Nifer o Danau Bwriadol yng Ngorsaf Bŵer Bae Baglan

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn atgoffa pobl am beryglon tanau bwriadol a thresmasu mewn adeiladau gwag ac anniogel.

Yn ddiweddar, mae GTACGC wedi ymateb i sawl digwyddiad yng Ngorsaf Bŵer Bae Baglan, sydd wedi’i datgomisiynu gan mwyaf, yn dilyn adroddiadau o nifer o danau bwriadol.

Nid yn unig y mae’r rhai sy’n cynnau tanau’n fwriadol yn peryglu eu hunain, maen nhw hefyd yn peryglu bywydau diffoddwyr tân, yn enwedig mewn safleoedd mawr, cymhleth a pheryglus fel Gorsaf Bŵer Bae Baglan. Yn ogystal â’r peryglon arferol sy’n gysylltiedig â brwydro yn erbyn tanau, bu’n rhaid i’r criwiau GTACGC sydd wedi ymateb i’r digwyddiadau niferus yng Ngorsaf Bŵer Bae Baglan hefyd fod yn ymwybodol o beryglon eraill, fel symiau mawr o gemegau, ceblau trydanol yn hongian, strwythurau anniogel a mwy. 

Yn ogystal â sawl achos o danau bwriadol yng Ngorsaf Bŵer Baglan, mae tystiolaeth hefyd o geblau’n cael eu dwyn ac o dresmaswyr ar y safle.

Mae cychwyn tân yn fwriadol yn drosedd. Gallwch riportio tân bwriadol yn ddienw drwy ffonio CrimeStoppers Cymru ar 0800 555111. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.

Mae GTACGC wedi ymroi i leihau ac atal tanau bwriadol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut y gallwch ein helpu i amddiffyn eich cymuned rhag cynnau tanau bwriadol yma.