Barod am y sialens?
Mae gweithio i’r gwasanaeth tân ac achub yn rôl sy’n cael ei pharchu yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl gyda chyfuniad o sgiliau a phrofiad, i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol ac i wneud ein hardal yn fwy diogel rhag tân.
Er mwyn cael eich ystyried, bydd angen i chi:
- dangos eich bod yn rhannu ein gwerthoedd craidd
- bod yn barod i ymrwymo i lefel yr hyfforddiant a'r ffitrwydd sy'n ofynnol i fodloni gofynion heriol y rôl.
Swyddi gwag cyfredol
Recriwtio bellach ynghau
Y broses ddethol
Mae'r broses ddethol yn sicrhau ein bod yn recriwtio'r bobl iawn sydd â'r sgiliau a'r agweddau cywir. Mae hefyd yn asesu eich ffitrwydd, eich galluoedd corfforol a meddyliol, eich rhinweddau personol a'ch gwytnwch.
Mae'r broses yn cynnwys:
- Profion ffitrwydd
- Profion corfforol sy'n gysylltiedig â rôl
- Cyfweliad
- Meddygol
Os byddwch chi'n pasio cam olaf y broses ddethol, byddwch chi'n cael cynnig lle ar ein rhaglen hyfforddi diffoddwyr tân amser llawn.
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o ddiffodd tân arnoch chi ddim ond angerdd i helpu'ch cymuned.
Recruitment
Recriwtio bellach ynghau
