Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Mae Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gyflogwr hyderus ag anableddau.
Mae Gwasanaethau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn falch i wahodd ceisiadau am Ymladdwyr Tân Llawn Amser i ymuno â ni yn yr yrfa heriol a hynod wobrwyol hon.
Mae cymunedau Cymru'n gwerthfawrogi'r gwasanaethau a gynigwyd gennym ac mae angen iddynt deimlo'n hyderus yn y timau hynod fedrus sydd gennym sy’n lleihau risg yn ogystal â delio â sefyllfaoedd brys. Rydym yn esblygu a gwella'r modd yr ydym yn gweithredu'n barhaus wrth gynnal y safonau uchaf. Mae penodi’r bobl gywir yn hanfodol i'n helpu i gyflawni ein huchelgais i'r dyfodol.
Os ydych yn teimlo eich bod yn meddu ar yr hyn sydd ei angen, fe'ch gwahoddwn i ymuno â'n proses recriwtio 2021.
Prif Swyddog Tân
Chris Davies
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Cynhwysir yr holl wybodaeth sydd angen i ymgeisio i ddod yn Ymladdwr Tân o fewn y Pecyn Gwybodaeth hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau mewn perthynas â Chais am Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, cysylltwch â'r ni drwy law e-bost.
Rôl
Ymladdwr Tân
Lleoliad
Yn ôl cyfarwyddyd Y Prif Swyddog Tân
Prif Ddiben
Diogelu ac achub pobl ac eiddo rhag tân a pheryglon eraill yn y ffordd fwyaf cymwys ac effeithiol i’r safon uchaf bosib o ran gofal ac ansawdd.
Argyfyngau
Ymdrin â Phobl
Diogelwch Tân
Iechyd a Diogelwch
Ffitrwydd a Glanweithdra Personol
Offer
Daearyddiaeth Leol
Gweinyddiaeth
Hyfforddi
Awdurdod Tân
Ffactor |
Tystiolaeth |
Hanfodol / Dymunol |
Tystiolaeth |
Gallu Cyffredinol |
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol, fodd bynnag, profir Rhifedd, Llythrennedd a Sgiliau Datrys Problemau (gosodwyd y profion ar lefel Sgiliau Hanfodol Lefel 2) |
Hanfodol |
PG |
Gwybodaeth / Profiad |
Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg
Ymwybyddiaeth o rôl Ymladdwr Tân |
Dymunol
Hanfodol |
SFfT
CD |
|
|||
Arddull Bersonol |
Dealltwriaeth a pharch o wahaniaethau pobl a'r ymrwymiad i fabwysiadu agwedd deg a moesol tuag at eraill
Y gallu i gynnal agwedd hyderus a chydnerth mewn sefyllfaoedd hynod heriol
Bod yn agored i newid ac â'r ewyllys i geisio'i gefnogi'n weithredol |
Hanfodol
Hanfodol
Hanfodol |
SFfT a CD
SFfT a CD
SFfT a CD
|
Rhyngbersonol |
Y gallu i weithio'n effeithiol ag eraill o fewn y Gwasanaeth Tân ac Achub a’r gymuned ill dau
Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig ill dau i ystod eang o wahanol gynulleidfaoedd
Meddu ar yr ymroddiad a’r gallu i ddatblygu eich hun ac eraill |
Hanfodol
Hanfodol
Hanfodol |
SFfT a CD
SFfT a CD
SFfT a CD |
Tasg |
Y gallu i ddeall, dwyn i gof, gweithredu ac addasu gwybodaeth berthnasol mewn modd trefnus, diogel a chyfundrefnol
