Mae Hyfforddwyr y Cadetiaid Tân yn gyfrifol am sicrhau ymddygiad priodol ymysg y Cadetiaid Tân. Mae’r Hyfforddwyr, Gwirfoddolwyr a Chadetiaid yn cynrychioli Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA) a rhaid cofio am eu cyfrifoldeb i’r gymuned, gan sicrhau ymddygiad cwrtais a phroffesiynol bob amser. Mae’r rheolau sydd yn rhaid i’r Hyfforddwyr a’r Cadetiaid eu dilyn wedi eu rhestru isod a byddwch yn ymrwymo iddynt wrth lofnodi’r contract.
- Mae’n ofynnol i Gadetiaid Tân a hyfforddwyr ymddwyn yn gwrtais ac yn ddisgybledig gan beidio â gwneud dim i ddifrïo enw da GTAGC.
- Rhieni/gwarchodwyr sy’n gyfrifol am ddiogelwch y Cadét wrth deithio i leoliad y Cadetiaid ac oddi yno.
- Ni ddylai Cadetiaid fynd i mewn i Orsaf Dân heb oruchwyliaeth ac ni ddylent gyrraedd mwy na 30 munud cyn i’r sesiwn gychwyn.
- Rhaid i hyfforddwyr fod yn y lleoliad cyn i’r Cadetiaid gyrraedd
- Mae’r holl lifrai/offer diogelwch personol a ddyrenir yn eiddo i GTA ac mae’n rhaid eu cynnal a’u cadw mewn cyflwr da a’u dychwelyd ar gais y GTA.
- Mae’n rhaid i’r holl Gadetiaid Tân a Hyfforddwyr wisgo gwisg lawn wrth fynychu sesiynau Cadetiaid Tân a digwyddiadau swyddogol a ni chaniateir i chi ei wisgo ar unrhyw achlysur arall ar wahân i weithgareddau’r Cadetiaid Tân.
- Ni ddylid gweithredu unrhyw offer sy’n eiddo i’r Gwasanaeth Tân heb oruchwyliaeth
- Dylid trin holl eiddo personol gyda pharch
- Mae’n rhaid rhoi gwybod i’r Hyfforddwr ar unwaith os caiff lifrai/lifrau eu difrodi/colli.
- Mae’n rhaid i aelodau’r Cadetiaid Tân a Hyfforddwyr gadw’r safle’n dwt a glân bob amser.
- Ni chaniateir ysmygu yn ystod sesiynau’r Cadetiaid Tân nac yn ystod gweithgareddau.
- Gofynnir i’r Cadetiaid Tân a’r Hyfforddwyr fod yn lân a thwt yn eu lifrai. Rhaid clymu gwallt hir yn ôl oddi wrth yr wyneb yn ystod ymarferion.
- Ni chaniateir gwisgo gemwaith gweladwy yn ystod ymarferion ar yr iard.
- Rhaid hysbysu’r hyfforddwyr ar unwaith os bydd unrhyw ddamweiniau, anafiadau neu ddamweiniau a fu bron a digwydd yn ystod gweithgareddau’r Cadetiaid Tân a dylid eu cofnodi yn unol â gweithdrefnau GTA.
- Rhaid i Gadetiaid Tân gydymffurfio â’r holl gyfarwyddiadau a roddir gan hyfforddwyr
- Rhaid bod Cadetiaid yn trin eraill gyda thegwch, cydraddoldeb a pharch. Ni ddioddefir iaith aflan na sarhaus.
- Ni chaniateir gwm cnoi yn ystod sesiynau neu weithgareddau Cadetiaid Tân.
- Rhaid diffodd ffonau symudol a’u cadw mewn man diogel yn ystod sesiynau/ gweithgareddau Cadetiaid Tân. Ni fydd y GTA yn Gadetiaid gymryd unrhyw gyfrifoldeb am eiddo personol.
- Bydd Cadetiaid Tân nad ydynt yn dilyn y cod ymddygiad hwn yn amodol i Broses Ddisgyblu’r Cadetiaid Tân