Atgofion y Gwasanaeth

Yn ddiweddar, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi dechrau cyfres newydd 'Atgofion Gwasanaeth' ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Ar ôl derbyn rhai lluniau o hen Orsaf Dân Canol Abertawe, cyn iddi ddod yn Orsaf Heddlu Canol Abertawe, mae'r Gwasanaeth bellach wedi dechrau derbyn mwy o luniau o hen Orsafoedd Tân, staff a cherbydau.

Hoffem barhau â'r gyfres 'Atgofion y Gwasanaeth' newydd hon ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan, felly os oes gennych unrhyw hen luniau, fideos a straeon yr hoffech eu rhannu, anfonwch nhw atom i pressofficer@mawwfire.gov.uk os gwelwch yn dda!