Y gallu i gynnal ymwybyddiaeth weithredol o’r amgylchedd i hyrwyddo dulliau gwaith diogel ac effeithiol
Y gallu i fabwysiadu agwedd gydwybodol a rhagweithiol at waith i gyflawni a chynnal safonau rhagorol
Y gallu i gynnal lefel uchel o weithgaredd a gyfeiriwyd yn briodol gan ddangos yr ymroddiad a'r gallu i weithio'n galed mewn amgylchedd heriol
Y gallu i ddilyn cyfarwyddiadau a chymryd cyfarwyddyd
Cynhwysedd/Ffitrwydd erobig priodol
Golwg a gwelediad lliw boddhaol
Clyw Boddhaol
Y gallu i weithio o uchder ac mewn gwagleoedd cyfyng |
Hanfodol
Hanfodol
Hanfodol
Hanfodol
Hanfodol
Hanfodol
Hanfodol
Hanfodol
Hanfodol |
SFfT, PG a CD
PG a ACY
SFfT A CD
SFfT, ACY
SFfT
ACY
PM
PM
ACY
|
Codau Tystiolaeth SFfT – Sifft PG - Profion Gallu ACY – Asesiadau Corfforol ac Ymarferol CD - Cam Ddethol PM - Prawf Meddygol |
Aberdaugleddau
Aberystwyth
Caerfyrddin
Canol Abertawe
Castell Nedd
Doc Penfro
Gorllewin Abertawe
Hwlffordd
Llanelli
Pontardawe
Port Talbot
Rhydaman
Treforus
Ysgrifennwyd y ddogfen hon i'ch darparu â manylion o bob cam o'r Broses Recriwtio sydd ynghlwm â rôl Ymladdwr Tân Llawn Amser. Gyda'r ymgyrch hon. Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o sut y'ch asesir a'r hyn y gallwch ddisgwyl ym mhob cam. Darperir yr holl fanylion sydd angen arnoch i ymgeisio yn ddogfen hon.
Peidiwch â chysylltu â'r Wasanaeth neu'r llall am fwy o fanylion. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau cyn ymuno â'r ymgyrch, fe'ch gwahoddir i e-bostio'r tîm recriwtio.
Rydym wedi ymroi'n llwyr i gwrdd â'n dyletswyddau mewn perthynas â materion cydraddoldeb fel y nodwyd o fewn y ddeddfwriaeth gyfredol. Ni all y Gwasanaeth Tân ac Achub wneud unrhyw ddiwygiadau i anghenion Y Fanyleb Person fel yr adnabuwyd uchod neu i Safonau Ffitrwydd a osodwyd yn genedlaethol. Gosodwyd yr anghenion a'r safonau hyn i sicrhau bod unigolion yn ddiogel wrth eu gwaith er lles eu diogelwch hwy ac eraill.
Os oes gennych anabledd ac os ydych yn teimlo y gallwch gwrdd â gofynion hanfodol Ymladdwr Tân Gweithredol, fel y manylwyd o fewn y Swydd-Ddisgrifiad a'r Fanyleb Person, ond bod y broses asesu yn eich rhwystro rhag arddangos eich gallu'n llawn, ystyrir diwygiadau rhesymol i'r broses. I sicrhau fod y cymorth hwnnw ar gael yn barod, mae'n ofynnol i chi ddod â'ch anghenion penodol i sylw'r ganolfan brofi briodol ymlaen llaw.
Cyfraddau Cyflog i Ymladdwyr Tân Gweithredol y System Dyletswydd Gyflawn o'r 1af o Orffennaf 2021.
Rôl |
£ Blynyddol |
Ymladdwr Tân Dan Hyfforddiant Datblygu Cymwys |
£24,191 £25,198 £32,244 |
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gweithredu systemau rota - bob un yn cynnwys yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, penwythnosau a gwyliau.
