Her Diffoddwyr Tân Cymru


Bydd diffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ac ar draws y DU yn cystadlu yn Her Diffoddwyr Tân Cymru ddydd Sadwrn, Mehefin 3, yn Sgwâr y Castell, Abertawe.

Mae Her Diffoddwyr Tân Cymru yn cynnwys cyfres o brofion corfforol a meddyliol anodd, a gynhelir mewn cit tân llawn, sydd wedi'u cynllunio er mwyn dangos sgiliau a chryfder diffoddwyr tân.  Yn ogystal â'r cystadlaethau amrywiol drwy gydol y dydd, mae Her Diffoddwyr Tân Cymru hefyd yn gyfle i gymuned y gwasanaeth tân ac achub, ynghyd â'u hanwyliaid, ddod at ei gilydd i ddathlu llwyddiannau ei gilydd ac i dynnu sylw at eu proffesiynoldeb a'u hymroddiad parhaus i gadw eu cymunedau'n ddiogel.

Yn ogystal â darparu diwrnod o adloniant i ddiffoddwyr tân a'u gwylwyr, bydd Her Diffoddwyr Tân Cymru hefyd yn codi arian pwysig i Elusen y Diffoddwyr Tân, sy'n cynnig cymorth arbenigol a gydol oes i aelodau o gymuned y gwasanaethau tân ledled y DU.

Dywedodd Dominic Norcross, Rheolwr Gwylio, un o brif drefnwyr yr Her:

"Bydd hwn yn ddiwrnod gwych i ddiffoddwyr tân ledled Cymru a thu hwnt ddod at ei gilydd a mwynhau cystadlu cyfeillgar.  Ar hyn o bryd mae gennym dros 100 o ddiffoddwyr tân o Gymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon a'r Almaen wedi cofrestru i gystadlu ar y diwrnod ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu bob un ohonyn nhw."

Yn ogystal â Her Diffoddwyr Tân Cymru, bydd GTACGC yn cynnal ‘Pentref Diogelwch Cymunedol’ arbennig ar hyd Stryd Rhydychen yng Nghanol Dinas Abertawe.  Bydd y Pentref Diogelwch Cymunedol yn rhoi cyfle i bobl ymweld â stondinau amrywiaeth o sefydliadau fel Heddlu De Cymru, Cymunedau Mwy Diogel i Gymru, Cŵn Tywys CymruGwarchod y Gymdogaeth AbertaweSefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Abertawe a mwy i dderbyn a thrafod cyngor diogelwch.

Os byddwch chi’n mynd i’r digwyddiad Her Diffoddwyr Tân Cymru – naill ai fel cystadleuydd neu fel gwyliwr – gwnewch yn siŵr eich bod yn ein tagio ni yn eich lluniau ac yn dilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael newyddion byw drwy’r dydd – Facebook, Instagram a Twitter.

Bydd Her Diffoddwyr Tân Cymru 2023 yn digwydd yn Sgwâr y Castell, gyda'r ras gyntaf yn dechrau am 10yb.

 

  
Lluniau gan Daniel James Photography.