Gweithiwch gyda ni, nid yn ein herbyn yw cais gweithwyr brys ar ôl cynnydd yn nifer yr ymosodiadau

MAE ymosodiadau ar weithwyr gwasanaethau brys ar gynnydd yng Nghymru yn ôl data newydd. 

Bu mwy na 4,240 o ymosodiadau yn erbyn gweithwyr gwasanaethau brys, yn cynnwys yr heddlu, criwiau tân ac ambiwlans, yn y cyfnod rhwng Ebrill 2019 a Thachwedd 2020, sy’n cynrychioli cynnydd cyfartalog misol o 202 yn 2019 i 222 yn 2020, neu 10%.

Roedd yr ymosodiadau’n amrywio o gicio, dyrnu a tharo pennau i boeri, slapio, brathu a cham-drin geiriol. 

Digwyddodd mwy na hanner (58%) y digwyddiadau yn ne ddwyrain Cymru, a chyflawnwyd dros draean ohonyn nhw (37%) gan bobl dan ddylanwad alcohol. 

Gyda thafarndai ar fin ailagor yn llawn yng Nghymru o ddydd Llun, mae gweithwyr gwasanaethau brys yn gofyn i’r cyhoedd eu trin gyda pharch, gan wneud yr apêl a ganlyn – gweithiwch gyda ni, nid yn ein herbyn ni.

Bu 629 (15%) o ymosodiadau ar staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru dros y cyfnod 20 mis, yn cynnwys parafeddygon a staff ystafell reoli. 

Yn eu plith roedd y Parafeddyg Darren Lloyd, yr ymosodwyd arno gan glaf ym Mangor, Gwynedd, ym mis Ebrill 2019. Cafodd y dyn ei garcharu am 16 wythnos o ganlyniad i’r ymosodiad. 

Dywedodd Darren: “Roeddem ni wedi cael ein galw at ddyn y dywedwyd ei fod wedi cymryd gorddos, felly fe wnaethom ni roi gwrthgyffur iddo i geisio ei adfywio. 

“Pan ddaeth ato ei hun fe wnaeth fy nyrnu i ddwywaith a dweud: ‘Ti newydd f***cio fy hit olaf.’ Cefais fy nâl yn ddiarwybod, doeddwn i ddim yn barod am hynny.

“Mae cleifion yn ymddiried ynoch chi ac rydym ni’n rhoi ein hymddiriedaeth yn ein cleifion, felly pan fo rhywbeth fel hyn yn digwydd, mae’n eich taflu oddi ar eich hechel. 

“Mae’n gwneud i chi deimlo’n betrus ac mae’n eich newid chi. Mae’n eich gwneud chi’n orymwybodol ar alwadau eraill hefyd, ac rydych chi’n cwestiynu popeth llawer mwy. 

“Rydych chi’n cwestiynu pam y gwnaeth ddigwydd a beth wnaethoch chi o’i le.” 

Mewn digwyddiad arall ym Mhorthmadog, Gwynedd, ym mis Mai 2019, ymosodwyd ar y Technegydd Meddygol Brys ‘Ann’ gan glaf, a gafodd ei garcharu’n ddiweddarach am chwe mis. 

Dywedodd y fam i dri o blant: “Cefais fy nal yn erbyn cornel tu mewn ambiwlans gan glaf oedd wedi meddwl, ac roedd rhaid i fy nghydweithiwr ac aelod o’r cyhoedd ei lusgo oddi arna’ i.   

“Roedd o’n gweiddi yn fy wyneb i, fy nghicio i ac yn fy ngham-drin yn eiriol. 

“Yn y cyfamser, daeth galwad ‘Coch’ brys ar gyfer babi a oedd wedi mynd yn sâl felly roedd rhaid i ni adael.   

“Doeddwn i ddim yn meddwl fod y digwyddiad wedi effeithio arna’ i ar y pryd, ond ychydig o wythnosau yn ddiweddarach, pan aeth claf arall i dymer, fe wnes i fynd oddi ar yr ambiwlans a dechrau crïo.

“Fe welais i o yn y stryd pan ddaeth o allan o’r carchar ac roedd fy nghalon i yn fy ngwddf. 