Cynlluniwyd y rhestr hir o gwestiynau isod i’ch helpu i benderfynu a yw bod yn Ymladdwr Tân yn iawn i chi. Ticiwch YDW / OES / GALLAF neu NAC YDW / NAC OES / NA ALLAF i bob un o’r cwestiynau canlynol
|
Ydw / Oes / Gallaf |
Nac Ydw / Nac Oes / Na Allaf |
A oes gennych ddiddordeb gwirioneddol mewn pobl? |
|
|
Ydych chi'n gallu cydweithio â phobl o wahanol gefndiroedd a diwylliannau? |
|
|
Ydych chi eisiau gweithio fel rhan o dîm agos? |
|
|
Ydych chi'n gallu gweithio o dan bwysau? |
|
|
Ydych chi’n gallu meddwl yn gyflym a datrys problemau gan wybod bydd llawer yn dibynnu ar eich awgrym? |
|
|
A oes gennych y sensitifrwydd i ddelio ag aelodau’r cyhoedd pan fyddant yn ofidus, yn ddryslyd neu’n rhwystrol? |
|
|
A allwch dderbyn y cyfrifoldeb o gynrychioli’r Gwasanaeth pan fyddwch yn y gwaith a phan na fyddwch yn y gwaith? |
|
|
Ydych chi wedi ymrwymo i gynnal a datblygu eich sgiliau'n barhaus? |
|
|
Ydych chi'n barod i astudio i ddatblygu ac ymestyn eich sgiliau? |
|
|
Ydych chi'n barod am ofynion gweithio mewn gwasanaeth iwnifform disgybledig lle bydd rhaid i chi gymryd gorchmynion gan bobl eraill? |
|
|
Ydych chi'n gallu derbyn yr angen i gadw at reolau sy'n nodi beth cewch wisgo a beth na chewch wisgo? |
|
|
Ydych chi’n ymroi i gynnal eich ffitrwydd corfforol a'ch iechyd? |
|
|
A yw ymarfer corff rheolaidd yn rhan o’ch bywyd dyddiol? |
|
|
Ydych chi’n berson ymarferol sy’n hoffi gweithio gyda’ch dwylo/offer? |
|
|
Ydych chi’n mwynhau gwneud pethau neu ganfod sut mae pethau’n gweithio? |
|
|
Ydych chi'n rhywun y gellir dibynnu arno/arni i fod rhywle'n brydlon? |
|
|
Ydych chi'n rhywun a welir yn ddibynnol gan eraill? |
|
|
Ydych chi’n fodlon gweithio y tu allan mewn pob math o dywydd, pan fydd hi'n wlyb ac oer? |
|
|
Os wnaethoch chi ateb Ydw/Oes/Gallaf i BOB UN o'r uchod ac yn credu eich bod yn meddu ar yr hyn sy'n ofynnol i wasanaethu a gwarchod y gymuned lle'r ydych yn byw ac yn gweithio, darllenwch y wybodaeth a ddarparwyd ac ymunwch â'n hymgyrch recriwtio.
Cynlluniwyd y nodiadau canlynol i roi syniad i chi o’r Broses Recriwtio, yr hyn i’w ddisgwyl a’r hyn byddwn yn ei ddisgwyl gennych chi. Mae 5 cam: Sifft, Profion Gallu, Asesiad Corfforol ac Ymarferol, Cam Dethol a Phrawf Meddygol.
Mae cychwyn y broses recriwtio yn cynnwys cwblhau Asesiad Ar-lein (y Sifft). Rhennir yr asesiad hwn yn dair elfen.
