Rôl Hyfforddwr Cadetiaid Tân

Mae Hyfforddwyr Cadetiaid Tân yn darparu Rhaglen Dyfarniad Un Cymru Gyfan i bobl ifanc ledled ardal y Gwasanaeth. Nid oes arnoch angen profiad o fod yn ddiffoddwr tân, dim ond parodrwydd i wneud gwahaniaeth i'r bobl ifanc yn y gymuned. Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i ymgymryd â’r rôl hon.

 

Beth y byddaf yn ei wneud yn rôl Hyfforddwr Cadetiaid Tân?
  • Cynorthwyo i ddarparu Rhaglen Dyfarniad Un Cymru Gyfan i bobl ifanc, sy'n cynnwys elfennau ymarferol ac elfennau yn yr ystafell ddosbarth.
  • Cefnogi Arweinydd y Cadetiaid a'r dirprwy Hyfforddwyr i ddarparu'r rhaglen cadetiaid tân.
  • Gweithgareddau'r iard ymarfer – Driliau Tîm, pibellau, a driliau gydag ysgolion
  • Hyrwyddo Iechyd a Llesiant
  • Gweithgarwch Cymdeithasol
Pa sgiliau, profiad a phriodoleddau y mae arnaf eu hangen?
  • Yn ogystal â’ch bod yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol gwych, mae’n ofyniad gennym eich bod yn meddu ar y priodoleddau canlynol:
  • Yn hyblyg ac yn barod i gynorthwyo'r rhaglen Cadetiaid
  • Parodrwydd i weithio’n rhan o dîm a dilyn cyfarwyddiadau
  • Personoliaeth hyderus, gymdeithasgar
  • Y gallu i arwain a chymell pobl ifanc, ac empatheiddio â nhw
  • Ymrwymiad a dibynadwyedd
  • Os oes gennych sgiliau a phrofiadau penodol a fyddai’n ddefnyddiol, yn eich barn chi, er enghraifft Diffoddwr Tân neu waith ieuenctid, addysg, ac ati, yna rhowch wybod i ni.
Pa sgiliau y gallaf eu dysgu a’u meithrin?
  • Cipolwg ar y Gwasanaeth Tân
  • Sgiliau cyfathrebu
  • Gwaith tîm
  • Arweinyddiaeth
Cymorth a Hyfforddiant
  • Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Bydd gwiriad manwl gan y DBS, ynghyd â gwiriad o'r rhestri gwahardd rhag gweithio gyda phlant, yn ofynnol ar gyfer y rôl hon.
  • Ymsefydlu
  • Hyfforddiant Diogelu, ynghyd â chod ymddygiad
  • Cwrs hyfforddi Goruchwylio Iard Ymarfer – Codi a Chario ac Iechyd a Diogelwch wrth weithio gyda phobl ifanc ar yr iard ymarfer.
  • Hyfforddiant Dyfarniadau ac Adnoddau
Ymrwymiad o ran Amser
  • O leiaf un diwrnod yr wythnos am 2 - 3 awr, yn ogystal ag ambell benwythnos.
Gwisg
  • Darperir gwisg, cyfarpar diogelu personol, a dillad gwaith.