwch syml i gadw'n ddiogel y Gwanwyn hwn.
Mwy o wybodaeth

Diogelwch Beiciau Modur
Mae'r gwanwyn wedi cyrraedd gyda'r haul yn tywynnu a thywydd sych, a dyma'r adeg berffaith i dynnu eich dillad lledr o'r cwpwrdd a mynd ar gefn eich beic modur am y tro cyntaf eleni. Fodd bynnag, gyda 22% o'r marwolaethau ar y ffyrdd yng Nghymru yn ymwneud â beicwyr modur, mae angen i ni leihau'r ffigurau hyn er mwyn atal digwyddiadau marwol ac anafiadau difrifol i feicwyr modur a'u teithwyr.
Mwy o wybodaeth

Diogelwch Cefn Gwlad
Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, mae gennym rai o'r golygfeydd syfrdanol mwyaf amrywiol yn y wlad. Hoffem gael eich help i'w gadw felly. Mae tywydd cynhesach a'r niferoedd cynyddol o bobl sy'n ymweld â chefn gwlad yn creu mwy o risg o dân. Wrth fynd o gwmpas dilynwch ein canllawiau syml i gadw'ch hun a'n cefn gwlad yn ddiogel.
Mwy o wybodaeth
Cyngor diogelwch pan yng nghefn gwlad
Cerdded ar yr arfordir
Tanau Gwyllt / Tanau agored