Mae'r elfen gyntaf yn gofyn i chi roi ychydig o fanylion personol a chofrestru â ni. Yna, fe'ch cyflwynir â manylion rôl Ymladdwr Tân a gofynnir i chi ystyried sut mae'r rôl yn cwrdd â'ch disgwyliadau yn nhermau amgylchedd gwaith a'ch gyrfa i'r dyfodol. Hefyd, gofynnir rhai cwestiynau sylfaenol i chi i sicrhau eich bod yn gymwys i ymgeisio. Fel rhan o'ch asesiad cymhwystra, byddwn yn adnabod:
Gellir gweld y fframiau amser ar gyfer elfen gynta'r Sifft isod:-
|
Beth mae’n ei gynnwys? |
Pa mor hir fydd e'n cymryd? |
Erbyn pryd fydd angen i mi ei gyflawni? |
Elfen 1 Cofrestru Ar-lein |
Cofrestru Rhagolwg Swydd Realistig Gwiriad Cymhwystra |
Dylech ganiatáu tua 30 munud i gwblhau pob un o'r tri rhan |
Rhwng 09:00 ar y 09 o Fedi a 23:59 ar y 12 o Fedi 2021 |
Mae'n bwysig nodi y cewch gwblhau hwn neu unrhyw un o'r elfennau ar-lein ar unrhyw adeg yn ystod y fframiau amser a amlygwyd (h.y. ddydd neu nos). Bydd angen i chi gael eich Rhif Yswiriant Gwladol ar gael i allu cofrestru yn ogystal â'ch cyfeiriad e-bost. Mae'n bwysig eich bod yn gwirio eich bod yn gwybod eich cyfeiriad e-bost cywir. Bydd y system yn cyfathrebu â chi wrth ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych yn ystod y broses gofrestru. Os byddwch yn darparu cyfeiriad e-bost anghywir, ni fydd y system yn gallu eich darparu â diweddariadau. Os nad ydych yn cwblhau'r Cofrestru Ar-lein, ni fyddwch yn gallu cyrchu'r elfennau dilynol na pharhau o fewn yr ymgyrch. Dim ond un waith y cewch gofrestru â ni i bob ymgyrch recriwtio.
Wedi i chi gwblhau ein Cofrestru Ar-lein, byddwch yn derbyn e-bost gan y system ar-lein yn eich cynghori sut a phryd y cewch gyrchu ail a thrydedd elfen y Sifft.
Ail elfen y Sifft fydd yr Holiadur Arddulliau Ymddygiadol, sy'n archwilio eich ymddygiadau dewisol o fewn amgylchedd gwaith. Nid oes angen unrhyw adolygu neu astudiaeth ychwanegol ar gyfer yr elfen hon.
Trydedd elfen y SIFFT yw Prawf Dehongli Sefyllfaoedd sy'n mesur eich crebwyll a'ch sgiliau gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd sy'n gyffredin o fewn y Gwasanaethau Tân ac Achub. Nid oes angen unrhyw wybodaeth neu brofiad i gwblhau'r prawf hwn ac nid oes angen adolygu'n flaenorol.
|
Beth mae’n ei gynnwys? |
Pa mor hir fydd e'n cymryd? |
Erbyn pryd fydd angen i mi ei gyflawni? |
Elfen 2 HAY |
Holiadur Arddulliau Ymddygiadol (HAY) |
Ni amserir yr asesiad hwn. Dylech ganiatáu tua 15-20 munud i'w gwblhau mewn lleoliad tawel |
Rhwng 12:00 ar y 26 o Fedi a 12:00 ar y 30 o Fedi 2021. |
Elfen 3 PDS |
Prawf Dehongli Sefyllfaoedd (PDS) |
Ni amserir yr asesiad hwn. Dylech ganiatáu tua 30-35 munud i'w gwblhau mewn lleoliad tawel |
Rhwng 12:00 ar y 26 o Fedi a 12:00 ar y 30 o Fedi 2021. |
Cewch gyrchu a chwblhau Elfen 2 ac Elfen 3 ym mha bynnag drefn y dewiswch.
Cofrestru Ar-lein yn agor – 09:00 ar Ddydd Iau y 9 o Fedi 2021
Cofrestru Ar-lein yn cau – 23:59 ar Ddydd Iau y 12 o Fedi 2021
Cewch gyrchu'r system Gofrestru Ar-lein o wefan recriwtio Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru - www.mawwfire.gov.uk.
Mae'r Cofrestru Ar-lein a phob elfen sy'n gysylltiedig â'r SIFFT ar gael yn Gymraeg a Saesneg ill dau. Gwahoddir yr ymgeiswyr a berfformiodd orau yn y SIFFT i barhau i'r Profion Gallu.