“Mae’n ddwy flynedd yn ddiweddarach erbyn hyn, ond mae’r hyn a ddigwyddodd wedi aros efo fi. 

“Y peth cyntaf rydw i’n ei wneud pan ydw i’n mynd i mewn i dŷ claf ydi chwilio am yr allanfeydd.” 

Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae ein criwiau ambiwlans yno i helpu pobl, ond fedran nhw ddim brwydro i achub bywyd rhywun os ydyn nhw’n brwydro i amddiffyn eu bywyd eu hunain. 

“Efallai na fydd gan ein criwiau unrhyw ddewis ac eithrio gadael y sefyllfa os yw ei diogelwch personol dan fygythiad, a dydi hyn ddim yn helpu unrhyw un, yn enwedig y claf. 

“Gall gweithred dreisgar am ennyd gael effaith niweidiol a thymor hir ar ein staff, yn gorfforol ac yn emosiynol. 

“Nid yw’n dyled i’n gweithwyr gwasanaethau brys erioed wedi bod yn uwch, felly nawr fwy nag erioed, rydym ni’n gofyn i’r cyhoedd weithio gyda ni, nid yn ein herbyn ni.” 

Roedd dau draean o’r ymosodiadau (66%) yn ystod y cyfnod 20 mis yn rhai yn erbyn swyddogion yr heddlu, gyda thraean (33%) ohonynt wedi arwain at anafiadau. 

Dywedodd Pam Kelly, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent: “Mae gwasanaethau brys ar draws Cymru wedi ymrwymo i wneud y cyfan y medrwn ni i wasanaethu’r cyhoedd.   

“Yr unig ffordd y medrwn ni wneud ein swyddi’n effeithiol yw os ydi pobl yn gweithio gyda ni ac nid yn ein herbyn ni. 

“Gydag ymosodiadau ar weithwyr gwasanaethau brys yn parhau i gynyddu, rydym ni’n apelio ac yn mynnu rhoi diwedd ar ymddygiad o’r fath. 

“Rydw i wedi gweld yn rhy aml yr effaith mae’r ymosodiadau hyn yn eu cael ar swyddogion yr heddlu a gweithwyr gwasanaethau brys eraill wrth iddyn nhw gyflawni eu dyletswydd i helpu’r rhai mewn angen. 

“Mae’n bwysig cofio, o dan unrhyw fath o wisg gwasanaeth brys, mae unigolyn efo ffrindiau, teulu ac anwyliaid.   

“Mae ymosodiad ar weithiwr gwasanaethau brys yn drosedd, p’un ai’n ymosodiad corfforol neu eiriol, ac ni fydd yn cael ei oddef.” 

Er bod y niferoedd yn llai – 74 digwyddiad yn ystod y cyfnod 20 mis – mae’r data’n dangos fod yr ymosodiadau ar staff gwasanaethau tân ac achub yn cyrraedd uchafbwynt ym mis Tachwedd. 

Dywedodd Simon Smith, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rydym ni hefyd yn ychwanegu ein llais at yr apêl hon i’r cyhoedd weithio gyda ni, nid yn ein herbyn ni.    

“Mae mwyafrif helaeth y bobl yn sylweddoli pwysigrwydd cefnogi’r gwasanaeth tân ac achub tra’u bod yn ymateb i’r ystod o argyfyngau sy’n rhoi pobl, cymunedau, bywoliaethau a’r amgylchedd mewn perygl.    

“Yn drist iawn, fodd bynnag, mae ychydig o bobl nad ydynt yn meddwl ddwywaith am gam-drin ein staff yn eiriol neu ymosod ar griwiau wrth iddyn nhw weithio.   

“Ni ddylai unrhyw un ddisgwyl cael ymosodiadau arnyn nhw tra’n ceisio achub bywyd pobl eraill mewn argyfwng. 

“Rydym ni’n annog pawb i ymrwymo i weithio gyda ni, nid yn ein herbyn ni.” 

