Y diweddaraf o’r adran Bowlio

Mae adran Bowlio Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi bod yn brysur!
Ar 17 Gorffennaf 2023, cynhaliwyd cystadleuaeth parau bowlio Cymru yng Nghlwb Bowlio Llandrindod, lle’r oedd 6 phâr yn chwarae ar ffurf twrnamaint gron (round robin). Yr enillwyr oedd Ian Price o Raeadr Gwy ac Eddie Williams o Landrindod, gyda Mial Humphries a David Rowlands o Fachynlleth yn cipio’r ail safle.
Dilynwyd hyn gan broses treialon Cymru er mwyn penderfynu ar dîm fyddai’n chwarae yn y Pedair Cenedl yn Derby.
Cynhaliwyd Cystadleuaeth y Pedair Cenedl rhwng 8 a 10 Medi yng Nghlwb Bowlio West End Derby. Roedd yn ganlyniad gwych i dîm Cymru, gan guro mewn 3 disgyblaeth ac ennill hefyd y cwpan am fod y wlad fwyaf llwyddiannus!
Enillodd Steve Jones o Landrindod y 3 gêm gan ei wneud yn enillydd yn y senglau. Enillodd Antony Williams a Martin Johnson o Abertawe y 3 gêm ac felly cipio’r wobr gyntaf yn y dyblau. Roedd tîm y treblau yn drydydd yn eu cystadleuaeth nhw ac roedd y tîm o bedwar, a oedd yn cynnwys Ian Price o Raeadr Gwy, Mial Humphries a David Rowlands o Fachynlleth a Tony Evans o Lanidloes, wedi curo 2 gêm a gorffen yn gyfartal yn eu trydedd gêm.
Roedd yn gyflawniad ardderchog i bawb a da iawn i aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru sydd yn nhîm Cymru.
Mae’r adran Bowlio (GTAGCC) yn agored i holl weithwyr Canolbarth a Gorllewin Cymru, gan gynnwys gwirfoddolwyr, gweithwyr amser llawn, gweithwyr ar alw, staff cymorth ac aelodau sydd wedi ymddeol. Mae croeso i bawb ymuno neu helpu mewn unrhyw ffordd, boed hynny drwy chwarae, hyfforddi, ffisiotherapi neu ymuno ar gyfer yr ochr gymdeithasol.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Eddie Williams drwy e-bost eddiew344@gmail.com