Tanau Gwyllt Bwriadol
Dros yr wythnos ddiwethaf, mae criwiau Talgarth, Aberhonddu a Llandrindod wedi ymateb i sawl tân gwyllt, gan gynnwys yr un ardal o 30 hectar o dir yn cael ei llosgi’n fwriadol.
Bob blwyddyn, mae tanau yn gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o ardaloedd cefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt. Mae cynnau tân bwriadol yn drosedd. Gallwch roi gwybod am dân bwriadol, a hynny'n ddienw, trwy ffonio Crimestoppers Cymru ar 0800 555111. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.
Darllenwch fwy ar ein Hymgyrch Dawns Glaw amlasiantaethol yma.
Dydd Mawrth Mai 16eg
Am 6.13yp ddydd Mawrth, Mai 16eg, gwnaeth criwiau Talgarth ac Aberhonddu ymateb i ddigwyddiad ar Fynydd Llangors ym Mhowys.
Wrth iddynt gyrraedd, roedd tua phum hectar o eithin, rhedyn a gwair ar dân. Gwnaeth criwiau diffodd y tân gan ddefnyddio chwistrell olwyn piben, chwythwyr a churwyr tân gwyllt. Cafodd y tân ei gynnau’n fwriadol.
Gadawodd y criwiau am 7.34yp.
Dydd Mercher Mai 17eg
Am 12.56yp ddydd Mercher, Mai 17eg, gwnaeth criwiau Talgarth ac Aberhonddu ymateb i ddigwyddiad yng Nghwm Sorgwm, yn dilyn adroddiadau o fwg ar Fynydd Llangors.
Bu criwiau’n delio â than wyllt tua 30 hectar mewn maint. Gwnaeth criwiau diffodd y tân gan ddefnyddio system rhagweld tanau gwyllt, llinellau rheoli naturiol, chwythwyr tanau gwyllt, paciau a churwyr tanau gwyllt. Parhaodd y criwiau i fonitro’r digwyddiad am fannau poeth. Cafodd y tân ei gynnau’n fwriadol.
Gadawodd y criwiau am 8yh.
Dydd Gwener Mai 19eg
Am 11.39yb ddydd Gwener, Mai 19eg, gwnaeth criwiau Talgarth, Aberhonddu a Llandrindod ymateb i dân gwyllt yn yr un lleoliad a’r digwyddiad ddydd Mercher, Mai 17eg.
Roedd y tân gwyllt wedi lledu i tua 30 hectar o dir, diffoddodd y criwiau’r tân gan ddefnyddio chwythwyr tanau gwyllt, drôn, paciau a churwyr a system rhagfynegi tanau gwyllt. Yn yr un modd â digwyddiad dydd Mercher, cafodd y tân ei gynnau’n fwriadol.
Gadawodd y criwiau am 4.57yp.