Tân Gwyllt yng Nghwm Sorgwm

Am 12.56yp ddydd Mercher, Mai 17eg, gwnaeth criwiau Talgarth ac Aberhonddu ymateb i ddigwyddiad yng Nghwm Sorgwm, yn dilyn adroddiadau o fwg ar Fynydd Llangors.

Bu criwiau’n delio â than wyllt tua 30 hectar mewn maint.  Gwnaeth criwiau diffodd y tân gan ddefnyddio system rhagweld tanau gwyllt, llinellau rheoli naturiol, chwythwyr tanau gwyllt, paciau a churwyr tanau gwyllt.  Parhaodd y criwiau i fonitro’r digwyddiad am fannau poeth.  Cafodd y tân ei gynnau yn fwriadol.

Gadawodd y criwiau am 8yh.

Ymgyrch Dawns Glaw

Mae Ymgyrch Dawns Glaw yn dasglu amlasiantaethol sy’n gweithio ledled Cymru i leihau, a lle bo hynny’n bosibl i ddileu, effaith tanau gwyllt.

Bob blwyddyn, mae tanau yn gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o ardaloedd cefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt.  Yn 2022, ymatebodd y gwasanaethau tân ledled Cymru i 3,269 o danau glaswellt – roedd hyn yn gynnydd o 62% ar y flwyddyn flaenorol, gyda nifer y tanau glaswellt bwriadol yn cynyddu 1542 (47%) i 2263.

Mae cynnau tân bwriadol yn drosedd.  Gallwch roi gwybod am dân bwriadol, a hynny'n ddienw, trwy ffonio Crimestoppers Cymru ar 0800 555111.  Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.

Llun gan Bryan Adams.