A fyddech cystal â nodi ni dderbynnir ffurflenni CV nac unrhyw fath arall o gais.
Os byddwch yn cwrdd â'r gofynion yng Ngham 1 o'r SIFFT, cewch eich gwahodd i fynychu'r Profion Gallu (PG). Danfonir gwybodaeth atoch i'ch cynorthwyo wrth i chi baratoi, gan gynnwys rhai cwestiynau ymarfer. Bydd y profion hyn ar gael yn Gymraeg a Saesneg ill dau.
Mae’r cam hwn yn cynnwys cwblhau cyfres o brofion a fanylwyd isod:
Rhesymu Rhifyddol
Mae'r prawf hwn yn mesur eich gallu i ddeall, dehongli, a gwerthuso gwybodaeth rifyddol yn rhesymegol. Fe'ch cyflwynir â graffiau, siartiau a manylion rhifyddol a bydd gofyn i chi wneud cyfrifon ar sail y wybodaeth a gyflwynwyd.
Rhesymu Mecanyddol
Mae rôl yr Ymladdwr Tân yn cynnwys datrys problemau ymarferol. Mae'r prawf hwn yn mesur eich gallu i gymhwyso egwyddorion mecanyddol sy'n cefnogi datrys problemau ymarferol. Fe'ch cyflwynir â chyfres o ddiagramau a gofynnir i chi ateb cwestiynau i arddangos eich dealltwriaeth o'r egwyddorion mecanyddol sy'n gymwys.
Prawf Deall Gwybodaeth
Mae'r prawf hwn yn mesur eich gallu i werthuso, rhesymu a chysyniadoli â geiriau a brawddegau. Byddwch yn derbyn cyfres o ddarnau a bydd gofyn i chi ateb cwestiynau sy'n amlygu eich dealltwriaeth o'r hyn a gyfathrebir o fewn y darnau.
Prawf Llygaid
Yng nghwrs y broses Recriwtio, o bosib ar yr un pryd, byddwch yn sefyll y Profion Gallu, a bydd angen tystiolaethu eich gallu i gwrdd â'r safonau gwelededd priodol. Cewch eich cynghori pryd a sut yr asesir hwn.
Mae’r gofynion gweledol ar gyfer Ymladdwyr Tân yn uchel iawn.
Rhaid i Ymladdwyr Tân Gweithredol feddu ar lefel addas o ganfyddiad lliw. Mae unigolion sydd â golwg lliw arferol neu olwg lliw gwyrdd ychydig yn anarferol yn addas ar gyfer cael eu penodi i’r Gwasanaeth Tân ac Achub.
Mae'r prif ofynion yn cynnwys:
Os ydych yn ansicr p'un ai ydych yn cwrdd â'r gofynion hyn ai peidio, fe'ch cynghorir i ofyn am gyngor gan optometrydd cymwys. Yn ogystal â'r profion gweledol rhagarweiniol, ymgymerir â phrofion gweledol manwl yn ystod cam feddygol y broses.
Os cafwyd triniaeth laser i'r llygaid, ni ystyrir ceisiadau am leiafswm o 12 mis wedi dyddiad y llawdriniaeth, ond cewch ymgeisio o hyd.
Mae'r safonau gweledol a gymhwyswyd yn unol â Chyfarwyddyd Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân (CPST) ac nid ydynt yn agored i drafodaeth.
Os byddwch yn pasio’r Profion Gallu, cewch eich gwahodd i’r fynychu diwrnod yr Asesiadau Corfforol ac Ymarferol. Cynlluniwyd y profion ar y diwrnod hwn i asesu lefel eich ffitrwydd corfforol yn unol â gofynion y rôl. Isod, rhoddir manylion o'r gofynion ffitrwydd corfforol a phwysau iach, ynghyd â'r profion corfforol ac ymarferol.
