Partneriaeth Diffibrilwyr Newydd
O'r chwith i'r dde: Cadeirydd Achub Bywyd Cymru yr Athro Len Nokes, Nick Ozzati o'r Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, y Prif Swyddog Tân Roger Thomas a Chydlynydd Cymunedol Achub Bywyd Cymru Marc Gower yn ystod y lansiad.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn gweithio mewn partneriaeth ag Achub Bywyd Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i gynyddu nifer y diffibrilwyr mynediad cyhoeddus sy’n achub bywydau.
Sefydlwyd Achub Bywyd Cymru yn 2019 gan Lywodraeth Cymru ac mae’n gweithio i sicrhau bod cyfle cyfartal i bawb o oroesi ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty ledled Cymru, i gynyddu nifer y bobl sy’n barod i roi cynnig ar adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR), ac i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o ddiffibrilwyr a beth i'w wneud os bydd rhywun yn dioddef ataliad ar y galon.
Gall ataliad sydyn ar y galon ddigwydd i unrhyw un, o unrhyw oed, a phob blwyddyn yng Nghymru mae dros 6,000 o bobl yn dioddef ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty. Bydd y tebygolrwydd o oroesi yn gostwng 10% gyda phob munud sy’n mynd heibio os na fydd rhywun yn rhoi cynnig ar CPR neu ddefnyddio diffibriliwr. Ar hyn o bryd, dim ond tua 30-40% o bobl sy’n dioddef ataliad ar y galon yn y gymuned fydd yn cael CPR gan rywun sy’n bresennol.
Drwy weithio mewn partneriaeth, mae GTACGC ac Achub Bywyd Cymru wedi nodi 22 o Orsafoedd Tân nad oes ganddynt ddiffibriliwr mynediad cyhoeddus (PAD) o fewn 500 metr ac maent yn gweithio i gywiro hyn. Yn ystod Diwrnod Agored Pencadlys GTACGC ddydd Gwener, 1 Medi, lansiwyd y rhaglen gyflwyno PAD yn swyddogol, a chafodd yr uned gyntaf ei dadorchuddio yng Ngorsaf Dân Caerfyrddin.
Yn ystod y lansiad, lle’r oedd staff gweithredol a chymorth GTACGC yn bresennol, yn ogystal ag ymwelwyr Diwrnod Agored, croesawodd y Prif Swyddog Tân Roger Thomas Gadeirydd Achub Bywyd Cymru, yr Athro Len Nokes, Cydlynydd Cymunedol Achub Bywyd Cymru Marc Gower, a Nick Ozzati o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Yn ystod y dadorchuddio, dywedodd y Prif Swyddog Tân Thomas:
“Mae’n bleser cael lansio’r cyflwyniad newydd hwn o unedau PAD achub bywyd yn ein Gorsafoedd Tân. Mae Gorsafoedd Tân GTACGC yn cael eu gweld fel mannau cymunedol o bwys ac maent wedi'u lleoli'n strategol ym mhob rhan o'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu er mwyn sicrhau cymaint â phosibl o gymorth tân ac amddiffyniad i'r cyhoedd. Bydd cael mynediad 24 awr at unedau PAD yn y Gorsafoedd Tân dethol hyn yn gwella canlyniadau cleifion yn fawr os bydd ataliad ar y galon.
Rydw i’n gwybod bod gan rai o aelodau ein criw brofiad uniongyrchol o ddefnyddio PAD a pha mor effeithiol y gallant fod ac, yn ddiweddar, defnyddiodd diffoddwyr tân o Orsaf Dân Pontarddulais ddiffibriliwr ar unigolyn.”
Dywedodd Cadeirydd Achub Bywyd Cymru, yr Athro Len Nokes:
“Rwy’n falch iawn bod Achub Bywyd Cymru wedi sefydlu partneriaeth newydd gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i sicrhau y bydd gan gymunedau canolbarth a gorllewin Cymru well mynediad 24/7 at ddiffibrilwyr achub bywyd.
Rhaid i mi ddiolch i Nick Ozzati a nododd y gorsafoedd i ddechrau a fyddai’n elwa ar PAD cymunedol rhad ac am ddim gan Lywodraeth Cymru.
“Mae hwn hefyd yn gyfle gwych i mi gyflwyno Marc Gower, Cydlynydd Cymunedol newydd Achub Bywyd Cymru, i’r rhanbarth. Yn yr un modd â’r bartneriaeth hon, rôl Marc yw gweithio gyda sefydliadau a chymunedau ledled y rhanbarth i gydlynu a rheoli’r gwaith o osod Diffibrilwyr Mynediad Cyhoeddus. Mae hefyd yn gyfrifol am gefnogi’r broses gofrestru PAD ar The Circuit – y rhwydwaith diffibrilwyr cenedlaethol – i sicrhau bod y rhai sy’n derbyn galwadau brys 999 yn gwybod am y diffibrilwyr a’u bod ar gael, i helpu’r rhai sy’n dioddef trawiad ar y galon.”
Bydd y gwaith o gyflwyno unedau PAD yng Ngorsafoedd Tân GTACGC yn parhau dros y misoedd nesaf. Mae diffibrilwyr yn syml ac yn ddiogel i'w defnyddio, ac nid oes angen unrhyw hyfforddiant i ddefnyddio un. Unwaith y bydd wedi'i actifadu, bydd yn dweud wrthych yn union beth i'w wneud a phryd a sut i ddarparu sioc ddiogel. Pan fyddwch chi'n ffonio 999, bydd derbynnydd yr alwad yn dweud wrthych ble mae'r diffibriliwr cofrestredig agosaf a chod i agor y cabinet os oes angen.
Ataliad ar y galon yw pan fydd calon rhywun yn stopio pwmpio gwaed o amgylch ei gorff ac mae'n rhoi'r gorau i anadlu'n normal, tra bod trawiad ar y galon yn digwydd pan fydd un o'r rhydwelïau coronaidd yn cael ei blocio, yna ni fydd gan gyhyr y galon ei gyflenwad gwaed hanfodol ac os na chaiff ei drin, bydd yn dechrau marw oherwydd diffyg ocsigen. Gallwch ddysgu rhagor am y gwahaniaethau rhwng trawiad ar y galon ac ataliad ar y galon ar wefan Sefydliad Prydeinig y Galon.
Mae trawiad ar y galon ac ataliad ar y galon yn sefyllfaoedd brys – ffoniwch 999 ar unwaith bob amser.
Mae GTACGC yn falch o fod yn datblygu ei bartneriaethau gydag Achub Bywyd Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i wella mynediad i unedau PAD ar draws ei faes Gwasanaeth ac i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o ddiffibrilwyr a'u pwysigrwydd. Bydd cynyddu nifer y diffibrilwyr mynediad 24 awr yng Ngorsafoedd Tân GTACGC yn gwella darpariaeth diogelwch cymunedol y Gwasanaeth a chanlyniadau cleifion os bydd rhywun yn dioddef ataliad ar y galon.
Lansiad y partneriaeth a dadorchuddio'r deffibriliwr newydd ar Orsaf Dân Caerfyrddin yn ystod Diwrnod Agored Pencadlys y Gwasanaeth.
Diffibriliwr newydd ar Orsaf Dân Caerfyrddin.