Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Pencadlys Gwasanaeth
Heol Llwyn Pisgwydd,
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA31 1SP
Ewch i'n Ffurflen Cyswllt
Ffôniwch ar 0370 6060699
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan ac felly rydym wedi ymgorffori technoleg gynorthwyol (ReachDesk) i wella ei hygyrchedd.
Mae hyn yn golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
Er mwyn gallu ei ddeall, rydym hefyd wedi gofalu bod testun y wefan mor syml â phosibl.
Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan yn gwbl hygyrch:
Os oes arnoch angen gwybodaeth o'r wefan hon mewn fformat gwahanol, er enghraifft PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu Braille, anfonwch neges e-bost atom: mail@mawwfire.gov.uk.
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 10 diwrnod gwaith.
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, anfonwch neges e-bost atom: mail@mawwfire.gov.uk
Mae'n bosibl y byddwch yn dod o hyd i ambell PDF nad yw wedi'i gywiro eto. Os felly, rhowch wybod i ni fel y gallwn gymryd camau.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn fodlon ar y modd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun ar gyfer pobl F/fyddar, pobl trwm eu clyw, neu bobl â nam ar y lleferydd.
Mae gan ein swyddfeydd ddolenni anwytho clywedol, neu os hoffech gysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r wefan yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, a hynny oherwydd y diffyg cydymffurfedd a restrir isod.
O ganlyniad i'r materion hygyrchedd a nodir, a chan fod y cymorth ar gyfer y System Rheoli Cynnwys a ddefnyddiwn i gynnal y wefan hon, ar fin dod i ben, mae'r Gwasanaeth wedi comisiynu gwaith i gynhyrchu gwefan newydd, a fydd yn cychwyn ddechrau 2023. Rhagwelir y bydd y wefan newydd wedi cael ei datblygu ac yn fyw erbyn 31 Rhagfyr 2023; fodd bynnag, hyd nes y bydd y Gwasanaeth yn penodi contractwyr allanol, ni allwn warantu hyn.
Yn y cyfamser, rydym wrthi'n adolygu'r wefan hon yn ei chyfanrwydd er mwyn cywiro cynifer o'r problemau hygyrchedd â phosibl tra bo gwefan newydd yn cael ei datblygu.
Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF sy'n cynnwys gwybodaeth am y modd y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, ynghyd â ffurflenni a gyhoeddir ar ffurf dogfennau Word. Erbyn mis Medi 2020, rydym yn bwriadu naill ai cywiro'r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni'r safonau hygyrchedd.
O ganlyniad i'r materion hygyrchedd a nodir, a chan fod y cymorth ar gyfer y System Rheoli Cynnwys a ddefnyddiwn i gynnal y wefan hon, ar fin dod i ben, mae'r Gwasanaeth wedi comisiynu gwaith i gynhyrchu gwefan newydd, a fydd yn cychwyn ddechrau 2023. Rhagwelir y bydd y wefan newydd wedi cael ei datblygu ac yn fyw erbyn 31 Rhagfyr 2023; fodd bynnag, hyd nes y bydd y Gwasanaeth yn penodi contractwyr allanol, ni allwn warantu hyn.
Er mwyn parhau i wella ein cydymffurfedd â'r rheoliadau hygyrchedd ar y wefan hon yn y cyfamser, rydym 'nawr yn defnyddio nifer o offer ar-lein i fonitro ein perfformiad, gan gynnwys:
Gwirydd Hygyrchedd
Google Lighthouse
Rydym wrthi'n ystyried cyhoeddi dogfennau yn y dyfodol mewn fformat HTML yn hytrach na PDF, lle bo hynny'n bosibl.
Bwriadwn gywiro cynifer â phosibl o'r materion hygyrchedd a nodwyd tra bo'r gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu gwefan newydd ein Gwasanaeth.
Paratowyd y datganiad hwn ar 7 Rhagfyr 2022, a chafodd ei adolygu ddiwethaf ar 7 Rhagfyr 2022.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf gan y Tîm Monitro Hygyrchedd yng Ngwasanaeth Digidol y Llywodraeth rhwng 16 Medi 2022 a 2 Tachwedd 2022.
Pencadlys Gwasanaeth
Heol Llwyn Pisgwydd,
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA31 1SP
Ewch i'n Ffurflen Cyswllt
Ffôniwch ar 0370 6060699