Os ydych rhwng 13 ac 16 mlwydd oed, byddwch yn ymuno â'n rhaglen Cadetiaid Tân arferol! Yn ystod eich amser ar y rhaglen, byddwch yn gwneud ffrindiau newydd, yn cael llawer o hwyl, yn dysgu am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddiffoddwr tân, yn cael effaith gadarnhaol ar eich cymuned.

Beth y byddwch yn ei ddysgu a beth yr ydym yn ei wneud ar y rhaglen Cadetiaid Tân?

Diogelwch Rhag Tân – dysgu sut y mae cadw eich hun a phobl eraill yn ddiogel trwy ddeall peryglon, risgiau a mesurau rheoli. Byddwch yn dysgu am ddiogelwch rhag tân yn y cartref ac yn llunio eich cynllun tân eich hun, yn ogystal â dysgu am y modd yr ydym yn cydweithio â gwasanaethau brys eraill.

Sgiliau Diffodd Tân – dysgwch sgiliau newydd gan ddefnyddio offer ymladd tân, driliau sgwad, defnyddio ysgolion a phibelli.

Gwobr Cadetiaid Tân - bydd yn darparu lefel safonol o brofiad a set gyffredin o weithgareddau ar gyfer pob Cadét Tân ac yn darparu rhaglen weithgareddau hygyrch a strwythuredig. Bydd cadetiaid yn coladu tystiolaeth a deunydd ategol ar gyfer y llyfr gwaith dyfarnu cadetiaid tân. Ar ôl cwblhau'r rhaglen 2 flynedd, cyflwynir tystysgrif cyflawniad cyfranogiad i'r cadetiaid.

Gweithredoedd Cymdeithasol – Cymryd rhan a mynychu digwyddiadau yn y gymuned, sut i fod yn ddinesydd cadarnhaol ac yn aelod gweithgar o'ch cymuned. Bydd hyn yn elfen allweddol o fod yn Gadét Tân a rhaid i'r cadét gymryd rhan mewn o leiaf tri gweithgaredd cymdeithasol bob blwyddyn.

Rhennir y rhaglen rhwng maes hyfforddi'r orsaf dân a'r ystafell ddosbarth. Mae llawer o'r gwaith yn ymarferol lle mae cadetiaid yn cael sgiliau diffodd tân gan ddefnyddio pibellau, ysgolion, diogelwch cymunedol, offer cysylltiedig, a gweithgareddau i ddatblygu sgiliau meddal, fel gwaith tîm, datrys problemau a chyfathrebu. Mae yna hefyd yr elfen sy'n canolbwyntio ar risgiau llosgi bwriadol a rôl y gwasanaeth tân yn y gymuned trwy weithredoedd cymdeithasol.

Yn bennaf oll, mae gwirfoddoli gyda'r Cadetiaid Tân yn rhywbeth sy'n rhoi llawer o foddhad, ac mae hefyd yn llawer o hwyl. Ond mae yna lawer o resymau eraill hefyd, gan gynnwys:

Rhoi'r dechrau gorau posibl i bobl ifanc – mae'r Cadetiaid Tân yn gwneud gwahaniaeth anhygoel i fywydau pobl ifanc.

Gwneud ffrindiau newydd ac atgofion gwych – manteisiwch ar brofiadau unigryw.

Bod ar y blaen os ydych yn chwilio am swydd – os ydych yn chwilio am waith, mae nodi bod gennych brofiad o wirfoddoli yn ffordd wych o brofi eich sgiliau, a gallwn roi geirda i chi hefyd. Byddwch yn cael profiadau gwerthfawr ac yn cael hyfforddiant yn rhad ac am ddim.

Yn gyfnewid am hyn, gallwch feithrin ystod o sgiliau trosglwyddadwy, yn ogystal â chael y cyfle i gwblhau amrywiaeth o gyrsiau.

Pa sgiliau a phrofiad y mae arnoch eu hangen?

Nid oes angen i'n gwirfoddolwyr ar y rhaglen Cadetiaid Tân feddu ar brofiad o weithio gyda phobl ifanc, dim ond diddordeb mawr mewn helpu i newid bywyd unigolyn ifanc er gwell. Mae yna hefyd rai gofynion ymarferol, gan gynnwys y canlynol:

  • Bod yn 18 mlwydd oed neu'n hŷn.
  • Bod yn fodlon ymrwymo i sesiynau rheolaidd gyda'r nos yn ystod yr wythnos ac ambell benwythnos yn ystod y tymor.
  • Meddu ar awydd i weithio gyda phobl ifanc.
  • Mae'n ofynnol i'r holl wirfoddolwyr, wrth gwrs, gwblhau hyfforddiant gorfodol, gan gynnwys cwrs cynefino gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, hyfforddiant ar ddiogelu plant, ac ymgymryd â gwiriad DBS manwl.

Mae'r Rhaglen Cadetiaid Tân yn rhedeg yn:
  • Aber-craf
  • Blaendulais
  • Dyffryn Aman
  • Treforys
  • Y Drenewydd