Ffitrwydd Corfforol
Gall Ymladd Tân fod yn weithgaredd sy'n gorfforol feichus a pheryglus, gyda'r potensial i'ch dinoethi i lwythau thermol ffisiolegol ac amgylcheddol uchel. I sicrhau perfformiad gweithredol effeithlon a diogel, mae ffitrwydd meddygol a chorfforol yn hanfodol.
Penderfynir lefel eich ffitrwydd corfforol drwy fesur eich perfformiad mewn nifer o brofion ymladd tân corfforol ac ymarferol. Yn ychwanegol, bydd angen i chi gyflawni prawf ffitrwydd ‘erobig’ i ragdybio eich cynhwysedd erobig (mewn ml O2/kg/mun). Bydd hyn yn caniatáu i ni asesu eich gallu i gyflawni ymarferion corff am gyfnodau hirach sy'n bwysig ar gyfer ymladd tân diogel. Y gofyniad ffitrwydd lleiafsymiol i ymgeiswyr yn y cam recriwtio yw 42.3 ml O2 /kg/mun (sydd gyfwerth â lefel 8 nôl a blaen 8 ar Brawf Blîp). Os byddwch yn symud ymlaen i'r Prawf Meddygol, mae'n bosib bydd angen i chi arddangos y lefel hon o ffitrwydd eto ar brawf melin droed i sicrhau eich bod wedi cynnal y lefel briodol o ffitrwydd.
Pwysau Iach
Mae pwysau iach yn bwysig achos gall bod dan bwysau, dros eich pwysau ac yn ordew gael effaith andwyol ar berfformiad a diogelwch ymladd tân ac ar iechyd yn gyffredinol. Ym mwyafrif yr achosion, mae mesuriadau uchder a phwysau a chyfrif Mynegai Mas y Corff (BMI)[1] yn ffordd addas o gadarnhau categori pwysau unigolion. Mae'r tabl dilynol yn adnabod yr ystodau BMI perthnasol a'r categorïau pwysau cysylltiol.
Dosbarth |
BMI (kg/m2) |
O Dan Bwysau |
<18.5 |
Pwysau Iach |
18.5 – 25 |
Dros Bwysau |
25–30 |
Gordew |
>30.0 |
Y BMI cymeradwy i ymgeiswyr yw o fewn ystod pwysau iach, h.y. 18.5 - 25. Gellir ail ddosbarthu mwyafrif bychan o unigolion sydd â’u BMI o fewn ystod dros bwysau fel pwysau iach os dynoda asesiad o gyfansoddiad eu cyrff (drwy law mesuriad tewdra'r corff) fod y BMI uwch yn bennaf o ganlyniad i ddatblygiad y cyhyrau.
Gall eich BMI gael ei fesur fel rhan o'r ACY, y Prawf Meddygol neu'r ddau yn ystod y camau hyn o'r broses Recriwtio.
Bydd angen i chi gyfuno hyder, ystwythder a hyblygrwydd wrth oresgyn y llwybr llusgo i basio'r prawf yn llwyddiannus. Dim ond un ffordd sydd drwy'r llwybr llusgo, ymlaen, i'r dde, i'r chwith, i fyny neu i lawr a does dim drysau i'w hagor. Byddwch yn cychwyn y prawf drwy wisgo mwgwd wyneb sy'n galluogi gwelededd clir. Fodd bynnag, wedi i chi gwblhau’r prawf, bydd eich masg yn cael ei orchuddio a bydd angen i chi ddychwelyd ar hyd yr un llwybr. Dylech fod yn gallu cwblhau'r profion hyn o fewn ffrâm amser penodol heb beryglu eich diogelwch a'ch llesiant.
Cynllunnir y prawf hwn i asesu eich medrusrwydd dwylo. Bydd angen i chi gydosod ac yna dadosod darn o offer. Cyn i chi gychwyn y prawf, bydd Hyfforddwr yn arddangos y ffordd gywir i gydosod yr offer. Yn ogystal, bydd gennych ddiagram yn amlinellu'r cydosodiad cywir. Dylid cwblhau'r prawf hwn o fewn ffrâm amser penodol.