Wrth i rownd gyntaf y cyfyngiadau Covid-19 lacio yng Nghymru gwelwyd y nifer uchaf o ymosodiadau ar weithwyr gwasanaethau brys ym mis Gorffennaf 2020 (256 ymosodiad) ac Awst 2020 (253 ymosodiad), wedi cynyddu 20% yn uwch na’r cyfartaledd misol o 212. 

Dim ond 21 digwyddiad hysbys a gafwyd yn ystod y cyfnod lle pesychodd rhywun yn fwriadol ar weithiwr brys gan honni fod ganddo Covid-19, ond tybir bod y ffigur go iawn yn arwyddocaol uwch na hynny. 

Dan y Ddeddf Ymosodiad ar Weithwyr Brys (Troseddau) mae’r diffiniad gweithwyr brys yn cynnwys staff yr heddlu, gwasanaeth tân ac ambiwlans yn ogystal â staff carchar, gweithwyr chwilio ac achub a gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.  

Dywedodd Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru: “Mae’n gweithwyr gwasanaethau brys yn haeddu teimlo’n ddiogel wrth iddyn nhw ein gwasanaethu ni ar y rheng flaen.   

“Nawr, yn fwy nag erioed, fe ddylem ni werthfawrogi’r gwaith maen nhw’n ei wneud a gwneud popeth yn ein gallu i leihau’r risg o ddod i gysylltiad gydag ymddygiad treisgar. 

“Rydym ni angen i’r cyhoedd eu trin â pharch a gadael iddyn nhw wneud eu gwaith. 

“Y tu ôl i’w gwisg gwasanaethau brys mae bodau dynol a phan maen nhw’n dod i gysylltiad ag ymddygiad treisgar gall gael effaith arwyddocaol ar eu bywydau.” 

Ychwanegodd Andrew Hynes, Cadeirydd Cydweithredfa’r GIG yn erbyn Trais, a sefydlwyd i wella hysbysu am ddigwyddiadau a chefnogi dioddefwyr trwy’r broses erlyn yn well: “Mae’n adlewyrchiad trist ar gymdeithas pan fo rhai pobl yn teimlo fod ganddyn nhw’r hawl i ymosod yn gorfforol neu’n eiriol ar staff y GIG. 

“Mae effaith un digwyddiad yn unig yn llawer mwy na mae pobl yn ei sylweddoli. 

“Mae ymateb yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r llysoedd yn gyflym ac yn effeithlon, a bydd canlyniadau colli rheolaeth am foment yn arwain at gosbau difrifol iawn. 

“Rydym ni’n gofyn i bobl weithredu’n ystyrlon, gydag amynedd, wrth ofyn am neu dderbyn gofal meddygol.” 

Cafodd y ddedfryd uchafswm dan y Ddeddf Ymosodiad ar Weithwyr Brys (Troseddau) ei ddyblu yn 2018 o chwe mis i 12 mis yn y carchar, ond yn fuan gallai troseddwyr wynebu hyd at ddwy flynedd yn y carchar dan ddeddfau newydd. 

Dywedodd Tony Dicken, Erlynydd y Goron Rhanbarth CPS Cymru Wales: “Mae unrhyw ymosodiad neu gam-drin gweithiwr brys yn cael ei ystyried yn ddifrifol iawn gan Wasanaeth Erlyn y Goron.   

“Mae’r ffaith fod y dioddefwr wedi bod yn darparu gwasanaeth i’r cyhoedd yn cael ei danlinellu fel nodwedd sy’n gwaethygu’r drosedd pan fo llysoedd yn dedfrydu, sy’n medru cynyddu’r gosb a gyflwynir. 

“Mae gweithwyr gwasanaethau brys yno i gynorthwyo’r cyhoedd a dylent fedru gwneud hynny’n ddiogel a heb ofn. 

“Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ymrwymo i ddefnyddio holl rym y gyfraith i’w diogelu.” 

Arweinir yr ymgyrch Gyda Ni, Nid yn ein herbyn gan y Grŵp Gwasanaethau Brys ar y Cyd yng Nghymru, sy’n cynnwys y gwasanaethau goleuadau glas, y Lluoedd Arfog, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, i ystyried materion o fudd i bawb ar draws y gwasanaethau. 

Cofrestrwch eich cefnogaeth ac ymuno yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn neu #WithUsNotAgainstUs.