Cwestiynau Cyffredin

Isod mae rhai cwestiynau ac atebion yr ydym yn aml yn delio â nhw. Os oes gennych gwestiwn nad yw'n cael sylw yma, cysylltwch â ni.


Wyt.

Mae ffurflen Asesiad Optometrig wedi’i chynnwys gyda’ch ffurflen gais, y mae’n rhaid i Optegydd ei llenwi.

Rhaid i recriwtiaid gyflawni’r safonau gweld canlynol:

  • Cywiradwy i 6/9 ym mhob llygad.
  • N12 30 cm i ffwrdd gyda’r ddau lygad ar agor – heb gymorth.
  • Maes gweld normal yn y ddau lygad (fel y’i pennir gan dechnegau cyfwynebu).
  • Dim hanes o nyctalopia (dallineb nos) na chlefyd ocwlar sy’n debygol o waethygu ac achosi i safonau’r golwg fethu wedyn.
  • Lefel briodol o olwg lliw (fel arfer dim mwy na dau wall adnabod yn y set Ishihara). Caniateir i’r ymgeiswyr sy’n methu’r safonau hyn sefyll profion golwg lliw mwy penodol, wedi’u trefnu gan y Meddyg Galwedigaethol sy’n cynghori’r Gwasanaeth.

Na.

Does dim terfynau uchaf nac isaf o ran taldra.

Dim.

Does dim angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch i wneud cais am swydd Diffoddwr Tân Ar Alwad. Mae gan y Gwasanaeth ei brofion ‘mewnol’ ei hun. (Gweler Cam 2 o’r Broses Ddethol).

Mae asesiad corfforol yn rhan o’r profion dethol (Gweler Cam 3 o’r Broses Ddethol)

Ar hyn o bryd, mae’r Gwasanaeth yn chwilio’n bennaf am unigolion a all gynnig rhyw lefel o argaeledd Ar Alwad yn ystod y dydd. Fodd bynnag, gall hyn amrywio o un orsaf i’r llall. Gellir trafod yr oriau rydych chi ar gael i gyflenwi yn fanwl yn ystod eich cyfarfod cychwynnol gyda’ch Swyddog Cyswllt Gorsafoedd.

 

Siart Llif y Broses Recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad

Cwblhewch y ffurflen mynegiant diddordeb ar-lein.
neu
Cysylltwch â’r Adran Adnoddau Dynol a mynegwch ddiddordeb yn y swydd uchod. 
Next process
Byddant yn nodi eich manylion a bydd Ffurflen Gais a Ffurflen Asesiad Optometrig (golwg) yn cael eu hanfon atoch chi.
Next process
Bydd y Swyddog Cyswllt Gorsafoedd yn cysylltu â chi i drefnu cyfarfod, i drafod y broses recriwtio ac i lenwi Ffurflen Oriau o Argaeledd.
Next process
Cyfarfod wedi’i gwblhau – Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a’ch Ffurflen Asesiad Optometrig.
Next process
Ffurflen Gais wedi’i derbyn yn yr Adran Adnoddau Dynol

Next process

Os bydd y Cais a ffurflen yr Asesiad Optometrig yn cael eu hystyried yn foddhaol, byddwch yn cael gwahoddiad i ddod i Ddiwrnod Profi. Bydd canllawiau llawn yn cael eu darparu ar eich cyfer.

Next process

 

Ydi eich oriau o argaeledd wedi cael eu hystyried yn addas ar gyfer eich gorsaf dân leol?
Arrow
NAC YDYN - Bydd eich Ffurflen Gais yn cael ei chadw ar ffeil nes i swydd wag addas amlygu, yna bydd y Gwasaneth yn cysylltu â chi.
 Arrow
YDYN - Byddwch yn cael eich gwahodd i fynychu’r canlynol wedi i chi gwblhau pob cam yn llwyddiannus:
  • Gwiriad o Gefndir Troseddol
  • Archwiliad Meddygol / Cyfweliad Strwythuredig
  • Gwirio 2 Eirda
  • Diwrnod Cynefino a Chwrs Recriwtio Cychwynnol

Byddwch yn derbyn atborth ac yn cael eich gwahodd ar gyfer ail-asesiad yn y maes (meysydd) lle gwnaethoch chi fethu cyrraedd y safon sy’n ofynnol.