Bydd angen i chi gario offer ymladd tân safonol ar hyd cwrs penodol 25m o hyd am gyfanswm o 550 medr. Bydd angen i chi gyfuno dycnwch erobig, cryfder a dycnwch cyhyrog rhan uchaf a rhan isaf y corff. Dylid cwblhau'r prawf hwn o fewn ffrâm amser penodol.
Fe'ch dangosir sut i ddringo'r ysgol a sut i ddefnyddio 'clo coes’. Yna, fe'ch caniateir i ymarfer y clo coes. Byddwch yn dringo'r ysgol hyd yr uchder a bennwyd. Yna, byddwch yn defnyddio’r clo coes i ddiogelu eich hun i’r ysgol, yn tynnu eich dwylo oddi ar yr ysgol ac yn pwyso nôl, gan edrych dros eich ysgwydd i adnabod gwrthrych sy'n cael ei ddal gan yr hyfforddwr ar lefel y llawr. Wedi i chi nodi’r gwrthrych, gofynnir i chi roi eich dwylo yn ôl ar yr ysgol a rhyddhau’r clo coes. Yna, fe'ch cyfarwyddir i ddisgyn yr ysgol. Bydd angen i chi ddangos hyder a gweithredu'r dechneg gywir wrth ddringo'r ysgol.
Bydd angen i chi lusgo model/dymi 55 kg sy'n efelychu gwacáu claf am bellter o 30 metr. Dylid cwblhau'r prawf hwn o fewn ffrâm amser penodol.
Bydd angen cyfuno cryfder rhan uchaf ac isaf y corff ynghyd â chyd-gysylltu i godi ysgol dros eich pen i'r uchder gofynnol a'i ddisgyn yn ddiogel ac o dan reolaeth. Pwysau'r ysgol yw tua 26-30kg.
Byddwch yn cyflawni prawf sy'n efelychu ymestyniad ysgol Gwasanaeth Tân ac Achub 13.5m o hyd o'r llawr cyntaf i ail lawr adeilad. Cyflawnir hyn wrth dynnu i lawr ar raff. I gwblhau'r prawf hwn yn llwyddiannus, bydd angen i chi gyfuno cryfder rhan uchaf y corff, cryfder gafael a chydgysylltiad. Caiff y prawf hwn ei gwblhau o fewn ffrâm amser benodoedig.
Cynhelir asesiad ffitrwydd i benderfynu ffitrwydd erobig. Y gofyniad ffitrwydd lleiafsymiol i ymgeiswyr yn y cam recriwtio yw 42.3 ml 02/kg/mun (cyfatebol i lefel 8 nôl a blaen 8 ar Brawf Blîp).
Os bydd angen mwy o wybodaeth ar sut i baratoi'n ddiogel ar gyfer yr Asesiadau Corfforol ac Ymarferol Corfforol arboch, cewch wylio'r holl brofion gweithredol yn ogystal â lawr lwytho Dogfen Rhaglen Hyfforddiant Ffitrwydd Paratoadol (PDF, 1.1Mb)
Os byddwch yn llwyddiannus yn yr Asesiad Corfforol ac Ymarferol, cewch eich gwahodd i fynychu'r Cam Dethol Mae'r cam hwn yn cynnwys Cyfweliad. Danfonir Llyfryn Cyfarwyddyd Dethol i'ch cynorthwyo wrth i chi baratoi ar gyfer y cam hwn. Efallai y cewch eich asesu ar y rhinweddau a'r priodoleddau personol canlynol sy'n hanfodol i rôl y Diffoddwr Tân:
Ymrwymiad i Amrywiaeth ac Uniondeb
I asesu eich agwedd tuag at faterion amrywiaeth a sut byddwch yn mabwysiadu agwedd deg a moesol tuag at eraill
Bod yn Agored i Newid
Y graddau eich bod yn agored i newid ac yn chwilio’n weithredol i'w gefnogi.
