Beth yw Hyfforddwyr Cadetiaid Tân?
Mae Hyfforddwyr Cadetiaid Tân yn darparu Rhaglen Dyfarniad Un Cymru Gyfan i bobl ifanc ledled ardal y Gwasanaeth. Nid oes arnoch angen profiad o fod yn ddiffoddwr tân, dim ond parodrwydd i wneud gwahaniaeth i'r bobl ifanc yn y gymuned. Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i ymgymryd â’r rôl hon.

Y Broses Recriwtio
Rydym yn dibynnu ar ein hyfforddwyr i helpu i gyflwyno Rhaglen Cadetiaid Tân effeithiol i'n recriwtiaid a gwneud ein rhanbarth yn fwy diogel rhag tân. Er mwyn cael eich ystyried, bydd angen i chi ddangos eich bod yn rhannu ein gwerthoedd craidd a bod yn barod i ymrwymo i lefel yr hyfforddiant sydd ei angen i fodloni gofynion y rôl.

Ffurflen Archebu Gwisg
I sicrhau'r meintiau cywir llenwch y ffurflen. Unwaith y byddwch wedi llenwi'r ffurflen archebu, byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich archeb.
