Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn mynychu’r Coroni

Cynhaliwyd Coroni Eu Mawrhydi'r Brenin Siarl III a'r Frenhines Camilla yn Abaty Westminster ddydd Sadwrn 6 Mai, y Gwasanaeth Coroni cyntaf ers bron i 70 mlynedd.   

Cynrychiolwyr o Wasanaethau Tân ac Achub y DU yn y Coroni. Gwelir Stuart Bate yn y rhes uchaf ar y dde.

Roedd dathliadau'r diwrnod yn cynnwys dwy orymdaith seremonïol fawr – Gorymdaith y Brenin a Gorymdaith y Coroni - trwy Ganol Llundain.  Roedd dros 1,000 o aelodau’r Lluoedd Arfog o bob un o'r tri Gwasanaeth, Cludwyr Baneri’r Lleng Brydeinig Frenhinol, Gwasanaethau Sifiliaid mewn Lifrai (UCS) a Sefydliadau Cymunedol ar hyd y strydoedd, yn rhan yn orymdeithiau’r diwrnod.

Yn cynrychioli Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn y Coroni ac yn rhan o'r Gwasanaethau Sifiliaid mewn Lifrau roedd y Pennaeth Cyflenwi Hyfforddiant, Stuart Bate, yn dilyn enwebiad gan Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Roger Thomas. Roedd y Gwasanaethau Sifiliaid mewn Lifrau yn gorymdeithio yn Whitehall ac yn cynnwys 220 o aelodau, ac roedd 20 o'r rhain yn dod o'r Gwasanaethau Tân ac Achub ar draws y Deyrnas Unedig. Ymhlith y sefydliadau eraill a gynrychiolwyd yn y Gwasanaeth Sifiliaid mewn Lifrau roedd Lluoedd yr Heddlu, y Gwasanaethau Ambiwlans, Gwylwyr y Glannau, ac eraill. Roedd y Gwasanaeth Sifiliaid mewn Lifrau yn darparu aelodau i sefyll ar hyd llwybr yr orymdaith i'r de o Sgwâr Trafalgar, ar hyd Whitehall bron at y cerflun o’r Maeslywydd Montgomery, gyferbyn â Downing Street.

Dywedodd Stuart Bate am fod yn y Coroni:

"Roedd yn anrhydedd ac yn fraint cael cynrychioli Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru mewn digwyddiad mor hanesyddol.  Roedd trefniadaeth y digwyddiad, ar y diwrnod ac yn ystod ymarferion, yn rhyfeddol gydag amseriadau mor fanwl gywir ac roedd yr awyrgylch yn anhygoel.

Fel rhan o'n dyletswyddau, aethom ymlaen i Whitehall, dan arweiniad Band y Môr-filwyr Brenhinol, ac roeddem yn ein llefydd wrth i'w Fawrhydi basio yng Nghoets y Jiwbilî Ddiemwnt."

 



Y Gwasanaethau Sifiliaid mewn Lifrau yng Nghoroni Eu Mawrhydi'r Brenin Siarl III a'r Frenhines Camilla.