Hyder a Chydnerthedd
Y graddau eich bod yn hyderus yn eich gallu eich hun i gwrdd â sefyllfaoedd heriol ac i ymdopi â hwynt, a sut i gynnal effeithiolrwydd pan y'ch wynebir â sefyllfaoedd hynod heriol.
Cyfathrebu Effeithiol
Cewch eich asesu ar hyd y cyfweliad ar sail effeithiolrwydd eich cyfathrebu
Gweithio gydag Eraill
I asesu'ch agwedd at weithio gydag eraill, naill ai fel rhan o dîm neu ar sail un i un.
Ymrwymiad i Ddatblygu
I asesu eich dull i ddatblygu eich hun
Datrys Problemau
I'r fath raddau eich bod yn deall a chymhwyso gwybodaeth berthnasol mewn modd trefnus, diogel a systematig
Ymrwymiad i Ragoriaeth
I asesu pa mor gydwybodol a rhagweithiol at waith yr ydych wrth gyflawni a chynnal safonau rhagorol
Gall Ymladdwyr Tân wynebu gofynion corfforol a seicolegol eithafol mewn amgylchedd anodd a pheryglus. I gydymffurfio â’r darpariaethau statudol perthnasol, mae sgrinio meddygol Ymladdwyr Tân yn drwyadl. Dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, mae’n rhaid i'r Gwasanaeth Tân ac Achub ostwng risg cyhyd ag sy'n rhesymol ymarferol. Golyga hyn na fydd cyflwr meddygol sy'n arwain at risg gweithredol rhesymol rhagweladwy yn dderbyniol.
Penderfynir addasrwydd meddygol gan asesiad unigol. Am resymau ymarferol, ni ellir cynnal hwn tan gamau olaf y broses recriwtio. Gall natur ac effaith cyflyrau meddygol amrywio. Felly, nid yw'n bosib cadarnhau cyflyrau meddygol fydd yn annerbyniol cyn asesiad meddygol unigol. Fodd bynnag, os oes gennych gyflwr meddygol neu hanes o gyflwr meddygol a all achosi problemau, dylai’r canllawiau cyffredinol canlynol eich cynorthwyo i ystyried eich addasrwydd meddygol cyn ymgeisio.
Mae cyflwr meddygol neu gyfyngiad gweithredol sydd, er gwaethaf unrhyw ddiwygiadau rhesymol, yn arwain at risg gweithredol cynyddol sylweddol un o’r canlynol yn annerbyniol:
Bydd yr asesiad unigol yn cynnwys ystyriaeth deg o unrhyw safbwyntiau ac adroddiadau meddygol y dymunwch gyflwyno. Fodd bynnag, bydd y penderfyniad ynghylch perthnasedd unrhyw risgiau yn gorwedd gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub.
A fyddech cystal â nodi fod y Prawf Meddygol yn cynnwys profion cyffuriau ac alcohol.
Os ydych yn llwyddiannus ym mhob cam o'r broses recriwtio, rhoddir eich manylion ar Restr Aros. Gwneir cynigion am gyflogaeth wrth i swyddi gweigion godi. Mae unrhyw gynnig o gyflogaeth yn amodol ar dderbyn tystlythyrau boddhaol a gwiriadau fetio. Pe derbynnir tystlythyr anfoddhaol neu wiriad fetio, tynnir y cynnig o gyflogaeth yn ôl.
Mae gwerth y Rhestr Aros yn ôl disgresiwn y Gwasanaeth. Rhagdybir bydd Rhestr Aros yn parhau'n gyfredol am rhwng 12 a 18 mis wedi cwblhau'r Broses Ddethol, neu hyd nes y bydd y Gwasanaeth yn rhedeg ei ymgrych recriwtio nesaf. Os nad ydych wedi sicrhau swydd o fewn y terfynau amser a nodwyd gan y Gwasanaeth recriwtio, bydd angen i chi ymgymryd â phroses recriwtio dilynol.